Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd digwyddiadau digynsail 2020 yn mynd i lawr mewn hanes — ond ym mis Ionawr mae Cadw yn dathlu canlyniadau o'r flwyddyn ariannol flaenorol, Ebrill 2019–Mawrth 2020.

Heddiw (12 Ionawr) mae’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol wedi rhyddhau ei adroddiad blynyddol am y cyfnod — gan ddatgelu refeniw incwm sy'n torri record o fwy na £8 miliwn.

Mae hyn yn gynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol, ac mae Cadw yn nodi bod y llwyddiant hwn yn deillio o’r gwytnwch a ddangoswyd trwy’r pandemig — gan ddarparu cyllid ar gyfer popeth o brosiectau cadwraeth hanfodol i ddatblygu rhaglen docynnau ar-lein newydd erbyn haf 2020.

Dywed yr adroddiad, yn ystod Ebrill 2019 — Mawrth 2020, fod ymgyrchoedd a digwyddiadau arloesol Cadw — fel Gŵyl Hanes Plant ym mis Awst — wedi helpu i ddenu 1.26 miliwn o ymwelwyr i safleoedd hanesyddol Cymru, gan arwain at refeniw derbyniadau trawiadol o £4.7 miliwn.

Yn y cyfamser, fe gyrhaeddodd nifer aelodau Cadw uchafbwynt trawiadol, gyda 44,100 wedi'u cofrestru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol — gan gynhyrchu incwm o bron i £1 miliwn.

Er bod stormydd mis Chwefror 2020 a chau pob safle Cadw ynghanol mis Mawrth wedi cael effaith, mae'r canlyniadau uchod yn rhoi'r sefydliad mewn lle da i wynebu’r argyfwng COVID-19 a ddilynodd — gan ganiatáu i'r gwaith craidd o ofalu am yr amgylchedd hanesyddol barhau, gan sicrhau budd busnesau lleol, cymunedau cynnal ac aelodau Cadw.

Mewn gwirionedd, mae Cadw wedi parhau i dyfu o ran ei aelodau ffyddlon trwy fisoedd anodd y pandemig — gyda 45,596 yn aelodau hyd yma a chyfradd cadw o flwyddyn i flwyddyn o 87%.

Gellir priodoli'r llwyddiannau hyn i raddau helaeth i werthoedd arweinyddiaeth, proffesiynoldeb, angerdd, creadigrwydd, dilysrwydd a pharch y sefydliad — a roddwyd ar waith gan fwrdd newydd sbon Cadw, a grëwyd yn 2019.

Ar ben hynny, mae holl waith Cadw yn cael ei lywio gan Flaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru  a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, yn 2018. Diffinnir y blaenoriaethau hyn fel a ganlyn: gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol, gwneud sgiliau yn bwysig, cyflawni trwy bartneriaethau, coleddu a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol a gwneud i'n hamgylchedd hanesyddol weithio er lles economaidd Cymru.

Ar ben hynny, mae holl waith Cadw yn cael ei lywio gan Flaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru  a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, yn 2018. Diffinnir y blaenoriaethau hyn fel a ganlyn: gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol, gwneud sgiliau yn bwysig, cyflawni trwy bartneriaethau, coleddu a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol a gwneud i'n hamgylchedd hanesyddol weithio er lles economaidd Cymru.

Gan ganiatáu i amddiffyn a chadwraeth treftadaeth barhau’n ddiogel yn ystod y pandemig, roedd y buddsoddiad hwn yn cwmpasu ystod enfawr o raglenni gwaith ar raddfa fach a mawr — gan gynnwys y rhai a gynlluniwyd ar gyfer Castell Caerffili, Llys Tretŵr a Phorth y Brenin yng Nghastell Caernarfon.

Mae adroddiad 2019-20 hefyd yn manylu ar fwy o ffocws ar ddatblygiad proffesiynol parhaus yn Cadw — blaenoriaeth bwysig gyda mwy na 40,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan y sectorau adeiladu treftadaeth, yr amgylchedd hanesyddol a thwristiaeth treftadaeth.

