Skip to main content
Castell Harlech
Wedi ei gyhoeddi

Mae awyren ymladd Americanaidd a ddaeth i lawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi cael ei chofrestru gan Cadw yn ddiweddar — dyma'r safle damwain awyren dynodedig cyntaf i gael ei ddiogelu yn y DU ar sail ei ddiddordeb hanesyddol ac archaeolegol.

Daeth yr awyren ymladd Lockheed P-38 Lightning i lawr oddi ar arfordir Gogledd Cymru ym mis Medi 1942, a dyma'r enghraifft orau o safle damwain awyren yng Nghymru. Mae wedi'i chladdu tua dau fetr o dan y tywod, ac mae wedi dod i'r amlwg dair gwaith ers iddo ddod i lawr – gwelwyd yr awyren gyntaf yn y 1970au, yn 2007 ac yn ddiweddaraf yn 2014.

Y peilot ar adeg y ddamwain oedd Ail Lefftenant Robert F. Elliott, 24, o Rich Square, North Carolina, a hedfanodd o Lanbedr ar daith ymarfer saethu. Cafodd e broblemau a arweiniodd at y ddamwain.  Ni chafodd y peilot ei anafu yn y ddamwain, ond adroddwyd ei fod wedi mynd ar goll yn y brwydro ychydig o fisoedd yn ddiweddarach.

Mae nai'r peilot, Robert Elliot, yn byw  yn Kingsport, Tennessee heddiw. Mae wedi ymddeol o Lynges UDA ac yn aelod o'r 49th Fighter Squadron Association. Ymwelodd â'r safle yn 2016. Meddai:

"Mae'n anrhydedd ac yn bleser gen i fod CADW wedi cydnabod P38F fy ewythr yn swyddogol drwy ei chofrestru fel heneb. Roedd fy ewythr ymhlith y peilotiaid dewr ac arbenigol yr oedd eu gwasanaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhagorol. Roedd fy ymweliad â'r safle gyda fy ngwraig Cathy yn 2016 yn emosiynol iawn. "Mae gan y 49th Fighter Squadron hanes cyfoethog llawn storïau sy'n mynd yn ôl i 1941, ac mae'n dal i fod yn weithredol heddiw fel y 49th Fighter Training Squadron. Dw i’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru i gefnogi'r dynodiad hanesyddol hwn".

Dywedodd Matt Rimmer, hanesydd awyrennu lleol:

"Dw i wedi bod yn eiriolwr dros warchod safleoedd damweiniau awyrennau yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, a dwi wrth fy modd yn cael gweld P-38 Harlech gael ei chofrestru fel heneb gan CADW. Dw i'n teimlo nid yn unig mae hyn yn cydnabod arwyddocâd yr awyren benodol hon yng nghyd-destun hanesyddol, ond hefyd y rôl bwysig a chwaraewyd gan Gymru yn erbyn y Natsïaid a'r miloedd o aelodau o griwiau awyrennau o lawer o wledydd a gwblhaodd eu hyfforddiant yma — gyda llawer ohonyn nhw'n colli eu bywyd yn ystod hyfforddiant neu wedyn yn y brwydro".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae'r safle hwn o arwyddocâd rhyngwladol, a dw i wrth fy modd bod dynodi'r safle hwn yn tynnu sylw at nodweddion arbennig y safle, yn ogystal â'i diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ac fel rydyn ni wedi gweld yn ystod y digwyddiadau Cofio dros y penwythnos, mae safleoedd fel yr un hwn yn cynrychioli digwyddiadau na ddylen ni byth eu hanghofio. Bydd Cymru wastad yn cofio ac yn parchu'r rhai a gyfrannodd at sicrhau'r heddwch sydd gennyn ni heddiw, yn ein hoes mor ffodus".