Skip to main content
Castell Coety
Wedi ei gyhoeddi

Mae’n fis Chwefror ac mae prosiect cadwraeth enfawr yn dechrau yng Nghastell Coety, fydd yn sicrhau bod y castell yn parhau i fod wrth galon y gymuned am genedlaethau i ddod.

Saif y castell yn falch yng nghanol pentref Coety, a bydd yn elwa o waith sy’n debygol o bara am dair blynedd fydd yn defnyddio deunyddiau a thechnegau adeiladu traddodiadol er mwyn helpu adfer y castell a sicrhau ei ddyfodol. Mae’r dull sy’n cael ei ddefnyddio gan Cadw wrth wneud gwaith cadwraeth o’r fath yn sicrhau bod hygrededd ac ymddangosiad y castell yn parhau i fod yn ddilys.

Bydd y prosiect yn cynnwys amrywiol elfennau o waith cadwraeth gan gynnwys ail-bwyntio, ategu strwythurol ac ychydig o ailadeiladu gwaith maen, cryfhau topiau waliau, a gosod linteli coll. Caiff cofnodion manwl eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith er mwyn helpu Cadw ddeall hanes y castell cystal â phosibl a sut yr esblygodd dros amser.

Mae’r gwaith yn rhan o fuddsoddiad £4.25m yng nghadwraeth a datblygiad safleoedd sydd o dan ofal Cadw yn ystod 2020/21.

Bydd gerddi’r castell yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd tra bo’r gwaith yn cael ei wneud, fodd bynnag ni fydd prif strwythur y castell yn hygyrch am weddill y flwyddyn o fis Mawrth 2020. Mae manylion y cyfyngiadau ar gael ar wefan Cadw. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu, gyda’r nod o sicrhau bod y pentref ehangach yn chwarae rhan gyflawn yng nghadwraeth y castell. Dylai'r rhai sy'n dymuno cynnal digwyddiadau cymunedol yn y castell gysylltu â Cadw i asesu ymarferoldeb cynnal y digwyddiadau ar y safle.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae Castell Coety yn safle rhyfeddol, gyda’i arddulliau pensaernïol helaeth yn adrodd stori ei hanes cyfoethog. Mae buddsoddiad parhaus Cadw yng nghadwraeth henebion hanesyddol Cymru yn helpu gwarchod y gorffennol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau ac y gall cymunedau ei drysori.”

John Weaver Contractors LTD o Abertawe sydd wedi ennill y cytundeb i wneud y gwaith.