Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bedair blynedd wedi’r perfformiadau gwreiddiol yng nghastell Caerffili ym mis Chwefror 2017, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o ryddhau ei gynhyrchiad gwobrwyol o Macbeth fel rhan o raglen Theatr Gen Eto ar gyfer 2021.

Gyda chyfieithiad arbennig o glasur Shakespeare gan y diweddar Gwyn Thomas a chast yn cynnwys Richard Lynch, Ffion Dafis, Llion Williams a Phylip Harries, yn ogystal â chast cymunedol, roedd Macbeth yn gyfle i weld castell ysblennydd Caerffili fel na welwyd mohono erioed o’r blaen. Cafodd y cynhyrchiad hefyd ei ddarlledu’n fyw i sinemâu ledled Cymru ar y pryd.

Nawr, bydd y cynhyrchiad ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, gyda Chapsiynau Caeedig Saesneg a Chymraeg hefyd.

“Cyfieithiad gwefreiddiol o un o glasuron byd theatr.” Golwg

“The best production of Macbeth I have seen in any language.Arts Scene in Wales

“A cold and spooky medieval castle is possibly the best location for a production of Shakespeare’s brutal tragedy Macbeth.” Daily Post

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr y cynhyrchiad:

“Nid pawb oedd yn medru dod i Gastell Caerffili bedair blynedd yn ôl, ond trwy gyfrwng Theatr Gen Eto byddwn yn mynd â’r castell i bob cwr o Gymru, ac yn dod â’r cynhyrchiad safle-benodol hwn o Macbeth i gynulleidfaoedd yn eu cartrefi ledled y byd.”

Bydd Macbeth ar gael i’w wylio o 7pm ddydd Mercher 27 Ionawr 2021 ar sianel YouTube Theatr Genedlaethol Cymru ac ar AM, sy’n lansio fersiwn diweddaraf y platfform yr un diwrnod.

Bydd y cynhyrchiad ar gael i’w wylio am 6 mis, ac fe fydd ar gael yn barhaol ar wefan y cwmni fel adnodd addysgiadol i ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Lansiwyd Theatr Gen Eto fel rhan o raglen newydd o waith gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn ymateb i argyfwng y Coronafeirws. Dyma gyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r gorffennol ar sgrin tra bod theatrau ledled Cymru a thu hwnt ar gau.

Bydd rhagor o gynyrchiadau’r cwmni yn cael eu rhyddhau o’r archif dros y misoedd nesaf.