Cronfa Adfer Diwylliannol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ail rownd o grantiau’r Gronfa Adfer Diwylliannol i helpu i gefnogi’r sector diwylliannol yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Nod yr ail gam hwn o gyllid yw diogelu busnesau a sefydliadau cynaliadwy a chymaint o swyddi â phosibl er mwyn sicrhau bod y sector diwylliannol yn goroesi argyfwng Covid-19 ac yn parhau i fod yn fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy yn 2021 a thu hwnt. Mae’r sector yn cynnwys theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, mannau recordio ac ymarfer, atyniadau a sefydliadau treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, archifau, sinemâu annibynnol, lleoliadau comedi a digwyddiadau.
Bydd y cyllid yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021.
Bydd y Gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau o’r wythnos sy’n dechrau ar 6 Ebrill ac yn cau ar 20 Ebrill. Cyhoeddir y dyddiadau ar gyfer ceisiadau i’r Gronfa gan weithwyr llawrydd, ar wahân.
Dysgwch fwy o wybodaeth am y gronfa ac i asesu a yw eich sefydliad neu fusnes yn gymwys i wneud cais.