Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yr haf hwn, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu ni gyda’n gwaith yn Barics Chwarel Pen y Bryn, Dyffryn Nantlle. 

Mae’r safle yn cynnwys bloc o bedwar barics a nodweddion cysylltiedig eraill – addasiadau wnaethpwyd yn yr 1860au i adeilad yr ail-ganrif-ar-bymtheg. Nod y prosiect hwn fydd cynnig gwell dealltwriaeth o gyfnodau a datblygiad y barics. Bydd cloddiad yn ceisio sicrhau tystiolaeth o’r gweithgareddau fu’n digwydd yma, a chynnig tystiolaeth o ddiwylliant materol y chwarelwyr a’u teuluoedd. 


Mae lleoedd yn brin felly dylai’r sawl sydd yn awyddus i gymryd rhan gysylltu cyn gynted â phosib. Byddwyn yn cynnig hyfforddiant llawn i’r rhai fydd yn ymuno.  
Mae lleoedd ar gael ar y dyddiadau canlynol: 

Mercher 3ydd –              Gwener Gorffennaf 5ed   
Llun 8fed –                     Gwener Gorffennaf 12fed   
Llun 15fed –                   Gwener Gorffennaf 19eg  
Llun 22ain –                   Mawrth Gorffennaf 23ain  
   

Amseroedd ar gyfer pob dydd: 10:00am – 4:00pm 


Hefyd, fel rhan o’r Ŵyl Archaeolegol, cynhelir diwrnod agored i’r cyhoedd dydd Sul Gorffennaf 21ain pryd byddwn yn cynnig teithiau tywysedig o amgylch y safle. Hefyd bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwahodd ysgolion lleol, ynghyd â’r Clwb Archaeolegwyr Ifanc i ddod i’n helpu ni gyda’n gwaith ar y safle. 

Os ydych yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â dan.amor@heneb.co.uk 01248 366970 Am unrhyw ymholiad gan y wasg, cysylltwch â dan.amor@heneb.co.uk 01248 366970