Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Fis Hydref a Thachwedd eleni mae Cadw yn dod â hud Calan Gaeaf i leoliadau hanesyddol ledled Cymru. Wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed eleni, mae Cadw yn cyhoeddi cyfres ddigwyddiadau arswydus i bobl o bob oed.

P’un a ydych eisiau profiadau paranormal, ychydig o hanes ysbrydol neu hyd yn oed ddiwrnod allan llawn hwyl i’r teulu, mae gan Cadw rywbeth at ddant pawb.

Mae’r holl ddigwyddiadau – o deithiau tywys arswydus i straeon llawn ysbrydion – i’w gweld ar wefan Cadw, ac mae blas o galendr yr hydref ar gael i chi isod. Mae cymysgedd o ddigwyddiadau am ddim a rhai sy’n rhaid talu amdanynt, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw ac yn cadw’ch lle i gael y profiadau gorau posibl.

 

De Cymru

Rydyn ni'n Mynd ar Helfa Ysbrydion! (Castell Rhaglan) 

Throughout the half term break, Raglan Castle will host a series of ghastly ghost hunts. Children and adults alike can compete to see how many ghosts they can find within one of the grandest Welsh castles. 

Drwy gydol gwyliau hanner tymor, bydd Castell Rhaglan yn cynnal cyfres o helfeydd ysbrydion arswydus. Gall plant ac oedolion gystadlu i weld faint o ysbrydion y gallant ddod o hyd iddynt yn un o gestyll mwyaf mawreddog Cymru.

Gwybodaeth am y digwyddiad:

            Dydd Sadwrn 26 i Ddydd Iau 31 Hydref, 9:30 – 17:00

 

Teithiau Ysbryd (Castell Cas-gwent) 

Digwyddiad sy’n addas ar gyfer oedolion yn unig, bydd ceidwaid Castell Cas-gwent, o’r gorffennol a’r presennol, yn rhannu hanesion llygad-dystion o weithgarwch paranormal yn y castell. Dysgwch am y trigolion oedd yn byw y tu mewn i furiau’r castell hynafol hwn trwy noson o straeon ysbryd, llên gwerin hanesyddol a chwedlau hynafol.

Gwybodaeth am y digwyddiad:

            Dydd Gwener 1 a Dydd Sadwrn 2 Tachwedd, 19:00 – 20:30

            Rhaid archebu’ch tocyn ymlaen llaw. 

Ddim o gwmpas ar gyfer y digwyddiad hwn? Bydd Castell Cas-gwent hefyd yn cynnal noson arall o straeon ysbryd ar ddydd Sadwrn 19 Hydref, rhwng 18:30-19:30 ac eto am 20:30-21:30.

Hanes Ysbrydion a Thaith Noson Llên Gwerin (Gwaith Haearn Blaenafon)

Bydd taith fin nos yng Ngwaith Haearn Blaenafon yn eich arwain yn ddwfn i galon chwedlau Cymreig a dirgelion lleol. Bydd ymwelwyr yn cael eu trwytho yn y chwedlau arswydus, y mythau cyfoethog, a’r llên gwerin hanesyddol sy’n rhan annatod of Flaenafon a Blaenau Gwent. Gorffennwch eich noson yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru gyda diod boeth gysurus a phice ar y maen hyfryd (i helpu i atal yr hunllefau…).

Cynghorir ymwelwyr i gyrraedd 15 munud cyn i'r digwyddiad ddechrau, dewch â fflachlamp boced fechan, dillad gwrth-ddŵr ac esgidiau cadarn.

I gadw’ch lle, ffoniwch 01495 792615.

Gwybodaeth am y digwyddiad:

            Dydd Sadwrn 27 Hydref, 19:00 – 21:30

Digwyddiadau eraill: 

Dydd Sadwrn 26 Hydref – Dydd Sul 3 Tachwedd, 10:00-16:00

Dydd Sadwrn 26 Hydref – Dydd Gwener 1 Tachwedd, 11:00-15:00

Dydd Sadwrn 26 Hydref – Dydd Sul 3 Tachwedd, 10:00-15:00

 

Gogledd Cymru 

Ystafell Ddianc y Rhyfelglod (Castell Conwy)

Mewn steil ystafell ddianc go iawn, darganfyddwch gyfrinachau consuriwr enwog Castell Conwy, Maldwyn mab Diafol y Calan Gaeaf hwn. Mae ei gell carchar wag yn parhau i fod yn ddirgelwch hyd yn oed saith cant ac ugain mlynedd ar ôl ei ddiflaniad. Yn y digwyddiad hwn, sy’n addas i blant 10 oed a’n hŷn, gall ymwelwyr gamu i esgidiau Maldwyn a cheisio ffoi o’r gaer ganoloesol odidog.