Yn ystod y flwyddyn hon yn unig, cefnogwyd pum aelod eithriadol o staff i ymgymryd â chymwysterau allanol mewn cyfrifeg, marchnata, tywys teithiau a chadwraeth — yr olaf o'r rhain sy'n cael ei redeg gan y Gymdeithas Diogelu Adeiladau Hynafol.

Defnyddiwyd menter allanol, partneriaethau rhanddeiliaid, cymunedol a hanesyddol cymheiriaid hefyd i hogi'r amrywiaeth eang o sgiliau yn Cadw — o arbenigedd crefft draddodiadol a gwybodaeth archeolegol ddofn, i ddefnyddio technoleg arloesol a mentrau marchnata newydd.

Ar ben hynny, ym mis Medi 2019 roedd Cadw yn bartner gyda channoedd o gyrff treftadaeth gyhoeddus, breifat a gwirfoddol ar gyfer gŵyl flynyddol Drysau Agored. O dan arweiniad Cadw, gwelodd y digwyddiad mis o hyd 245 o berlau hanes cudd Cymru ar agor am ddim — gyda mwy na 34,000 o ymwelwyr yn cael eu croesawu ac yn cael cyfle i goleddu a mwynhau amgylchedd hanesyddol Cymru.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

“Mae’r canlyniadau rhagorol yn ein hadroddiad ar gyfer 2019-20 yn dangos sut y llwyddodd Cadw i gyflawni ei gylch gwaith i amddiffyn amgylchedd hanesyddol Cymru, wrth wella mynediad y cyhoedd a gwneud i dreftadaeth Cymru weithio i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

“Ers hynny, mae tîm Cadw wedi brwydro yn erbyn sawl her ddigynsail — ond mae ein cylch gwaith yn ddigyfnewid. Cyn y Cyfnod Clo diweddaraf, buom yn gweithio'n ddiwyd i ailagor safleoedd yn ddiogel, parhau â'n gwaith cadwraeth critigol ac ymgymryd â gweithgareddau eraill sy'n codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth Gymru.

“Mae'n hyfryd myfyrio ar lwyddiannau rhagorol y flwyddyn ariannol ddiwethaf — ond wrth i ni edrych yn ôl ar 2020 yn ei chyfanrwydd, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i aelodau ffyddlon Cadw a'n hymwelwyr am eu cefnogaeth ddiwyro. Rydym mor ddiolchgar ac yn edrych ymlaen at eich croesawu’n ôl i’n casgliad o safleoedd hanesyddol — cyn gynted ag y gallwn.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas:

“Yn 2019-20 ceisiodd Cadw ddod o hyd i ffyrdd newydd o ennyn diddordeb preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd yn hanes cyfoethog Cymru, i gyd wrth gyflawni’r blaenoriaethau amgylchedd hanesyddol a osodais yn 2018 — ac mae’n ddiogel dweud bod yr amcanion wedi’u cyflawni.

“Yn fwy na hynny, fe wnaeth y gwaith caled a gyflawnwyd a’r canlyniadau torri record a sicrhawyd yn ystod y cyfnod, baratoi’r ffordd i Cadw aros yn gryf, yn wydn ac yn gadarnhaol yn ystod rhai o fisoedd anoddaf 2020. Felly, wrth inni edrych ymlaen at yr hyn yr ydym i gyd yn gobeithio y bydd yn 2021 fwy disglair, hoffwn ddiolch i bawb yn Cadw am eu gwaith caled yn ystod 2019 a 2020. Mae eich ymroddiad wedi gwneud byd o wahaniaeth.

“Mae safleoedd Cadw yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at economi twristiaeth Cymru, a gobeithiaf y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael eu hannog i ddarganfod ein hanes diddorol wrth i Gymru edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr eto, pan mae’n ddiogel gwneud hynny.”

I gael crynodeb llawn o ganlyniadau 2019-20 Cadw, edrychwch ar yr adroddiad swyddogol yma.