Skip to main content
Castell Coch
Wedi ei gyhoeddi

Yng nghanol coetir hynafol mae castell tylwyth teg Cymru – ei du mewn hardd wedi’i addurno â symbolau cariad a rhamant. 

A nawr mae stori dylwyth teg ffansïol yn addurno cerrig Tŵr Ffynnon y castell gyda golygfeydd syfrdanol o hud a direidi - cliw i'r darganfyddiadau sy'n aros i swyno ymwelwyr.

Mae’r faner yn rhan o ymrwymiad Cadw i gadw’r castell ar agor ac yn hygyrch i ymwelwyr drwy gydol ei brosiect cadwraeth dros y flwyddyn nesaf.

Dechreuodd gwaith cadwraeth yn 2019 gyda thrwsio to a simneiau Tŵr y Gorthwr (i’r chwith o’r fynedfa), bydd cam presennol y gwaith yn galluogi arbenigwyr i fynd i’r afael â’r dŵr sy’n mynd i mewn i Dŵr y Ffynnon.

Bydd hyn yn cynnwys tynnu deunydd rhwng cerrig waliau’r castell gan greu cyfle i’r craidd mewnol sychu. Bydd morter calch sy’n gallu anadlu’n cael ei ddefnyddio i ailbwyntio waliau Tŵr y Ffynnon cyn tynnu’r sgaffaldiau.

Uchelgais Cadw yw sicrhau cadwraeth y castell ac yn enwedig y tu mewn addurniadol cain sy'n ei wneud yn gampwaith disglair o’r Uchel Oes Fictoraidd.

I’r rhai sy’n awyddus i ymgolli mewn antur stori dylwyth teg, mae gêm dylwyth teg realiti estynedig Cadw yn gyfle i grwydro ystafelloedd y castell a dod o hyd i dylwyth teg trwy ddyfais symudol ac mae wedi’i chynnwys yn y pris mynediad.

Mae’r creaduriaid chwedlonol i’w gweld ym mhob rhan o’r castell yn gwibio’n uchel ac yn isel, pob un yn cuddio yn ei ystafell ei hun ac yn aros i gael ei ddarganfod. Mae modd gweld ymwelwyr yn cipio tylwyth teg yn y datgelydd tylwyth teg wrth i’w hantur fynd rhagddi!

CTA

Ymunwch â Cadw yr haf hwn ar gyfer antur stori dylwyth teg, gyda channoedd o ddigwyddiadau trwy gydol misoedd Gorffennaf ac Awst. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Digwyddiadau haf Castell Coch:

Cloddiad Fictoraidd 

Bywyd gwyllt bendigedig 

Diwrnodau Hwyl y Castell 

Holl Ddigwyddiadau Cadw 

Dilynwch linell amser Castell Coch Cadw i gael y newyddion diweddaraf neu cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Cadw.

Aelodaeth Cadw 

Bwriadu archwilio hanes Cymru yr haf hwn? Mae aelodaeth flynyddol Cadw yn docyn i flwyddyn llawn anturiaethau i leoliadau treftadaeth ledled Cymru. Gyda mynediad diderfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol a blaenoriaeth i archebu lle ar gyfer digwyddiadau poblogaidd, gallwch ddarganfod mwy gyda Cadw.

Ymunwch â Cadw