Dathlu 7 o adeiladau rhestredig ‘hynotaf’ Cymru
Ac yn eu plith talp o lo, bloc toiledau tanddaearol a cherflun Bwdha enfawr.
Mae'r mis Rhagfyr hwn yn nodi 15 mlynedd ers cwblhau arolwg cenedlaethol Cadw o adeiladau rhestredig, a welodd arolygwyr safleoedd hanesyddol yn chwilota ar draws y wlad er mwyn dod o hyd i adeiladau sy'n deilwng o ennill statws rhestredig.
Mae cannoedd o restrau newydd wedi’u caniatáu ers i’r arolwg cenedlaethol gael ei gwblhau gyntaf ym mis Rhagfyr 2005 — gan ddod â nifer adeiladau gwarchodedig cyfredol Cymru i 30,036*.
Pan ffurfiwyd Cadw ym 1984, cymerodd gyfrifoldeb am nodi adeiladau i'w rhestru yng Nghymru — gyda phob ychwanegiad wedi'i ddewis oherwydd ei hanes, pensaernïaeth neu oedran unigryw; heb sôn am ei werth arbennig i gymunedau Cymru.
Yn wir, mae adeiladau rhestredig yn ffynhonnell wybodaeth unigryw am orffennol Cymru — ond nid yw pob adeilad mor gonfensiynol ag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. O dalp glo mwyaf y byd i flwch ffôn ar ochr y ffordd; dyma 7 o'r adeiladau hynotaf a restrwyd gan Cadw hyd yma ...
1. Talp glo, Tredegar
Cafodd y lwmp chwedlonol hwn o lo — y mwyaf yn y byd — ei gloddio gan y glöwr arbenigol, John ‘Collier Mawr’ Jones, i’w arddangos yn Arddangosfa Fawr 1851 yn y Crystal Palace.
Yn ystod y cludo, torrodd darn 5.08 tunnell oddi ar y bloc cychwynnol oedd yn pwyso 20.32 tunnell, ac wedi hynny fe’i dychwelwyd i dir Tŷ Bedwellte - cartref y teulu Homfray.
Ganrif yn ddiweddarach, torrwyd bloc 2.03 tunnell o’r un wythïen o lo ar gyfer Gŵyl Prydain, gyda’r ddau floc yn cael eu rhestru fel teyrnged unigryw i’r diwydiant glo yn Ne Cymru ac i fedrusrwydd glowyr y rhanbarth.
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Awst 1992 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Hydref 1999)
© Robin Drayton / Talp glo rhestredig Gradd II, Parc Bedwellte, Tredegar / CC BY-SA 2.0
2. Toiledau Ynys yr Aes, Caerdydd
Mae’r toiledau tanddaearol Fictoraidd hyn, a adeiladwyd tua 1898 yn ystod ad-drefnu ardaloedd mynwent yr Aes a Sant Ioan yng nghanol Caerdydd, yn cynnig seibiant tŷ bach sy’ mor eiconig ag y byddech chi fyth yn debygol o'i fwynhau yng Nghymru.
Mae'r toiledau hyn sy’n cynnwys rheiliau haearn, rheiliau llaw pres, terfyniadau cywrain a chiwbiau moethus, yn dal i gael eu defnyddio heddiw - ac mae'n debyg eu bod wedi darparu cyfleustra i tua hanner poblogaeth bresennol Cymru, a hynny o leiaf unwaith.
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Rhagfyr 1996 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Ebrill 1999)
© No Swan So Fine, CC BY-SA 4.0, drwy Wikimedia Commons
3. Bwdha Portmeirion, Penrhyndeudraeth
Dyluniwyd a threfnwyd Portmeirion, tafell Cymru ei hun o'r Eidal, gan y pensaer enwog, Syr Clough Williams-Ellis, wedi iddo brynu'r ystâd ym 1926.
Ym 1963-64, codwyd lloches yn arbennig ym Mhortmeirion i gartrefu cerflun Bwdha sydd yn fwy o faint na dyn arferol ac fe’i ddefnyddiwyd yn ystod ffilmio The Inn of the Sixth Happiness yn 1958, gyda Ingrid Bergman yn chwarae’r brif ran. Mae'n un o lawer o adeileddau rhestredig a ddyluniwyd gan Williams-Ellis ar gyfer y pentref gweledigaethol hwn.
