Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Wedi haf llawn digwyddiadau diwylliannol anhygoel, o'r Eisteddfod Genedlaethol i'r Gemau Olympaidd a’r Ewros, mae Cadw heddiw’n cyhoeddi bod Drysau Agored yn dychwelyd – gŵyl flynyddol sy'n rhoi mynediad i bawb i leoliadau hanesyddol mwyaf rhyfeddol a gwerthfawr ein gwlad.

Gydol mis Medi, bydd 200 a mwy o dirnodau hanesyddol o Fôn i Fynwy yn cynnal pob math o ddigwyddiadau am ddim, teithiau tywys, a phrofiadau ymgolli, rhai am y tro cyntaf erioed. Mae'r digwyddiad Drysau Agored yn arbennig eleni wrth i Cadw ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed gyda blwyddyn gyffrous o weithgareddau.

O gestyll ac eglwysi i dyrau cloc a chladdfeydd hynafol, a hyd yn oed Cartref Dylan Thomas, mae amryw byd o leoliadau yn rhan o'r ŵyl. Bydd 22 o henebion eiconig Cadw, gan gynnwys Castell DinbychCaer Rufeinig SegontiumCastell Harlech  ac Abaty Ystrad Fflur,  yn croesawu ymwelwyr yn rhad ac am ddim, gan wahodd pawb i archwilio'r lleoedd rhyfeddol hyn.

Mae Drysau Agored yn rhan o ŵyl ehangach Diwrnod Treftadaeth Ewrop, gyda'r nod o dynnu sylw at amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog ledled ein cyfandir. Mae'n gyfle unigryw i bobl o bob oed gysylltu â hanes, profi treftadaeth fywiog Cymru, a darganfod y straeon hudolus sydd wedi siapio'r genedl.

Dywedodd Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Digwyddiadau Cadw: 

“Mae Drysau Agored yn gyfle i ni ddathlu amrywiaeth a chadernid pensaernïaeth hanesyddol Cymru mewn ffordd sy'n hygyrch i bawb. 

“Drwy gynnig mynediad am ddim i'r lleoliadau hyn, rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i brofi dyfnder hanes a diwylliant ein gwlad a chwarae eu rhan i warchod y lleoedd hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Mae eleni hefyd yn garreg filltir arwyddocaol i Cadw gan ei bod yn nodi ei phen-blwydd yn ddeugain oed; mae'n wych cynnal yr ŵyl fel rhan o'r dathliadau ehangach gydol y flwyddyn.”

Mae rhestr lawn o'r lleoliadau sy'n rhan o'r ŵyl eleni ar wefan Cadw, ac mae detholiad o'r lleoedd ledled Cymru ar gael isod. 

Y De 

Cloc Tref Tredegar, Tredegar – 7 Medi, 10am-12pm

Un o'r drysau lleiaf sy'n cael eu hagor eleni yw Cloc Tref Tredegar ym mlaenau’r cymoedd - y cloc annibynnol talaf yn y DU. Wedi'i adeiladu ym 1858, mae'r cloc yn gynnyrch bodolaeth, twf a hanes diwydiannol dwfn y dref. Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu mwy am ei hanes a dringo i ben y tŵr i weld gwaith mewnol y tirnod Cymreig unigryw hwn.

Eglwys Abaty Margam ac Amgueddfa Cerrig Margam – 7 ac 8 Medi, 10am-2pm

Bydd y ddwy heneb hanesyddol ym Margam ger Port Talbot yn cynnig teithiau tywys am ddim fel rhan o'r ŵyl eleni. Bydd pensaernïaeth Gothig drawiadol yr Abaty, yn ogystal â cherfiadau cerrig yn yr amgueddfa o ddyddiau cynnar Cristnogaeth, yn hoelio sylw ymwelwyr wrth iddyn nhw ymchwilio i ganrifoedd o hanes. 

Sefydliad y Gweithwyr Rhisga, 21 a 22 Medi, 10am-4pm

Fe'i hadeiladwyd ym 1916 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'i defnyddio i weinyddu dognau (rasions) yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn dod yn swyddfa gyflogaeth leol yn y blynyddoedd diweddarach, ac yna’n Amgueddfa Rhisga ym 1985. Bydd gan yr heneb lawer o arteffactau lleol a diwydiannol i'w harddangos, a bydd arbenigwyr lleol ar gael i ateb cwestiynau yn ystod y digwyddiad. 

Y Gogledd 

Castell Dinbych, Dinbych – 21 a 22 Medi, 10am-4pm

Dewch i ddarganfod rhyfeddodau Castell Dinbych yn ystod Drysau Agored, lle cewch eich cludo'n ôl i oes aur rhyfela canoloesol, gyda synau ceffylau a milwyr yn atseinio trwy ei waliau.

