Cyhoeddi’r adroddiad am yr adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cadw
Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth y byddai Roger Lewis yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried trefniadau llywodraethu presennol Cadw a’r ddarpariaeth ehangach o wasanaethau treftadaeth gyhoeddus ledled Cymru.
Cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr adolygiad annibynnol heddiw, 5 Rhagfyr 2023.
Mae Cadw wedi perfformio’n dda yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chyflawniadau sylweddol yn y rolau niferus y mae’n ymgymryd â nhw. Cafodd hyn ei gadarnhau gan y tîm adolygu yng nghyflwyniad y Cadeirydd, gyda’r datganiad: ‘Mae tîm Cadw i’w longyfarch am gyflawni ei genhadaeth a’i bwrpas yn drawiadol ar draws ei holl feysydd cyfrifoldeb niferus ac amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf’.
Mae’r rhain yn cynnwys ei rôl yn cefnogi’r gwaith o ddiogelu amgylchedd hanesyddol ehangach Cymru, ei rôl fel busnes ymwelwyr o bwys, ac wrth ddiogelu a rhoi mynediad diogel i’r cyhoedd i’r 132 o safleoedd hanesyddol yn ei ofal. Mae’r adolygiad yn cydnabod yn iawn nad yw ‘ehangder a chymhlethdod gwaith Cadw i’w tanbrisio’.
Mae’r adolygiad yn nodi nifer o argymhellion a fydd yn gwella perfformiad Cadw. Mae’r argymhellion yn amrywio o ran cwmpas ac yn cynnwys nifer sydd wedi’u bwriadu i helpu i egluro rôl Bwrdd Cadw a sut i addasu gweithdrefnau’r llywodraeth i ganiatáu i Cadw weithredu mewn ffordd sydd hyd yn oed yn fwy effeithiol.
Mae sawl argymhelliad yn awgrymu sut i atgyfnerthu’r ffyrdd y mae Cadw yn gweithio gyda’i bartneriaid, ac mae eraill yn ystyried sut y gellir gwella rhai o weithgareddau amrywiol Cadw i gynorthwyo ei ddiben craidd.
Bydd y Diprwy Weinidog yn treulio amser yn ystyried yr adroddiad yn fanwl ac yn ymateb i’r argymhellion yn gynnar yn 2024.