Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi
  • Map ar-lein newydd yn cynnig cipolwg ar yr amrywiaeth o safleoedd ledled y DU sy’n allweddol i hanes y BBC.
  • Lansiwyd gan Historic England, Historic Environment Scotland, Historic Environment Division, Northern Ireland Communities Department a Cadw i ddathlu canrif o fodolaeth y BBC.
  • Mae’r map rhyngweithiol yn cynnwys stiwdios enwog y BBC, lleoliadau ffilmio, safleoedd technoleg allweddol, a llefydd sy’n gysylltiedig â phobl sydd wedi siapio’r BBC.
  • Cipolwg ar y map Can Lle’r BBC YMA. Cliciwch ar bob pin i ddarganfod stori’r BBC a dysgu mwy.

O leoliadau ffilmio cyfresi teledu poblogaidd fel Byker Grove a Gavin and Stacey i’r Orsaf Dân lle bu gohebydd rhyfel benywaidd cyntaf y BBC, Audrey Russell, yn gweithio yn ystod y Blits, mae map digidol newydd a fydd ar gael yr hydref hwn yn amlygu’r bobl, y llefydd a’r adeiladau sydd wedi diffinio’r BBC.

Heddiw (13 Hydref), mae Historic England, Historic Environment Scotland, Historic Environment Division, Northern Ireland Communities Department a Cadw, yn lansio map rhyngweithiol newydd o 100 o adeiladau a llefydd o amgylch y DU, er mwyn dathlu pen-blwydd y BBC yn 100 oed.

Mae’r map yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth o safleoedd ledled y DU sy’n allweddol i hanes y BBC – o stiwdios enwog i leoliadau darlledu eiconig.

Mae pedair thema allweddol i’w harchwilio ar y map:

  • Rhaglenni sy’n dod â ni at ein gilydd – Dathlu rhaglenni yr ydym wedi gwrando arnynt a’u gwylio gyda’n gilydd, o Syr David Attenborough yn Uned Hanes Naturiol BBC Studios yn Nhŷ Darlledu Bryste i leoliad sioe fyw rownd gynderfynol Stictly Come Dancing bob blwyddyn.
  • Adeiladau darlledu enwog – Mae rhaglenni teledu a radio’r BBC wedi, ac yn parhau i gael eu creu mewn adeiladau trawiadol o amgylch y DU, o stiwdios sain o’r radd flaenaf i leoliadau ffilmio dramatig. Roedd stiwdios cynnar yn aml mewn adeiladau wedi’u haddasu fel 31 Linenhall Street, Belffast – hen warws lliain. Yna, creodd y BBC adeiladau o’r radd flaenaf, megis y  Tŷ Darlledu yn Llundain, a agorwyd yn 1932, a’r Ganolfan Deledu yn 1960.
  • Technoleg sy'n trawsnewid ein bywydau – Mae technoleg ddarlledu arloesol wedi newid ein bywydau dros y ganrif ddiwethaf, o'r signalau cyntaf a anfonwyd i'r set radio yn ein cartrefi i ddarlledu digidol ar y ffôn clyfar yn ein pocedi. Cafodd y gwasanaeth teledu diffiniad uchel rheolaidd cyntaf ei ddarlledu o Balas Alexandra yn 1936, ond a wyddoch chi fod y trosglwyddiad di-wifr cyntaf ar draws dŵr wedi’i anfon o Drwyn Larnog i Ynys Flatholm yn 1897?
  • Pobl mewn Prydain sy’n amrywiol ac yn newid – Dysgwch fwy am y bobl tu ôl i'r llefydd. O Dalacharn, lle bu Dylan Thomas yn byw ac yn ysgrifennu, i 16c Brunswick Park yn Camberwell, Llundain lle'r oedd darlledwr a chynhyrchydd benywaidd cyntaf y BBC, Una Marson yn byw, sy’n cael ei goffàu heddiw gan blac arbennig.

Dewch o hyd i'r holl lefydd hyn a mwy ar fap Can Lle’r BBC YMA. Cliciwch ar bin i ddarganfod stori’r BBC a dysgu mwy am adeiladau a llefydd hanesyddol ledled y DU.