Cydnabuwyd fel adeilad rhestredig Gradd II ym mis Ionawr 1971 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Awst 2002)
© Ben Salter from Wales, CC BY 2.0, drwy Wikimedia Commons
4. Colomendy Glyn Taf, Pontypridd
Er bod amlosgi yn cael ei arfer yn y Gymru gynhanesyddol, o'r cyfnod canoloesol hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn beth gwaharddedig ac yn rhywbeth na chlywyd mo’i debyg i raddau helaeth.
Dr William Price - meddyg lleol arloesol o Lyn Taf - fu’n gyfrifol am baratoi’r ffordd ar gyfer newid. Ym 1884 trefnodd Dr Price amlosgiad ac ymladdodd frwydr gyfreithiol lwyddiannus i amddiffyn ei weithredoedd. At hynny, mae'n enwog am ddenu miloedd o ymwelwyr i'w goelcerth angladdol ei hun ym 1893.
Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ym 1924, daeth Glyn Taf yn gartref i amlosgfa gyntaf Cymru, gyda’r colomendy (columbarium) yn cael ei ychwanegu yn y 1930au i dderbyn yrnau lludw o'r adeilad cyfagos.
Wedi'i gydnabod fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ym mis Tachwedd 2020
© Hawlfraint y Goron (2020), Cadw
5. Blwch 161 yr AA, Nantyffin
Wedi'i leoli ar yr A40 rhwng Crucywel a Thretŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'r blwch ffôn chwe deg oed yn un o ddim ond tri sydd wedi goroesi yn eu lleoliadau gwreiddiol yng Nghymru.
Roedden nhw’n olygfa gyffredin ar un adeg ar ochr ffordd yn y 1950au, a byddai'r blychau hyn oedd wedi'u rhifo yn cynnwys diffoddwyr tân, mapiau ffyrdd a ffôn i alw am gymorth pe bai cerbyd yn torri i lawr — ond dim ond aelodau'r Gymdeithas Foduro (Automobile Association: AA) oedd yn cael ei ddefnyddio.
Wedi'i gydnabod fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ym mis Gorffennaf 2020
© Hawlfraint y Goron (2020), Cadw
6. Arwydd Ystâd Ddiwydiannol Court Road, Llantarnam
Ar ôl i'r Ddeddf Trefi Newydd gael ei phasio ym 1946, nodwyd yr ardal sy’n ymestyn o ogledd Casnewydd hyd at Bont-y-pŵl ar gyfer datblygu tref newydd - a elwir heddiw yn Cwmbrân.
Roedd sefydlu Cwmbrân fel yr unig dref fawr newydd yng Nghymru yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y cyfnod wedi’r rhyfel ac roedd yn garreg filltir bwysig ym maes cynllunio a datblygu yng Nghymru.
Yn ogystal â thai modern i weithwyr a gwell cysylltiadau trafnidiaeth, darparwyd meysydd datblygu diwydiannol newydd hefyd i annog cyflogaeth newydd. Mae'r arwydd hynod nodedig, sydd i’w weld yng nghornel ogledd-ddwyreiniol cylchfan yn Nhorfaen, yn perthyn i gam 3 datblygiad Ystâd Ddiwydiannol Court Road.
Mae'r strwythur dur peintiedig tal, tair ochrog yn enghraifft glasurol o ddylunio ar ôl y rhyfel, ac yn ymgorffori'n berffaith ysbryd oes datblygiad Cwmbrân fel tref newydd.
Wedi'i gydnabod fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ym mis Awst 2019
© Hawlfraint y Goron (2020), Cadw
7. Gorsaf Bŵer Cwm Dyli, Beddgelert
Yn swatio yng Nghwm ysblennydd Glaslyn, adeiladwyd yr orsaf hydro-electrig arloesol hon ym 1906 er mwyn darparu trydan i dair chwarel gyfagos.
Y tŷ tyrbin hydro-electrig mawr hirsgwar hwn, a lysenwyd ‘y capel yn y dyffryn’ oherwydd ei ddyluniad yn null basilica, oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio Cerrynt Eiledol (Alternating Current (AC)) — a ganmolwyd fel ‘buddugoliaeth o drosglwyddiad modern’.
Mewn gwirionedd, dyma’r orsaf bŵer hynaf ym Mhrydain sy’n gweithio a hi, o bosib, yw’r orsaf hydro-electrig hynaf yn y byd.
Wedi'i gydnabod fel adeilad rhestredig Gradd II * gan Cadw ym mis Tachwedd 1998
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol ar Henebion a Hynafol Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am adeiladau rhestredig Cadw, ewch i:
cadw.llyw.cymru/cyngor-a-chymorth/asedau-hanesyddol/adeiladau-rhestredig
* Ffigur yn gywir ar 18 Rhagfyr 2020.