Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw wedi lansio rhaglen o ddigwyddiadau newydd sbon i geisio denu mwy o ymwelwyr o genhedlaeth y mileniwm i safleoedd hanesyddol arbennig Cymru. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys nosweithiau meic agored a sesiynau creu coron flodau.

Yn ôl astudiaethau diweddar, mae mwy o bobl ifanc rhwng 22 a 38 oed (cenhedlaeth y mileniwm) nag erioed yn ymweld â chestyll canoloesol, abatai a thai hanesyddol yng Nghymru, ac mae Cadw wedi creu cyfres o ddigwyddiadau unigryw o'r enw’r Canoloesoedd Cyfoes i gynnig digonedd o wahanol ffyrdd o ddarganfod treftadaeth Cymru.

Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau wedi cael ei chreu er mwyn helpu i ymwelwyr ddarganfod a rhannu hanes Cymru mewn ffordd fodern. Mae'r gyfres yn cynnwys digwyddiadau fel gweithdai Peintio a Phrosecco gyda Brush and Bubbles, cwmni a ddaeth yn enwog ar Instagram, a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar yn yr awyr agored mewn safleoedd heddychlon tu hwnt.

Bydd y digwyddiadau unigryw hyn yn cael eu cynnal ar safleoedd Cadw ledled Cymru yn ystod yr haf, ac mae tocynnau ar gyfer y gweithdai a’r gweithgareddau ar gael i’w prynu nawr ar wefan Cadw.

Mae’r digwyddiadau’n rhan o ymgyrch Ailddarganfod Hanes Cadw — a fydd yn taflu goleuni modern ar dreftadaeth Cymru ac yn cynnig ffyrdd newydd i bobl ifanc brofi safleoedd hanesyddol Cymru yn ystod Blwyddyn Darganfod 2019.

Cafodd yr ymgyrch ei chreu yn dilyn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-2018 ar Gelfyddydau, Amgueddfeydd, Treftadaeth a Llyfrgelloedd. Dywedodd 71% o’r ymatebwyr a oedd rhwng 25 a 34 oed eu bod wedi ymweld â safle treftadaeth yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o fynychu gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru. Dywedodd 83% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed eu bod yn mynychu’r gweithgareddau hyn o leiaf 3 gwaith y flwyddyn.

Yn ôl gwaith ymchwil Cadw ar ei ymwelwyr yn ystod haf 2018, y grŵp o bobl rhwng 16 a 24 oed oedd y ddemograffeg sy’n tyfu gyflymaf. Y grŵp hwn oedd 10% o'r holl ymwelwyr a arolygwyd (o’i gymharu â 7% yn 2015). Roedd tueddiadau tebyg i’w gweld yn ymchwil cyfnod rhyng-dymhorol 2018 Cadw. Roedd bron i hanner yr ymwelwyr a atebodd yr arolwg rhwng 24 a 44 oed. Canfu’r ymchwil hefyd fod arddangosfeydd a digwyddiadau ar safleoedd Cadw yn bethau sy’n dod yn gynyddol bwysig i ysgogi pobl i benderfynu ymweld â’r safleoedd.

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae’r darn cenedlaethol hwn o ymchwil, ynghyd â’n harolygon ymwelwyr, yn dangos cynulleidfa gynyddol o ymwelwyr o genhedlaeth y mileniwm i safleoedd hanesyddol Cymru.

“Rydym wedi ymateb i’r duedd hon drwy ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i gipio dychymyg ymwelwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd fel ei gilydd, gan eu hannog i edrych ar dreftadaeth hynod ddiddorol Cymru mewn ffyrdd newydd, ffres.

“Mae ysbrydoli pobl ifanc i ymgolli yn hanes Cymru yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu ein safleoedd hanesyddol ar gyfer y dyfodol, felly rwy’n gobeithio y byddan nhw’n cael eu hysbrydoli i ymweld â safle Cadw yn yr haf.”

I gael y newyddion diweddaraf am ymgyrch Hanes Heddiw 2019 Cadw, ac i gael rhagor o wybodaeth am raglen ddigwyddiadau’r Canoloesoedd Cyfoes,  @CadwCymru neu @CadwWales ar Twitter, a dewch o hyd i Cadw ar Facebook.

Mae tocynnau ar gyfer rhaglen ddigwyddiadau'r Canoloesoedd Cyfoes nawr ar gael i'w prynu ar wefan Cadw yma.

Bydd aelodau Cadw yn cael gostyngiad o 10% ar rai tocynnau.