Ar gyfer timau o 2 - 6 chwaraewr, bydd angen i ymwelwyr dalu £4 y chwaraewr (yn ogystal â thâl mynediad arferol).

Gwybodaeth am y digwyddiad:

Dydd Llun 28 Hydref i Ddydd Sul 3 Tachwedd, 11:00 – 16:00

 

Digwyddiadau Calan Gaeaf Plas Mawr

Dyma dŷ tref gorau Prydain yn oes aur oes Elisabeth, ond a fyddwch chi’n meiddio mynd i mewn i Blas Mawr ar ôl iddi dywyllu? Bydd taith nos Galan Gaeaf yn cynnwys straeon ysbryd sy’n siŵr o godi ofn ar unrhyw un.

Rhaid archebu’ch tocyn. Mae dau ddigwyddiad ar gael ar 31 Hydref, 16:30-18:00 a 18:15-19:45. 

 

Bydd Plas Mawr hefyd yn cynnal digwyddiad arswyd Calan Gaeaf– gweithgaredd perffaith i blant yn ystod y gwyliau. Bydd modd peintio wynebau, felly dewch wedi gwisgo yn eich gwisgoedd mwyaf arswydus.

Dydd Iau 31Hydref, 10:00-16:00

Llwybr Dychrynllyd Calan Gaeaf i Blant (Castell Dinbych)

Dilynwch y llwybr brawychus a darganfyddwch hanes ysbrydion Castell Dinbych yn y digwyddiad Calan Gaeaf bythgofiadwy hwn. Ymunwch â’r hwyl gan roi gwisg ffansi greadigol amdanoch a mwynhau diwrnod o ddanteithion a chrefftau brawychus.

Gwybodaeth am y digwyddiad:

            Dydd Sadwrn 26 a Dydd Sul 27 Hydref, 10:00 – 16:00 

Digwyddiadau eraill: 

Dydd Iau 31 Hydref, 11:00 – 15:00

Dydd Sadwrn 26 a Dydd Sul 27 Hydref, 10:00 – 17:00

 

Gorllewin Cymru 

Gemau a Gweithgareddau Calan Gaeaf (Castell Talacharn)

Ewch i Gastell Talacharn ar ddydd Sul cyntaf gwyliau hanner tymor am ddiwrnod llawn gemau a gweithgareddau Calan Gaeaf. Cerddwch hyd y llwybr Calan Gaeaf brawychus o amgylch tir y castell a mwynhau codi hwyl...wrth godi ofn ar eich gilydd.

Gwybodaeth am y digwyddiad:

Dydd Sul 27 Hydref, 10:00 – 16:00

 

Canolbarth Cymru 

Llwybr Chwedlau Arswydus Tretŵr

Ar noswyl a dydd Calan Gaeaf, bydd llys a chastell anferth Tretŵr yn gwahodd teuluoedd i roi cynnig ar gerdded y llwybr Calan Gaeaf a darganfod y chwedlau ofnadwy am drigolion dirgel Tretŵr. Os bydd ymwelwyr yn gorffen eu taith arswydus, byddant yn cael eu gwobrwyo â danteithion melys. Mae croeso hefyd i ymwelwyr ddod yn eu gwisg ffansi ac ymgolli yn y profiad ysbrydol.

Gwybodaeth am y digwyddiad:

Dydd Mercher 30 a Dydd Iau 31 Hydref, 10:00-16:00

Noson Galan Gaeaf, y Flwyddyn Newydd Gymreig (Llys a Chastell Tretŵr)

Bydd Tretŵr yn cynnal darlith arbennig gyda’r hwyr i oedolion yn unig gyda’r Athro Hanes, Ronald Hutton, wrth iddo ystyried a thrafod y Flwyddyn Newydd Gymreig, Noson Galan Gaeaf. Cynghorir gwesteion i wisgo dillad cynnes a byth diod boeth ar gael am ddim wrth i chi gyrraedd.

Rhaid archebu’ch tocynnau ymlaen llaw yma.

Dydd Iau 24 Hydref, 18:30 - 20:00

 

I’r rhai sydd am fanteisio ar y digwyddiadau sydd ar gael yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru. Gall plant gael mynediad am ddim gydag unrhyw aelodaeth oedolion.

 

Mae dros 130 o lefydd hanesyddol ar gael a 1,000 o resymau i bawb ymweld â nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru/