Skip to main content
Abaty Tyndyrn
Wedi ei gyhoeddi

Mae’n bleser gan NDP Circus gyhoeddi eu cynhyrchiad nesaf o Notre Dame de Paris Victor Hugo, wedi ei gyfarwyddo gan Paul Liengaard.

Mae “Notre Dame de Paris aka The Hunchback of Notre Dame” yn agor ddydd Mawrth 25 Mehefin yn Transformateur yn St-Nicolas-de-Redon, Llydaw. Bydd y cynhyrchiad yn parhau i deithio yn Ffrainc, Lloegr a Chymru drwy gydol mis Gorffennaf cyn perfformio rhediad llawn yng Ngŵyl Fringe Caeredin.

Llanast Llys y Gwyrthiau, artaith Quasimodo, gargoiliau chwim a thrychineb diniweidrwydd angerddol Esmeralda. Gyda chast amrywiol a dawnus o fyd y syrcas, theatr, cerddoriaeth a dawns, a gwisgoedd unigryw sydd wedi eu hysbrydoli gan Baris, sef lleoliad y stori, mae’r cwmni’n adrodd y stori ffantastig, fythol hon sy’n delio â materion oesol perthnasedd, gwahardd, dosbarth a cham-drin pŵer. Wedi ei lwyfannu mewn cylch syrcas traddodiadol, mae’r set 12 metr o uchder a wnaed gyda llaw yn deyrnged i arwyddocâd Cadeirlan Notre Dame fel pinacl o bensaernïaeth Gothig ganoloesol.

Cwmni NDP Circus

Sefydlwyd NDP Circus oherwydd yr awch i adfywio chwedl epig Victor Hugo Notre Dame de Paris. Cast a chriw o 13 amrywiol ddisgyblaeth  (trapîs, dawns, cerddoriaeth, theatr, celfyddydau marchogol, canu opera) a chenedl sy’n ffurfio NDP Circus, wrth iddyn nhw gyflwyno cymysgedd o theatr a syrcas. Caiff y sioe ei pherfformio ar strwythur 12 metr o uchder sy’n cynrychioli Notre Dame ac yn cynnwys organ go iawn o’r 19eg ganrif. Bydd yn gynhyrchiad fydd yn procio’r meddwl ac yn llawn hafoc, a’r cyfan wedi ei oleuo’n naturiol gyda golau tân ac effeithiau fflamau. Mae’n siŵr o danio’r dychymyg!

Y Cyfarwyddwr a’r Cynhyrchydd Paul Liengaard

Mae ceffylau a’r syrcas yn agos at ei galon, ac mae’n teithio o hyd, felly mae’r her o greu sioe deithiol sy’n cynnwys Cadeirlan ac organ yn glynu’n dynn at y tri diddordeb hwnnw.

Mae eisoes wedi cyfarwyddo sioeau fel Cinderella: Turbo Zone, Double Crossing a Racines Vagabondes yn ogystal â gweithio ym myd ffilm a theledu, a daw â’r cwmni hwn o dalentau amrywiol ynghyd, gan eu harwain o gyfnod preswyl yn Llydaw i Ŵyl adnabyddus yr Edinburgh Fringe.

PENNAWD CALENDR

Theatr | Celfyddydau Perfformio

BETH

Syrcas, theatr a dawns

PWY

Addaswyd gan NDP Circus

Seiliedig ar y llyfr gan Victor Hugo

Cyfarwyddwyd a Chynhyrchwyd gan Paul Liengaard

PRYD

Abaty Tyndyrn

Dydd Mawrth 23 i ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf 8.30pm

Pris llawn: £15 ​/ ​Gostyngiadau​ ​(myfyrwyr/di-waith)​: £12​ / ​Plant​ (o dan 18​)​:​ ​£8.

CYSWLLT Y SWYDDFA DOCYNNAU  https://www.ndpcircus.com/

CYSWLLT Y WASG Maria Tarokh info@ndpcircus.com

CYSWLLT Ffôn: 00330665022661

CAST

Katina Laoutaris: ANANKE

Maria Tarokh: ESMERALDA

Edwin Liengaard Forster: QUASIMODO

Anthony Pinte: PHOEBUS

Baudouin Cristoveanu: GRINGOIRE

Célian: FROLLO

Noemie: FLEUR DE LYS

Manon: BRENHINES COURT DE MIRACLES

Katy Glanville: GAST PARIS

Sophie Forster: GUDUL (Mam Esmeralda)