Skip to main content
Caer Rufeinig Segontium
Wedi ei gyhoeddi

Yn ystod mis Medi mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn brysur yn cloddio ar hen safle Ysgol Pendalar, ger y Caer Rhufeinig Segontium yng Nghaernarfon. Mae’r cloddiad a ariannir gan Cadw, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddatgelu fwy am hanes y Rhufeinwyr amgylch y caer sylweddol hyn.

Dydd Sul 22ain Fedi (10y.b – 4y.p) cynhelir diwrnod agored i’r cyhoedd.

Mynediad am ddim, does ddim angen archebu lle. Dewch i ddysgu mwy am y gwaith cloddio ar hen safle Ysgol Pendalar. Bydd yno deithiau tywys amgylch y safle, gweithgareddau gyda milwyr Rhufeinig a chyfle creu mosaig Rhufeinig eich hunain.

Mae Caer Rufeinig Segontium yn safle unigryw a diddorol. Sefydlwyd bron i ddwy fil o flynyddoedd yn nol, fel sylfaen milwrol er mwyn cadw rheolaeth dros y tir ac yr arfordir roeddynt wedi ei oresgyn. Mae safle cloddiad yr Ymddiriedolaeth yn agos i’r lon Rhufeinig yn arwain o giât y caer.

Ymgymryd Mortimer Wheeler cloddiad cyfyngedig o’r safle hyn yn yr 1920au a nodwyd bod adeiladwyr y tai ar hyd Ffordd Constantine a Ffordd Faenol wedi darganfod archaeoleg Rufeinig. Cofnodwyd Wheeler lon, ffynhonnau, poptai ac olion o adeiladau pren a byddai’n nodweddiadol o vicus. Beth yw vicus yw math o anheddiad Rhufeinig a darganfyddwyr yn aml wrth ymyl lonydd yn arwain o gaerau Rhufeinig. Byddai hyn wedi bod yn stryd o adeiladau pren ble fyddai crefftau a masnachu wedi digwydd.