Castell Caerffili yn agor ar benwythnosau yn unig
Bydd castell mwyaf Cymru – Castell Caerffili – yn agor ar benwythnosau yn unig o’r wythnos sy’n dechrau dydd Llun, 15 Tachwedd, tan gyfnod y Nadolig, tra bydd Porthdy Mewnol Dwyreiniol yr heneb yn elwa o waith cadwraeth hanfodol.
Bydd gwaith adnewyddu i’r Porthdy Mewnol Dwyreiniol yn diogelu’r strwythur, gyda’r gwaith yn cynnwys gorchudd to newydd; gwarchod topiau’r waliau a’r tyrrau; trefniadau draenio newydd; ac atgyweirio ffenestri.
Oherwydd uchder y Porthdy – dros dri llawr – gall ymwelwyr ddisgwyl gweld sgaffaldiau am tua chwe wythnos, gyda mesurau iechyd a diogelwch llym ar waith tra bydd polau’r sgaffaldiau’n cael eu codi.
Mae’r cyfan yn rhan o ddatblygiad gwerth £5m gan Cadw a phrosiect cadwraeth ar gyfer cawr cysglyd de Cymru, a fydd yn dechrau eleni ac yn para tan 2023.
Hoffai Cadw ddiolch i ymwelwyr ac aelodau Cadw am eu dealltwriaeth tra bydd Castell Caerffili yn agor ar benwythnosau yn unig. Mae’r cau tymor byr hwn yn ein galluogi i warantu iechyd a diogelwch ymwelwyr tra bod y gwaith hanfodol hwn yn mynd rhagddo.