Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw wedi cyhoeddi amserlen hanner tymor llawn dop, a fydd yn cynnig gweithgareddau unigryw i deuluoedd eu mwynhau ac yn dod â hanes Cymru yn fyw.

Rhwng 27 Mai a 4 Mehefin, bydd safleoedd Cadw – gan gynnwys caerau, abatai a chestyll hynafol - yn cynnal pob math o weithgareddau hanesyddol a diwylliannol, gan gynnig diwrnod cyffrous i'r teulu cyfan. 

I gyd-fynd â 'Blwyddyn Llwybrau' Cymru, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i guradu anturiaethau epig dros y gwyliau. Mae safleoedd Cadw yn eich galluogi i greu’ch profiadau eich hun, drwy drawsnewid hanes Cymru yn weithgareddau difyr i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Dyma rai o'r prif bigion a gynhelir ar safleoedd Cadw ledled Cymru yn ystod gwyliau’r Sulgwyn.

Dynion ag Arfau (Castell Biwmares)

Gydol penwythnos gŵyl y banc, gallwch hyfforddi i fod yn farchog canoloesol yn yr Ysgol i Farchogion i Blant yng Nghastell Biwmares, gan ddysgu sut i ymosod ar y castell a’i amddiffyn mewn brwydr. Gall oedolion feistroli sgiliau ymladd â chleddyfau sylfaenol a dysgu am arfau a ddefnyddiwyd yn yr Oesoedd Canol.

I’r cellweiriwyr, bydd gweithdy sgiliau syrcas hefyd a fydd yn llawn sgiliau a thriciau, a bydd cyfle i deuluoedd ymgolli yng Nghymru'r Oesoedd Canol – gydag arddangosfeydd coginio, meddygaeth ganoloesol, cerddoriaeth, gwaith lledr, a sesiynau adrodd straeon i 'bobl y dref' eu mwynhau.

Dydd Sadwrn 27 – dydd Llun 29 Mai 10:00 – 17:00

Hanes Byw yn y Castell (Castell Harlech)

I'r rhai sy'n mwynhau digwyddiadau ail-greu, bydd Castell Harlech yn cynnal ei dwrnamaint ar gyfer marchogion arfog mewn brwydr. Dewch i weld dur yn diasbedain a charnau ceffylau rhyfel yn taranu wrth iddyn nhw ymosod ar ei gilydd mewn arddangosfa o gryfder a medr. Ac fel pe na bai hynny'n ddigon, bydd arddangosfeydd saethyddiaeth, dawnsfeydd gosgeiddig a cherddorion i roi blas go iawn i chi o’r Oesoedd Canol.

Dydd Sadwrn 27 – dydd Llun 29 Mai 11:00 – 16:00

marchogion Ardudwy yn ymladd / Ardudwy knights fighting

Tom y Clerwr (Llys yr Esgob Tyddewi)

Gan gadw at y thema ganoloesol, bydd teuluoedd yn cael eu cludo’n ôl mewn amser gyda cherddoriaeth gan Tom y Clerwr yn Llys yr Esgob Tyddewi. Cyfle i ddysgu am offerynnau ac arddull cerddoriaeth yr 12fed ganrif wrth grwydro muriau’r palas.

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr gwrdd â dau ffigwr pwysig yn hanes y safle: yr Esgob Henry de Gower a'r Fonesig Agatha Barlow. Gwrandewch ar eu straeon a dysgwch fwy am eu rolau yn llanw a thrai’r palas drwy’r oesoedd.

Dydd Mercher 31 Mai – dydd Iau 1 Mehefin 10:00 - 16:30

old musical instrument

Haf o Straeon (Safleoedd Amrywiol)

Mae'r egwyl hanner tymor yn dechrau Haf o Straeon Cadw  - dathliad o draddodiadau llafar cyfoethog Cymru ar draws 12 safle dros yr haf.

Yn ystod eich ymweliad ag unrhyw safle Cadw sy’n cymryd rhan, ymunwch â storïwr i fwynhau’r gorau o chwedlau Cymru, a fydd yn cynnwys cymeriadau hanesyddol, chwedlau, coelion, diwylliant a threftadaeth. Cymerwch funud neu ddau i ymlacio a mwynhau gwrando ar stori hanesyddol 30 munud o hyd wrth i chi grwydro.

Ar gael yn Llys a Chastell Tretŵr, Castell Biwmares, Castell Conwy, Castell Dinbych, Gwaith Dur Blaenafon, Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, Castell Coch, Castell Cas-gwent, Abaty Tyndyrn, Llys yr Esgob Tyddewi, Castell Cricieth a Chastell Cydweli.

llyfr stori agored / open story book

Beth am ddarganfod... Pw Pwy? (Castell Cas-gwent)

Ewch am dro i Gastell Cas-gwent a dysgwch am arferion dietegol y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y castell yn oes y Tuduriaid, a gyda chyfle hyd yn oed i archwilio pw ffug...

