Grant o £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu i drawsnewid Caerllion Rufeinig
Mae prosiect ‘partneriaeth’ newydd i archwilio cyfleoedd posibl yn un o safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf ac a gadwyd orau yn Ewrop wedi sicrhau £250,000 o gyllid grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Bydd Prosiect Caerllion Rufeinig - Porth i Bartneriaeth / Roman Caerleon Gateway Partnership Project yn harneisio arbenigedd cyfunol gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, Amgueddfa Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd i wella'r cynnig treftadaeth a thwristiaeth yng Nghaerllion i'r gymuned leol ac ymwelwyr.
Dros y 18 mis nesaf, bydd y partneriaid yn ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid i'w hailgysylltu ag olion a chasgliadau Rhufeinig Caerllion sydd o bwys rhyngwladol, gan gwblhau gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol sy'n adeiladu ar yr etifeddiaeth hanesyddol ryfeddol hon.
Bydd y cyllid yn cefnogi cyfres o astudiaethau a chynlluniau i lunio'r broses o gyflawni'r weledigaeth newydd. Maent yn anelu at rannu hanes Caerllion yn well, mynd i'r afael â throseddau treftadaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, deall anghenion ymwelwyr a'r gymuned, a gwella profiad yr ymwelwyr er lles pawb. Bydd y gwaith hwn yn arwain at uwchgynlluniau cynhwysfawr ar gyfer Caerllion Rufeinig.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:
"Trwy ddod â sefydliadau treftadaeth allweddol a'r gymuned leol ynghyd, mae'r bartneriaeth hon yn creu cyfle cyffrous i drawsnewid sut rydym yn profi treftadaeth Rufeinig ryfeddol Caerllion. Mae'r dull cydweithredol hwn yn ymgorffori ein hymrwymiad i wneud treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn hygyrch i bawb gan sicrhau ei bod yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae Caerllion yn gartref i atyniadau mawr i ymwelwyr, gan gynnwys Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Amgueddfa Cymru, ac olion amffitheatr, baddonau caer a barics milwrol o dan ofal Cadw. Yn dyddio o 74-5 OC, adeiladwyd caer Rufeinig ISCA fel canolfan ar gyfer yr Ail Leng Awgwstaidd ac arhosodd yn un o ddim ond tair canolfan llengol parhaol ym Mhrydain am dros 200 mlynedd.
Pan fydd y prosiect cychwynnol hwn wedi'i gwblhau, mae'r partneriaid yn bwriadu ceisio am gyllid pellach i ddatblygu a chyflawni prosiect uchelgeisiol i sbarduno'r broses o gyflawni'r weledigaeth a'r cynlluniau newydd ochr yn ochr â'r gymuned a rhanddeiliaid.
Ar ran Eiriolwyr Cymunedol Caerllion, dywedodd Neil Pollard:
“Rydym wrth ein bodd y bydd Caerllion Rufeining / Roman Caerleon yn derbyn y cyllid. Bydd hyn yn ein helpu i weithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned leol, gan sicrhau bod cynllun y ‘bartneriaeth’ yn cael ei ddatblygu gyda lleisiau cymunedol yn flaenllaw.”
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:
"Rydym yn falch iawn o gefnogi'r prosiect partneriaeth arloesol hwn gyda £250,000, a wnaed yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn helpu i ddatgloi potensial rhyfeddol Caerllion Rhufeinig, un o safleoedd archeolegol mwyaf arwyddocaol Ewrop, tra'n darparu manteision gwirioneddol i'r gymuned leol."
Bydd gwersi a ddysgwyd o'r prosiect yn cael eu rhoi ar waith mewn safleoedd treftadaeth proffil uchel eraill neu safleoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi ddigon, lle gallai atyniadau ymwelwyr sy'n cael eu rhedeg gan wahanol sefydliadau elwa ar ddulliau cydweithredol gyda'u cymunedau.
Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ogystal ag argymhellion mewn cynlluniau sefydliadol amrywiol, gan gynnwys yr Adolygiad Teilwredig o Amgueddfa Cymru a Strategaeth Ddiwylliant 10 mlynedd Cyngor Dinas Casnewydd.