Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd mwy na 150 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau neu deithiau tywys i ymwelwyr ym mis Medi eleni, wrth i 2021 nodi dychweliad Drysau Agored.

Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd.

Bydd rhaglen digwyddiadau 2021 yn cynnwys digwyddiadau mewn nifer o safleoedd hanesyddol, gan gynnwys Amgueddfa Cerrig Margam, Llyfrgell Dinbych a Chromen Hyfforddi Pen-Bre.

Yn fwy na hynny, bydd 18 safle Cadw yn cymryd rhan yn y dathliad ar ddyddiadau penodol ym mis Medi.

Bydd 7 safle Cadw, gan gynnwys dwy o gaerau canoloesol eiconig Cymru, Castell Biwmares yng ngogledd Cymru a Chastell Rhaglan yn ne Cymru, yn cynnig mynediad am ddim i’r cyhoedd.

Er mwyn sicrhau mynediad am ddim i safleoedd Cadw sydd â staff, rydym yn argymell yn gryf bod ymwelwyr yn archebu tocynnau Drysau Agored ymlaen llaw ar gyfer eu heneb ddewisiedig ar wefan Cadw. Bydd angen tocyn ar gyfer pob aelod o'r grŵp, gan gynnwys plant. 

Bydd unigolion a fydd yn cyrraedd heb docyn hefyd yn cael eu derbyn i’r henebion sydd o dan ofal Cadw, sy'n cymryd rhan ac sydd â staff, ond dim ond os nad yw'r safle eisoes wedi cyrraedd ei uchafswm o gapasiti ymwelwyr. Gyda nifer y tocynnau sydd ar gael wedi’u capio, disgwylir i'r digwyddiadau mynediad am ddim hyn fod yn boblogaidd iawn, felly rydym yn argymell yn gryf bod y cyhoedd yn rhagarchebu tocynnau er mwyn osgoi cael eu siomi.

Bydd rhai, ond nid pob un o henebion Cadw sy'n cymryd rhan ac sydd â staff, yn cynnig mynediad yn ogystal â theithiau tywys am ddim. Rhaid i leoedd ar y teithiau hyn gael eu rhagarchebu gan unigolion sydd â thocyn mynediad am ddim ar ôl cyrraedd y ganolfan ymwelwyr a bydd y lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Yn y cyfamser, bydd 11 o safleoedd Cadw sydd heb staff, gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd, hefyd yn cynnig teithiau tywys am ddim ar ddyddiadau penodol ym mis Medi.

Oherwydd natur fechan ac unigryw safleoedd Cadw sy’n cymryd rhan ac sydd heb staff, bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer pob digwyddiad, ac mae'n orfodol i ymwelwyr archebu tocynnau ymlaen llaw ar wefan Cadw.

Rhaid atgoffa ymwelwyr bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb wrth fentro i ardaloedd dan do mewn safleoedd Cadw.

Am y rhestr lawn o safleoedd treftadaeth Cadw a safleoedd treftadaeth sydd ddim yn perthyn i Cadw sy'n cymryd rhan yn nigwyddiad Drysau Agored ledled Cymru, cliciwch yma.

I gael gwybodaeth am sut i fynychu digwyddiad Drysau Agored nad yw'n cael ei gynnal ar safle Cadw, dylai ymwelwyr gysylltu â'r lleoliad perthnasol yn uniongyrchol neu ymweld â'u gwefan unigol i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip:

"Ar ran Cadw, rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i Ddiwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd — yn dychwelyd ym mis Medi am y tro cyntaf ers 2019.

"Mae Drysau Agored yn ymwneud ag annog pobl i archwilio’r perlau cudd yn hanes Cymru, a dyna pam mae'r rhaglen o ddigwyddiadau eleni yn cyflwyno cyfres mor unigryw o deithiau sy’n cynnig mynediad i bob cornel o rai o safleoedd treftadaeth llai adnabyddus y wlad.

"Ar ran yr holl bartneriaid dan sylw, rydym yn gobeithio y bydd y dathliad gwych, mis o hyd hwn o'r henebion ac adeiladau sy'n helpu i lunio Cymru yn annog mwy o bobl i ymweld â’r safleoedd hanesyddol a'r hanes cudd sydd ar garreg eu drws."

I gael rhagor o wybodaeth am wŷl Drysau Agored 2021, ewch i wefan Cadw 

Dod o hyd i ddigwyddiad Cadw | Digwyddiadau Drysau Agored ar safleoedd Cadw