Skip to main content
Llys a Chastell Tretŵr
Wedi ei gyhoeddi

Wedi 13 mis o waith cadwraeth a datblygu hollbwysig, ddoe (23 Mehefin) wnaeth Cadw cyhoeddi bod ysgubor restredig Gradd II ar safle Llys a Chastell Tretŵr yn cael ei defnyddio gan y cyhoedd eto.

Ers dechrau arni ym mis Tachwedd 2021, mae Llys Tretŵr wedi bod yn destun gwaith cadwraeth helaeth gyda’r gwaith yn canolbwyntio ar atgyweirio ysgubor restredig Gradd II ar y safle – a thrwy hynny ddiogelu’r heneb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Tretower Court Barn - rear exterior view

Mae’r Llys a’r Castell wedi bodoli ers 1100, a bellach mae’n cynnwys technegau dehongli clyweledol i adrodd stori pawb sydd wedi troedio lloriau’r adeiladau cyn i Cadw ddod i’w hadfer – o’r goresgynwyr Normanaidd a Thywysogion Cymru, i bwysigion Rhyfel y Rhosynnau a theulu’r Vaughan, a hyd at ymgyrchwyr yr 20fed ganrif a helpodd i achub yr adeiladau rhag troi’n adfeilion.

Gan gynnwys taith sain 18 stop sy’n manylu ar orffennol cythryblus y safle a phaneli newydd sy’n esbonio hanes yr ysgubor adferedig, mae dehongliad newydd y safle yn gwahodd ymwelwyr i brofi’r heneb mewn ffordd gwbl newydd.

Tretower Court Barn - audio tour points

Yn ystod haf 2022, bydd dehongliad profiadol y tu mewn i Ystafelloedd y Stiward yn Llys Tretŵr yn rhoi mwy o lais i hanes yr heneb – gan ddefnyddio technegau sain, gweledol a chorfforol i ymdrochi ymwelwyr yn straeon cyfoethog y safle.

Nid yn unig hynny, ond mae rhan o’r ysgubor adferedig wedi’i thrawsnewid yn fwyty newydd, hardd o’r enw Y Bwyty Bach – dan arweiniad y cogydd, Connor Turner.

Tretower Court Barn - front view of restaurant entrance

Gyda’r gallu i ddarparu 30 o brydau bwyd ar y tro a gardd gegin, gall ymwelwyr flasu bwyd Prydeinig modern sy’n dathlu cynnyrch tymhorol a lleol, a hynny gan gogydd sydd, cyn hyn, wedi derbyn dwy rosét a gwobr Tafarn y Flwyddyn.

Mae gwelliannau pellach i brofiad yr ymwelydd yn cynnwys derbynfa newydd i ymwelwyr; toiledau cyhoeddus hygyrch; gofod digwyddiadau i fusnesau lleol ei rentu ar gyfer stondinau dros dro; a chyfleusterau i geidwaid. 

Dan arweiniad John Weaver Contractors, mae’r safle bellach yn addas i’r cyhoedd ei ddefnyddio ac mae hyd yn oed yn gartref i fywyd gwyllt lleol: cynigir ‘penty’ ar gyfer amrywiaeth eang o ystlumod, gan gynnwys: yr ystlum pedol mwyaf, y pedol lleiaf, yr hirglust a’r ystlumod lleiaf – y cyffredin a'r soprano – prin iawn yn nho’r ysgubor. 

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

'Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith datblygu a chadwraeth yn Llys Tretŵr – yn enwedig y gwaith dehongli newydd – yn annog mwy o ymwelwyr i ddarganfod yr hanes a’r diwylliant lleol sydd ar gael yma yng Nghrucywel.

'Mae gwaith cadwraeth fel hyn yn hanfodol er mwyn diogelu ein henebion ledled Cymru, gan sicrhau bod y safleoedd hanesyddol arwyddocaol hyn yn cael eu gwarchod er budd cenedlaethau’r dyfodol.'

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

'Rhoddodd Llys a Chastell Tretŵr groeso i feirdd a phwysigion drwy gydol yr Oesoedd Canol, a chan fod y gwaith cadwraeth a datblygu bellach wedi’i gwblhau yn yr heneb, edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bell ac agos i ddarganfod hanes rhyfeddol y safle.

'Gobeithiwn y bydd y gwelliannau hyn i brofiad yr ymwelydd yn annog mwy o ymwelwyr ac aelodau Cadw i archwilio’r safle, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Connor yn Y Bwyty Bach i ddarparu prydau bwyd o’r radd flaenaf i’n hymwelwyr – mewn lleoliad gwirioneddol ddiddorol a hardd.'

Cadw director Gwilym Hughes and Minister Dawn Bowden inside Tretower Barn

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw.

I wneud archeb cinio yn Y Bwyty Bach, ffoniwch: 01874 731196 - https://ybwytybach.com

Ymweld â Llys a Chastell Tretŵr