Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Disgwylir i atyniadau hanesyddol tra hoff Cadw groesawu miloedd o ymwelwyr yn ystod mis Medi 2020 yn rhan o’r ŵyl dreftadaeth fwyaf yng Nghymru - Drysau Agored.

Bydd miloedd o bobl yn camu yn ôl mewn amser yn ystod mis Medi 2020 wrth i gannoedd o leoliadau ledled Cymru agor eu drysau, gan gynnwys sawl un nad ydyn nhw fel arfer ar agor i'r cyhoedd.

Yn rhan o raglen ehangach Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, mas Drysau Agored wedi peri i gannoedd o leoliadau yng Nghymru gynnig mynediad, gweithgareddau a digwyddiadau am ddim drwy gydol mis Medi.  

Mae Cymru’n un o 50 o wledydd sy’n cymryd rhan yn rhaglen Drysau Agored, neu raglen Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd fel y’i gelwir yn rhyngwladol. Y rhaglen hon yw’r dathliad rhad ac am ddim blynyddol mwyaf o bensaernïaeth a threftadaeth a gynhelir yng Nghymru a gweddill y DU, a’r digwyddiad gwirfoddol mwyaf yn y sector treftadaeth. Mae’n rhoi mynediad am ddim i’r cyhoedd i agweddau ffres ar y dreftadaeth adeiledig ac yn denu ymwelwyr i Gymru o wledydd ym mhedwar ban byd.           

Mae Cadw bellach wedi agor cofrestriad i safleoedd a lleoliadau ledled Cymru gymryd rhan yn yr ŵyl dreftadaeth flynyddol. Gall lleoliadau sy’n cymryd rhan gael gafael ar adnoddau am ddim a chofrestru ar-lein trwy borth Drysau Agored ar-lein Cadw. Mae'r cofrestriad ar agor tan 1 Gorffennaf 2020.           

Eleni, mae Cadw yn dathlu hyd a lled ei safleoedd dan ofal sy’n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru o henebion, gan gynnig teithiau arbenigol yn rhai o’i henebion di-staff; agor safleoedd sydd fel arfer ar gau; ac agor ardaloedd nad yw ymwelwyr fel arfer yn cael eu gweld yn rhan o ‘Flwyddyn Awyr Agored’ Croeso Cymru. Mae bod yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn dwyn buddion iechyd sylweddol, ac mae Cadw yn annog pobl Cymru a’i hymwelwyr i fwynhau mwy byth o safleoedd Cadw yn ystod gŵyl Drysau Agored eleni ym mis Medi 2020.

Allwch chi cofrestru eich digwyddiad yma - https://cadw.llyw.cymru/ffurflen-gais-drysau-agored