Mwynhewch fynediad am ddim i unrhyw un o 130 o safleoedd Cadw ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni a Chyfrannu i Ofal Canser Tenovus
Gall ymwelwyr fwynhau mynediad am ddim i gyfoeth o safleoedd hanesyddol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni (dydd Sadwrn 01 Mawrth 2025), wrth i Cadw ddathlu nawddsant Cymru.
O gestyll i abatai a safleoedd treftadaeth ddiwydiannol, bydd mynediad i 19 eiddo Cadw sydd fel arfer yn codi tâl mynediad am ddim ar Ddydd Gŵyl Dewi ond mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gofyn i ymwelwyr ystyried rhoi cyfraniad i’r elusen ganser Gymreig Tenovus.
Nid oes unrhyw orfodaeth i gyfrannu er mwyn cael mynediad i safleoedd Cadw, ond gall y rhai sy'n dymuno gwneud hynny helpu i roi gobaith i filoedd o bobl drwy gyfrannu swm o’u dewis drwy fewngofnodi i: https://tenovuscancercare.enthuse.com/pf/welsh-government-staff
Nod Tenovus, sef dewis elusen staff Llywodraeth Cymru eleni, yw rhoi'r mynediad gorau i'r driniaeth a'r cymorth sydd eu hangen i unrhyw un y mae canser yn effeithio arnynt, yng Nghymru a thu hwnt. Dyfodol sy'n lleihau effaith canser, yn rhoi gobaith i bobl ac yn eu helpu i fyw eu bywyd gorau.
Gall eich rhodd wneud gwahaniaeth mawr:
Gallai £10 helpu nyrsys Llinell Gymorth Tenovus i roi gwybodaeth hanfodol am ganser a chynnig cyngor penodol i rywun sydd wedi cael diagnosis.
Gallai £20 helpu ymgynghorwyr yr elusen i gwblhau gwiriad budd-daliadau llawn ar gyfer rhywun â chanser, gan eu helpu i gael mynediad at y grantiau a'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
Digwyddiadau Cadw sy’n cael eu cynnal i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2025
Dathliad Dydd Gŵyl Dewi (Castell Conwy)
Dydd Sadwrn 1 Mawrth, 11:00 – 11:30 a 14:00 – 14:30
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng ngogledd Cymru, gallwch fwynhau sain Côr Meibion Maelgwn wrth i chi grwydro ein castell canoloesol yng Nghonwy ar gyfer diwrnod o ddathliadau.
Cennin Pedr Dydd Gŵyl Dewi (Castell Caernarfon)
Dydd Sadwrn 1 Mawrth, 10:00 – 16:00
Dathlwch flodyn cenedlaethol Cymru gyda gweithdy gwneud cennin Pedr papur yng Nghastell Caernarfon ar ôl edrych o gwmpas y castell canoloesol arbennig hwn.
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi (Castell Caerffili)
Dydd Sadwrn 1, Dydd Sul 2 a Dydd Llun 3 Mawrth, 10:00 – 15:00
Dewch i ymweld â chastell mwyaf Cymru gyda phenwythnos o weithgareddau yng Nghastell Caerffili, gan gynnwys teithiau o amgylch y castell dan arweiniad y ceidwaid, gan ymchwilio i fythau a chwedlau Cymru.
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi (Castell Dinbych)
Dydd Sadwrn 1 Mawrth, 10:00 – 16:00
Gwisgwch eich gwisg draddodiadol Gymreig orau, neu unrhyw eitem goch, ar gyfer diwrnod bywiog o gerddoriaeth, danteithion wedi’u pobi a chrefftau yng nghaer ganoloesol Castell Dinbych.
Er mwyn osgoi siom, cynghorir ymwelwyr â Phlas Mawr i archebu eu tocynnau mynediad am ddim ymlaen llaw, gan fod cyfyngiad llym ar nifer y tocynnau sydd ar gael ar gyfer ymweliad bore neu brynhawn. Mae'r rhain ar gael ar sail y cyntaf i'r felin a rhaid eu harchebu ymlaen llaw yma.
Dywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:
"Mae Cadw wedi ymrwymo i wneud treftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ac mae cynnig mynediad am ddim ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ffordd wych o wneud hynny.
"Mae yna amrywiaeth o safleoedd i'w harchwilio, o gaer fwyaf Cymru, Castell Caerffili, gyda'i thŵr cam eiconig, i Lys yr Esgob Tyddewi — wedi'i leoli ger Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle sefydlodd nawddsant Cymru, Dewi Sant, ei fynachlog.
"Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr hefyd yn cefnogi ein helusen enwebedig, Tenovus, gan fod pob rhodd wir yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd Alexandra Smith, Rheolwr Dyngarwch a Digwyddiadau Arbennig Gofal Canser Tenovus:
"Mae hon yn fenter wych i gefnogi Tenovus a galluogi pobl i fwynhau rhai o lefydd mwyaf eiconig Cymru. Gyda mwy o bobl nag erioed yn byw gyda chanser yng Nghymru, mae angen ein gwasanaethau fwy nag erioed. Rydym yn deall sut y gall canser effeithio ar bob agwedd ar fywyd a sut mae'n effeithio ar deuluoedd a ffrindiau hefyd.
"Mae ein hystod eang o wasanaethau yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth arbenigol ddwyieithog i bobl sy'n byw gyda chanser, a'u hanwyliaid."