Mi fydd o hyd yn oed yn fwy trawiadol os y bydd hi’n bwrw glaw
Dywed crewyr 'Annwn', sef sioe laser a sain arallfydol yng Nghastell Caernarfon sy'n cynnwys perfformiad gan yr artist Cymreig Gruff Rhys, y bydd hi hyd yn oed yn fwy trawiadol os bydd hi'n bwrw glaw yn ystod y digwyddiad.
Mae “Annwn” yn sioe laser a sain sy’n cael ei berfformio am dair noson (Hydref 27-29, 2023) o fewn Castell hanesyddol Caernarfon. Tydi sioe fel hon erioed wedi cael ei pherfformio o fewn muriau unrhyw gastell.
Mae cyfraniadau sain wedi’u creu’n arbennig ar gyfer Annwn gan y cerddor Cymreig Gruff Rhys, yn seiliedig ar ei gasgliad blaenorol, ei archif a’i arbrofi diweddaraf. I gyfeiliant y sain, mi fydd y gynulleidfa yn cael eu trochi mewn perfformiad golau a laser ysblennydd a grëwyd gan Chris Levine. Mae’r profiad sain a golau wedi ei ysbrydoli gan weledigaeth Annwn.
Ar dir Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, y cynhelir y perfformiadau a tydyn nhw ddim yn meddwl y byddai Edward y 1af, a adeiladodd Gastell Caernarfon, yn ffan mawr.
Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw:
“Rydym yn gyffrous iawn i ddod ag Annwn i gynulleidfaoedd yng Nghastell Caernarfon yr wythnos hon. Mae cael yr hen a’r newydd ochr yn ochr yn gwneud rhywbeth arbennig iawn i safleoedd treftadaeth. Mae’n codi’r cwestiwn: hanes pwy yw e beth bynnag? Mae creu isfyd Cymreig y tu mewn i gastell Edward 1af yn ffordd i ni newid y ffordd o adrodd straeon mewn llefydd sy’n cael eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol. A fyddai Edward y 1af yn cymeradwyo? Da ni’n gobeithio ddim!”
Bydd profiad y gynulleidfa bob nos yn para tua phedair awr. Bydd modd symud o gwmpas y castell yn ystod y sioe. Fydd na ddim llwyfan na seddi – gallwch ddod â’ch cadair eich hun. Bydd cerddoriaeth Gruff Rhys wedi’i gymysgu gan y dylunydd sain Marco Perry yn chwarae’n barhaus drwy’r noson. Ac yna hanner ffordd, bydd Gruff Rhys yn perfformio set electronig gydag elfennau byw, yn cynnwys trac newydd a cherddoriaeth o'i ôl-gatalog. Gall y gynulleidfa fynd a dod fel y mynnant yn ystod y noson.
Ond be sy’n digwydd os bydd hi’n bwrw glaw? Bydd hynny, yn ôl Chris Levine, yr artist laser y tu ôl i’r cyfan, yn fonws:
“Mae Annwn yn ymwneud â'r cymysgedd o sain 3d gyda lasers, wedi'i daflunio ar waliau hanesyddol Castell Caernarfon. Yn awyr y nos, bydd y goleuadau laser yn syfrdanol ac os bydd yn niwlog, yn gymylog, neu'n bwrw glaw, bydd hyd yn oed yn fwy trawiadol. Gobeithiwn weld pob elfen o dywydd gogledd Cymru dros y penwythnos ac mi fydd hi’n wahanol iawn bob nos. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo'r dillad cywir a mwynhau."
Ychwanegodd yr artist Cymreig Gruff Rhys:
“Os da ni’n lwcus mi fydd hi'n bwrw glaw! Dwi’n meddwl y bydd yn sioe drawiadol, ond arbrofol hefyd. Fydd o’n brofiad ysgytwol dwi'n meddwl. Mae'r enw Annwn yn cyfleu'r syniad mewn ffordd... mynd mewn i isfyd gwbl wahanol, realiti gwahanol. Creu profiad mewn ffordd yn hytrach na chyngerdd yn gwatchad rhywun yn canu. Dio ddim fel gig ffurfiol - fyddai ddim yn neud perfformiad mawr, fyddai jest yn y cefndir efo synths ac yn canu.”
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal i gefnogi Samariaid Cymru. Ar Dachwedd 2, ddyddiau ar ôl penwythnos Annwn, bydd y Samariaid yn dathlu 70 mlynedd o fod yn glust i wrando.
Meddai Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru:
“Rydym yn gyffrous iawn ac yn ddiolchgar i’r tîm yn Annwn am ddewis Samariaid Cymru fel eu helusen. Mae'r digwyddiad arloesol hwn yn ceisio dod â phobl ynghyd i rannu profiad unigryw ac mae ganddo ffocws cryf ar gysylltiad dynol. Mae hwn yn un o werthoedd craidd y Samariaid – credwn fod cysylltiad yn ffactor amddiffynnol cryf ar gyfer risg hunanladdiad a chredwn y gall tosturi dynol newid ac achub bywydau.
Mae ein gwirfoddolwyr anhygoel yng Nghymru yno i unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi, hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf hynny. Mae’r digwyddiad anhygoel hwn yn cyd-fynd â 70 mlynedd o Samariaid ac rydym am ddefnyddio’r cyfle hwn i gydnabod uchelgais ac angerdd enfawr ein holl wirfoddolwyr. Byddwn yn parhau i fod y golau disglair hwnnw i’r rhai sydd mewn trallod ac rydym am i bawb yng Nghymru wybod bod gwneud y cysylltiad hwn, ac estyn allan atom, yn gryfder enfawr, nid yn wendid.”
Meddai Peter Hempel, Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd Creadigol Annwn:
“Mae’r syniad o greu gwaith arbrofol pwerus sy’n hybu lles drwy gysylltu pobl â’i gilydd ac â byd natur yn ganolog i weledigaeth Annwn ac i’n partneriaeth â’r Samariaid, mae cysylltiad yn hollbwysig iddynt.”