Yn ôl Duncan Wilson, Prif Weithredwr Historic England: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod adeiladau a llefydd dylanwadol y BBC sydd ar stepen eich drws. Mewn 100 mlynedd, dyfeisiodd y BBC ac yna trawsnewidiodd y dirwedd ddarlledu, gan ein diweddaru gyda'r newyddion diweddaraf a gwneud i ni chwerthin a chrio gyda'u rhaglenni comedi a drama. Mae'n ddiddorol gweld sut mae hanes y BBC yn bodoli mewn adeiladau a safleoedd hanesyddol ledled y DU."

Dywed Yr Arglwydd Kamall, y Gweinidog Treftadaeth: "O ffatri radio cynta'r byd yn Chelmsford, i Neuadd Ddawns Strictly Come Dancing yn Blackpool, mae'r BBC wedi chwarae rhan ganolog ym myd darlledu a'n bywyd cenedlaethol dros y ganrif ddiwethaf. Mae'n wych gweld y llu o leoliadau a fu’n ganolog i dreftadaeth y BBC yn cael eu cydnabod a'u dathlu ar y map hwn, gan helpu pobl i ddysgu mwy am eu hanes lleol."

Dywed Robert Seatter, Pennaeth BBC History: "Yn ein blwyddyn canmlwyddiant, rydym yn falch iawn o weithio gyda phartneriaid hanesyddol cenedlaethol i archwilio presenoldeb y BBC ledled y DU, o Poldark yn Harbwr Charlestown yng Nghernyw i dŷ DI Perez yn Lerwick, Shetland. Ynghyd â lleoliadau cyfresi teledu poblogaidd, rydym yn arddangos adeiladau a chanolfannau peirianneg y BBC sydd wedi dod yn dirnodau ar y sgrin ac oddi arno, gan fynd i mewn yn uniongyrchol i ystafelloedd byw'r genedl a'n cysylltu â'r byd ehangach."

Mannau allweddol o ddiddordeb sy'n ymddangos ar y map:

Tŷ Darlledu, Llundain

Agorwyd pencadlys pwrpasol cyntaf y BBC, a oedd yn cynnwys stiwdios a oedd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer darlledu radio, ym 1932. Mae'r adeilad Art Déco rhestredig Gradd II* hwn yng nghanol Llundain yn un o stiwdios mwyaf adnabyddus y BBC, gan ymddangos yn aml mewn darllediadau newyddion a rhaglenni teledu'r BBC.

Rhestr lawn YMA

Gorsaf Dân yn Chiltern Street, Llundain

Bu Audrey Russell yn gweithio o Orsaf Dân Chiltern Street yn ystod yr Ail Ryfel Byd, nes dod yn ohebydd rhyfel benywaidd cyntaf y BBC, gan ohebu ar y bomio yn Dover a glaniadau D-Day. Roedd hi'n arloeswraig ym myd adrodd rhyfel – byd a oedd wedi'i ddominyddu gan ddynion – a bu hefyd yn ysbrydoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhestr lawn YMA

Harbwr Charlestown, Cernyw

Mae harbwr Charlestown, sy’n dyddio o'r 18fed ganrif ac a ddefnyddid ar gyfer allforio mwyn copr a chlai llestri, yn ymddangos yn nrama deledu boblogaidd y BBC, Poldark. Adeiladwyd yr harbwr yn 1790 ac ychwanegwyd ato sawl gwaith wedi hynny. Mae’n heneb restredig Gradd II*.

Rhestr lawn YMA

Y Mitre, Newcastle

Y Mitre oedd lleoliad clwb ieuenctid drama deledu’r BBC, Byker Grove, a lansiodd yrfaoedd Ant a Dec. Mae'r adeilad rhestredig Gradd II hwn, mewn gwirionedd, yn Benwell yn hytrach na Byker.

Rhestr lawn YMA

Y Gyfnewidfa Ŷd, Bedford

Bu’n rhaid i Gerddorfa Symffoni'r BBC adael Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan ddarlledu cyngherddau o Gyfnewidfa Ŷd Bedford rhwng 1941 a 1945. Gwnaed y Gyfnewidfa Ŷd, sy’n adeilad cyhoeddus Fictoraidd cain, yn adeilad rhestredig Gradd II ym mis Mehefin 2022 fel rhan o ymchwil Historic England ar gyfer Parth Gweithredu Treftadaeth Stryd Fawr Bedford.

