Partneriaeth i adfywio Ystrad Fflur
Cyn bo hir bydd un o safleoedd mwyaf diwylliannol arwyddocaol Cymru yn cynnig mynediad a phrofiadau gwell i ymwelwyr, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur a Cadw.
Ar 1 Ebrill 2025 bydd ardal eiconig Ystrad Fflur yng Ngheredigion yn cael ei rheoli ar y cyd am gyfnod peilot, gyda'r Ganolfan Ymwelwyr yn ailagor ac arddangosfeydd dehongli wedi'u gwella. Bydd ymwelwyr yn gallu profi drostynt eu hunain yr heddwch a'r ysbrydoliaeth y mae'r safle yn enwog amdanynt a gweld sut mae sylfeini’n cael eu gosod ar gyfer ei ddyfodol fel man dysgu ac ymgysylltu diwylliannol sy’n gytûn â'i hanes cyfoethog.
Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn adfer ffermdai ac adeiladau fferm Mynachlog Fawr, gan ddod â bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol newydd i'r ardal, tra hefyd yn dathlu tirwedd a hanes unigryw Ystrad Fflur fel man pererindod.
Bydd y bartneriaeth yn sicrhau y gall ymwelwyr gael mynediad di-dor i adfeilion yr Abaty sy'n cael eu rhedeg gan Cadw ar hyn o bryd, a'r cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd. Bydd staff ar y safle rhwng 10am a 4pm bob dydd o 1 Ebrill tan 31 Hydref.
Ni fydd unrhyw ffi i fynd i mewn i’r safle cyfan, i wneud hanes a threftadaeth y safle hynod arwyddocaol hwn yn hygyrch i bawb, gydag ymwelwyr yn cael eu hannog i gyfrannu i gefnogi’r gost o redeg y safle.
Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
"Heb os, Ystrad Fflur yw un o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru. Mae’r gymuned fynachaidd gyntaf yn dyddio o’r 1160au a buan iawn y daeth yn un o’r sefydliadau crefyddol pwysicaf yng Nghymru, yn fan pererindod ac yn ganolfan i ddiwylliant Cymru.
"Mae'r cytundeb newydd hwn rhwng Cadw ac Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn dangos sut mae Cadw yn datblygu ffyrdd arloesol o weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod ein safleoedd hanesyddol eithriadol mor hygyrch â phosibl i’r cyhoedd.”
Dywedodd Mick Taylor, o Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur:
"Rwy'n falch iawn ei bod wedi bod yn bosibl i'r Ymddiriedolaeth ymrwymo i'r bartneriaeth hon gyda Cadw, er budd pobl Cymru a thu hwnt. Ystrad Fflur yw canolbwynt hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, mae'n cael ei garu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â chan y rhai sy'n byw ar ei stepen drws.
"Gan adeiladu ar etifeddiaeth ei gorffennol fel canolfan ysbrydol, wleidyddol a llenyddol gyda gwersi amgylcheddol a chynaliadwyedd sylweddol i'w haddysgu, mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn gweithio i drawsnewid y safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'i wneud yn ffocws i'r rhai sydd eisiau deall diwylliant Cymru ac elwa o'i amrywiaeth gyfoethog.
"Bydd y safle yn cael ei aduno, gyda'r adfeilion mynachaidd wedi'u cadw a'u dehongli'n hyfryd, a'r adeiladau fferm hanesyddol wedi'u hailbwrpasu i roi cyfleoedd ar gyfer dysgu, cyflogaeth a mwynhad."