Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd gwaith celf a grëwyd gan Pete Fowler fel rhan o brosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol yn teithio ledled Cymru yn ystod yr haf.  Bu’r arlunydd blaenllaw o Gymru, Pete Fowler ynghyd â 30 o awduron gwadd, gan gynnwys Patrick Jones, Emily Blewitt, ac Aneirin Karadog, ar daith i gael golwg ar  rai o chwedlau Cymru yn ystod Hydref 2017, gyda chymorth gan yr Athro Sioned Davies, sy’n arbenigwraig ar y Mabinogi.

Cyflwynwyd y prosiect mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Gan ymweld â chwech o safleoedd Cadw yng Nghonwy, Gwynedd, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Thorfaen, ymunodd aelodau o’r gymuned leol â Pete Fowler ymhob lleoliad ynghyd â rhai o brif awduron Cymru i greu straeon, cerddi a gwaith celf newydd yn seiliedig ar straeon gwych o’r ardal.

­­­­­­­Gan ddefnyddio’r gwaith a luniwyd ymhob lleoliad fel ysbrydoliaeth, lluniodd Pete Fowler chwe phaentiad trawiadol newydd  sy’n cwmpasu agweddau iasol, arswydus, trasig a chwedlonol.

Bydd arddangosfa o waith celf Pete Fowler, Cymru Ryfedd a Chyfareddol yn ymweld â'r lleoliadau canlynol yn ystod yr  haf:

  • Galeri Caernarfon: 1-14 Gorffennaf
  • Castell Caerffili: 1-2 Awst
  • Plas Mawr, Conwy: 5-30 Awst
  • Castell Oxwich: 1-28 Medi

 

Bydd y darnau creadigol yn cael eu dychwelyd i’r  lleoliadau a fu’n  ysbrydoliaeth iddynt a’u harddangos yn barhaol ar ôl i’r daith ddod i ben.

Penllanw  prosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol  oedd gosod  murlun anferth ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Reilffordd Caerdydd Canolog. Gellir prynu printiau o'r murlun o wefan  Llenyddiaeth Cymru https://www.llenyddiaethcymru.org/siop-llenyddiaeth-cymru/

Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru â Cadw, Allotment Creative Development Services, Cyngor Dinas Caerdydd a Network Rail, ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Croeso Cymru - i gefnogi Blwyddyn y Chwedlau 2017, ynghyd â Sefydliad Foyle a FOR Caerdydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.gwladychwedlau.cymru/themes/weird-wonderful-wales