Rhestr lawn YMA

Castell Rhaglan, Sir Fynwy

Adeiladwyd Castell Rhaglen yn y 15fed ganrif i greu argraff a dychryn. Gwnaeth y ddau beth hyn fel ‘Ynys y Fendigaid’ (Isle of the Blessed) yn y gyfres Merlin. Mae’r Heneb Gofrestredig hon yn cynnwys peth o’r gwaith brics cynharaf yng Nghymru ac mae wedi bod yn anghyfannedd ers 1646.

Rhestr lawn YMA

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, Llangollen

Mae Safle Treftadaeth y Byd Camlas Pontcysyllte yn rhedeg trwy Langollen; cartref yr Eisteddfod Ryngwladol ac, yn 1958, safle un o'r prif ddarllediadau cyntaf yn yr awyr agored. Wedi'i adeiladu dros dirwedd anodd, mae’r campwaith hwn o’r 19eg ganrif yn enghraifft o ddatblygiadau arloesol y Chwyldro Diwydiannol.

Rhestr lawn YMA

Lloches Orllewinol Ynys y Barri a’r Arcêd Difyrrwch, Ynys y Barri 

Adeiladwyd yr arcêd yn 1923 ac mae’n rhan annatod o swyn glan môr Ynys y Barri. Dyma hefyd le mae Nessa’n gweithio yng nghomedi poblogaidd y BBC, Gavin and Stacey. Tidy. Mae Ynys y Barri, a ddatblygwyd yn bennaf i’w defnyddio gan ardaloedd dosbarth gweithiol diwydiannol de Cymru, erbyn hyn yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad.

Rhestr lawn YMA

Tobermory, Ynys Mull

Adeiladau lliwgar Stryd Fawr Tobermory a roddodd yr ysbrydoliaeth a’r lleoliadau ar gyfer y gyfres Balamory ar CBBC. Porthladd pysgota o’r 18fed ganrif ar Ynys Mull yw Tobermory.

Y Lodberrie, Shetland

Adeiladwyd lodberries Shetland fel lle i fasnachwyr – mae’r un hon yn adnabyddus fel tŷ Ditectif Arolygydd Perez yn y ddrama Shetland.

Rhestr lawn YMA

Blwch Heddlu Stryd Buchanan, Glasgow

Ar un adeg, bu’r blychau heddlu eang hyn yn gyffredin yn ninasoedd Prydain, ond maen nhw bellach yn fwy adnabyddus am eu rôl fel y TARDIS yn Doctor Who. Ychydig iawn o’r blychau hyn sy’n dal i fodoli allan o’r miloedd a fu ledled Prydain yn y gorffennol.

Rhestr lawn YMA

Tŷ Darlledu, Belffast

Pencadlys Art Déco’r BBC yng Ngogledd Iwerddon, a adeiladwyd yn 1938-41 ac a ddyluniwyd gan y pensaer o Glasgow, James Millar. Roedd adeiladu trosglwyddydd radio yn 1936 yn Lisnagarvey yn caniatáu darllediadau o'r pencadlys newydd hwn i gyrraedd pob rhan o Ogledd Iwerddon am y tro cyntaf.

Rhestr lawn YMA

Llyfrgell Ganolog Belffast, Belffast

Llyfrgell gyhoeddus gyntaf (am ddim) Belffast, a adeiladwyd yn 1884-88, a ddefnyddiwyd o 2014 fel pencadlys yr Heddlu yn nrama BBC1/2, Line of Duty. Agorwyd y llyfrgell hon yn 1988, ar yr un diwrnod y derbyniodd Belffast ei statws dinas swyddogol. Mae'r llyfrgell hon yn cynrychioli cyfnod newydd yn hanes Belffast, ac mae'n dal i gael ei defnyddio heddiw.

Rhestr lawn YMA

Pentref Kearney, Swydd Down

Yr anheddiad gwledig bach hwn fu lleoliad ffuglennol drama cyfnod rhyfel BBC1 yn 2016, My mother and other strangers. Yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1965, mae’r hen bentref pysgota bellach yn breswylfa llawn amser unwaith eto.

Rhestr lawn YMA

Gellir lawrlwytho delweddau yma: https://photos.app.goo.gl/6HybupApucyVNiEZA

Dewiswch ddelwedd a chliciwch ar "i" am gapsiwn a gwybodaeth hawlfraint. Dewiswch "..." i'w lawrlwytho