Mae'r digwyddiad yn un perffaith i blant sydd wrth eu boddau’n dysgu am hanes a gwyddoniaeth amgen mewn ffordd ymarferol. A bydd cyfle i ddysgu am gartref rhai o'r dynion cyfoethocaf mewn hanes.

Dydd Sadwrn 3 – dydd Sul 4 Mehefin 10:00 - 16:00

Y Ddynes Ddoeth a'r Llawfeddyg (Plas Mawr)

Gall ymwelwyr â Phlas Mawr yng Nghonwy ymgolli ym myd meddyginiaeth a llawfeddygaeth y Tuduriaid gyda phrofiad amlsynhwyraidd. Gallwch fwynhau profiad ymarferol wrth drin a thrafod perlysiau a meddyginiaethau, profi eu harogl a'u gweadau a thrin offerynnau llawfeddygaeth go iawn wrth ddysgu pob dim am eu defnydd, a'r hyn a olygai i fod yn llawfeddyg yn ystod cyfnod y Tuduriaid.

Dydd Sul 28 – dydd Llun 29 Mai 11:00 - 16:00

Hebogyddiaeth yn yr Abaty (Abaty Tyndyrn)

Dysgwch sut roedd ein hynafiaid yn defnyddio adar ysglyfaethus yn ystod cyfnod y Tuduriaid a pham roedd Hebogyddiaeth yn un o hoff gampau’r oes.

Bydd hyd yn oed y cyfle i gael tynnu’ch llun gydag un o'r adar mawreddog a mynd â chofrodd unigryw adref.

Mae'r digwyddiad hwn hefyd ar gael yng Nghastell Cydweli ddydd Sul 28 Mai.

Dydd Sadwrn 3 Mehefin 10:00 – 16:00

Digwyddiadau/Events

Dirgelwch Llofruddiaeth Canoloesol (Castell Rhaglan)

Profwch eich sgiliau ditectif yn Rhaglan wrth i chi chwilio drwy’r castell am gliwiau, cyfweld pobl dan amheuaeth a datrys posau i ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd i gorff capten dibynadwy y fyddin, Syr Charles.

Digwyddiad i’ch cludo yn ôl i 1489, gyda dirgelwch Rhaglan yn rhoi blas i chi ar fywyd yn yr Oesoedd Canol – a llond tro o ddirgelwch, drama a llofruddiaeth i'w datrys.

Dydd Sul 28 - dydd Llun 29 Mai 11:00 - 15:30

Chwilio am y Cesariaid (Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion)

Os ydy’ch teulu chi’n mwynhau chwilio am drysorau cudd, dyma'r digwyddiad i chi. Beth am fynd am dro i Gaer a Baddonau Rhufeinig Caerllion i weld a allwch chi ddod o hyd i Gesar enwog Rhufain mewn lleoliadau cudd o gwmpas y safle.

Yn ôl y chwedl, maen nhw wedi bod yn y baddonau ers bron i 2,000 o flynyddoedd, felly cadwch eich llygaid yn agored wrth i chi wneud eich ffordd o amgylch y lleng-gaer hon o Gymru'r ganrif gyntaf.

Dydd Sadwrn 27 Mai – Dydd Sul 4 Mehefin 10:00 - 16:00

Adar Ysglyfaethus (Castell Talacharn)

Profwch y wefr o weld adar ysglyfaethus godidog yn agos yn nigwyddiad hebogyddiaeth Castell Talacharn.

Gydag amrywiaeth o rywogaethau yn cael eu harddangos, bydd cyfle i chi ddysgu am y creaduriaid mawreddog hyn gan yr arbenigwyr eu hunain. Bydd yr arddangosfeydd yn cael eu cynnal ddwywaith y dydd am 12pm a 3pm a chewch fwynhau sioe a hanner.

Dydd Sadwrn 27 –  Dydd Sul 28 Mai 11:00 – 16:00

Nod y digwyddiadau y mae Cadw wedi eu cynllunio yn ystod hanner tymor y Sulgwyn eleni yw creu arlwy ar gyfer ystod eang o ddiddordebau ac oedrannau, gan gynnig profiadau addysgol a difyr. Gallwch weld rhestr lawn o'r digwyddiadau ar wefan Cadw: https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw

I'r rhai sy'n gobeithio manteisio ar y digwyddiadau sydd ar gael yn ystod hanner tymor, bydd aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i dros 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gan gynnig ffordd unigryw i archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru. 

Ymunwch a Cadw heddiw