Caer Rufeinig Segontium, Caernarfon – 8 Medi, 10am-2pm

Wedi'i sefydlu bron i ddau fileniwm yn ôl, roedd y gaer hon a leolwyd yn strategol ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig yn ffynnu am dri chan mlynedd a mwy. Roedd nid yn unig yn rheoli mynediad i Ynys Môn ond yn chware rhan hanfodol yn ddiweddaraf wrth amddiffyn arfordir Cymru yn erbyn môr-ladron Gwyddelig. Bydd y lleoliad yn cynnig teithiau tywys am ddim fel rhan o'r ŵyl.

Gerddi Bodnant, Tal-y-cafn, Bae Colwyn – 14 a 15 Medi, 09.30am-5pm

Mae gan yr ardd fyd-enwog hon – a grëwyd dros 150 mlynedd yn ôl – gasgliad o blanhigion anhygoel o wledydd Prydain a thu hwnt. Wedi'i gosod yn erbyn mynyddoedd hudolus Carneddau Eryri, mae'r ardd yn drwch o liwiau sy'n deffro'r synhwyrau a chynnig rhywbeth at ddant pawb.

Y Gorllewin 

Castell Maenorbŷr, Dinbych-y-pysgod – 14 a 15 Medi, 10am-5pm

Dewch i ddarganfod hanes Gerallt Gymro yn y perl Normanaidd rhyfeddol hwn, sy'n dal trysorfa o chwedlau o fewn ei muriau. Gall ymwelwyr ymdrochi'n llwyr yn y castell a'r cyffiniau - gan gynnwys ei gapel tawel a'i erddi wedi'u tirlunio'n ofalus.

Cartref Dylan Thomas, Talacharn – 21 a 22 Medi, 10am-5pm 

Mae cysylltiad agos rhwng yr adeilad hynod hwn â'r bardd mawr, Dylan Thomas. Gall ymwelwyr fynd ar daith o amgylch y Sied Sgwennu lle byddai'r awen yn llifo wrth edrych allan dros olygfeydd hyfryd o'r tri aber. Mae tocynnau'n rhad ac am ddim ond mae angen archebu lle.

Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro – 7 Medi, 11am-3pm

Mae'r digwyddiad Drysau Agored hwn yn cynnwys tri lleoliad: y ganolfan dreftadaeth; Paterchurch – tŵr caerog canoloesol; a Choeden Ginkgo Doc Penfro a blannwyd yno yn y 19eg ganrif fel rhodd gan gynrychiolydd o fflyd Llynges Japan. Mae angen archebu lle. 

Capel Talacharn, Talacharn - Dydd Sadwrn 21 a Dydd Sul 22Medi, amseroedd amrywiol

Bydd y capel hwn o'r 19eg ganrif yn agor ei ddrysau i ymwelwyr sydd am archwilio'r manylion rhwng ei waliau sanctaidd. Hefyd, bydd arddangosfa o arteffactau, ffotograffau a straeon lleol sy'n ymwneud â hanes Talacharn a'i thrigolion. 

Y Canolbarth 

Castell a Gerddi Powis, Y Trallwng – 14 Medi, 10am-5pm

Am yr eildro yn unig, bydd ymwelwyr yn cael mynediad unigryw i'r gaer ganoloesol hon o'r 13eg ganrif, yn rhad ac am ddim. Wedi'i hamgylchynu gan dir ffrwythlon a golygfeydd o Ddyffryn Hafren, mae'r heneb wedi'i dodrefnu â phaentiadau a ffabrigau addurniadol o'r radd flaenaf, ac mae'r tu mewn yn adlewyrchu'r cyfnod Elisabethaidd hyd at y cyfnod Edwardaidd.

Tŷ a Gerddi Abercamlais, Aberhonddu – 14 a 15 Medi, 12pm-4pm

Yn adeilad rhestredig Gradd 1 ysblennydd o'r Oesoedd Canol, mae Tŷ Abercamlais wedi'i ailwampio'n sylweddol ers hynny ar ddechrau'r 18fed ganrif ac oes Fictoria. Mae'r tŷ trawiadol hwn wedi'i osod mewn tiroedd helaeth a bydd ar agor i'r cyhoedd gyda theithiau wedi'u trefnu fel rhan o'r ŵyl Drysau Agored. 

Archifdy Powys, Llandrindod – 22 Medi, 10am-1pm

Ewch ar daith y tu ôl i ddrysau caeedig storfa'r archifau lle mae tua 100,000 o eitemau unigol o'r hen Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog yn cael eu cadw. Mae'r eitemau'n cynnwys Cardiau Nadolig Fictoraidd, llyfrau cyhuddiadau'r heddlu, llyfrau log ysgolion ac albymau lluniau, sy'n dyddio o'r 14eg ganrif. Bydd lluniaeth wedi'r daith, ac mae angen archebu lle. 

Dylai ymwelwyr wirio manylion pob digwyddiad gan fod y gofynion tocynnau yn amrywio o le i le. 

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys rhestr o'r holl leoliadau sy'n cymryd rhan, amserlen gyflawn o’r digwyddiadau a gwybodaeth am docynnau, ar gael yn https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/drysau-agored