Skip to main content
Castell Caerffili
Wedi ei gyhoeddi

Bydd Groove Armada, sydd wedi gwerthu miliynau o recordiau ac wedi'u henwebu am wobrau BRIT a Grammy, yn dod â'u sioe fyw anhygoel a'u sain unigryw i harddwch eiconig Castell Caerffili ddydd Sul 14 Gorffennaf 2019. Dyma fydd ymddangosiad byw cyntaf y ddeuawd chwedlonol yng Nghymru ers dros 10 mlynedd a'u hunig sioe yng Nghymru yr haf yma. Bydd tocynnau ar werth am 10yb ddydd Gwener 10 Mai 2019 drwy www.Ticketmaster.co.uk.

Mae Groove Armada wedi sefydlu eu hunain ers dros ugain mlynedd fel un o berfformiadau dawns mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y blaned. Maen nhw mor gyfforddus ar lwyfannau mawr ag y maen nhw mewn selerau bach chwyslyd, a byddan nhw'n hollol gartrefol yn perfformio yng nghastell mwyaf Cymru. O alawon meddal, hamddenol i guriadau electronig ac anthemau dawns bywiog, mae sioe fyw Groove Armada yn brofiad unigryw. 
Gallwch ddisgwyl clywed yr holl ffefrynnau gan gynnwys 'Superstylin', 'My Friend', 'I See You Baby', 'At the River' a llawer mwy. Nid yn unig bydd y noson yn cynnig sioe fyw anhygoel gydag awyrgylch parti bywiog, bydd yn wledd weledol i synnu'ch synhwyrau. Fel un o lond llaw o sioeau awyr agored y band ym Mhrydain yr haf hwn, a'r tro cyntaf iddynt chwarae yng Nghymru ers dros ddegawd, bydd y ddeuawd yn tywys y dorf tua'r nos gyda set eithriadol o grefftus a fydd yn mynd â'ch dychymyg i awyrgylch hafaidd Ibiza.

Yn cynhesu'r dorf cyn y digwyddiad bydd Jean Jacques Smoothie, sy'n adnabyddus am ei sengl lwyddiannus yn 2001, 2 People.
Fe gwrddodd Andy Cato a Tom Findlay yn Llundain ganol y nawdegau. Dechreuodd Groove Armada fel cyfres o nosweithiau ledled Llundain, a dechreuon nhw ryddhau recordiau 12 modfedd i gwmni recordiau Tummy Touch er mwyn hyrwyddo'r nosweithiau hyn. Yn fuan wedi hynny cyhoeddon nhw albwm a wnaed mewn wythnos, Northern Star (a oedd yn cynnwys yr anthem hamddenol At the River), a thrwy hynny y cawsant gydnabyddiaeth gan labeli mawrion. Gwerthodd eu halbwm gyntaf ar label Jive dros filiwn o gopïau, ac wedi hynny rhyddhawyd pedair albwm ar SONY a BMG. Arweiniodd hyn at enwebiadau am wobrau BRIT a Grammy, a gwerthwyd pob tocyn i'w gigiau, o Sydney i Foscow. Gyda chyfuniad arloesol o electroneg a pherfformio, esblygodd eu sioe fyw yn un o'r goreuon ym myd cerddoriaeth ddawns.

Mae'r sioe'n cael ei hyrwyddo gan Orchard Live, enillwyr Hyrwyddwr Rhanbarthol y Flwyddyn Live UK dair gwaith yn olynol, sydd â hanes llwyddiannus o gynnal cyngherddau yn y lleoliad eiconig yma. Y sioe yma fydd yr olaf o gyfres o bump, yn cynnwys The Stranglers, Black Stone Cherry, Public Service Broadcasting a The Zutons.

Meddai Pablo Janczur o Orchard Live: "Mae'n mynd i fod yn glamp o barti i gloi cyfres o sioeau anhygoel yn y lleoliad eiconig yma!"

Bydd tocynnau'n mynd ar werth drwy www.ticketmaster.co.uk ac yn lleol drwy Sefydliad y Glowyr Coed-duon ddydd Gwener 10 Mai am 10yb.