Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Coronavirus wedi cau safleoedd hanesyddol Cymru ond yr wythnos hon (08 Ebrill), mae Cadw wedi rhoi cyflenwadau bwyd o’i gestyll, abatai a henebion i helpu cymunedau ledled y wlad.

Gyda chyflenwadau wedi'u cymryd o 24 o safleoedd treftadaeth, mae Cadw wedi rhoi mwy na 1,000 o eitemau bwyd i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru — gan gynnwys banciau bwyd, elusennau cymunedol, canolfannau digartrefedd a hybiau ysgolion lleol, sy'n dal i weithredu i gefnogi plant gweithwyr allweddol.

Mae bocsys rhoddion Cadw yn cynnwys detholiad enfawr o fwyd moethus yn cynnwys: cyffug, pice ar y maen, bara brith, bisgedi, jam, siytni ac Wyau Pasg - pob un wedi'i becynnu i wneud yn siŵr nad yw Cadw yn gwastraffu bwyd yn ystod yr amser hwn o angen cynyddol. Mae’r bocsys hyn wedi’u dosbarthu yng Nghaerdydd, y Rhyl, Abermaw, Sir Benfro, Cwmbrân a Phont-y-pŵl.

Ers dechrau COVID-19, mae banciau bwyd Cymru wedi bod dan straen heb ei debyg — gydag adroddiadau eu bod wedi gorfod cyflwyno elfen o ddogni'r mis diwethaf, yn wyneb llai o roddion a’r ffaith fod pobl yn prynu llawer o fwyd i’w storio.

Mae Cadw wedi danfon nwyddau i sawl banc bwyd yr wythnos hon - gan gynnwys The King’s Storehouse yn y Rhyl, The Hope Centre ym Mhont-y-pŵl a Banc Bwyd De Gwynedd yn Harlech. Ceidwaid safle a phartner dosbarthu lleol, Ginger Exhibitions, sydd wedi bod yn dosbarthu’r nwyddau.

Dywedodd Sarah Jones cydlynydd The King’s Storehouse:  

Rydyn ni wedi cael ein llethu gan geisiadau am barseli bwyd dros y tair wythnos ddiwethaf, yn enwedig gan deuluoedd â phlant gartref. Fe wnaethon ni helpu 84 o deuluoedd yr wythnos diwethaf ac rydyn ni'n brysur yr wythnos hon hefyd - felly rydym yn croesawu’r rhodd gan Cadw yn fawr iawn. Bydd y siocled yn gwneud gwahaniaeth arbennig o fawr - i lawer o bobl, bydd yn bleser na allant ei fforddio.”

Anfonwyd eitemau hefyd i elusennau digartrefedd a chanolfannau gofal i bobl hŷn, a’r gobaith yw y bydd rhoddion Cadw yn helpu i leddfu’r pwysau ar fanciau bwyd Cymru a hybiau cymunedol dielw fel ei gilydd — sydd i gyd yn gweithio’n ddiflino i ddarparu ar gyfer pobl mewn angen.

Yn y cyfamser, bydd y rhoddion a roddir i hybiau ysgolion lleol — gan gynnwys Meithrinfa Little Darlings ac Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yng Nghwmbrân — yn helpu i gefnogi plant gweithwyr allweddol, sy'n cael eu haddysgu ac yn derbyn gofal yno hyd y gellir rhagweld. Bydd rhoddion a gynigir i’r ysgolion yn helpu i ddarparu ar gyfer plant ar y rhaglen ‘prydau ysgol am ddim’, ond hefyd yn cefnogi teuluoedd gweithwyr allweddol yn eu cyfanrwydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae rhwydwaith ymwelwyr, aelodau, gweithwyr a rhanddeiliaid Cadw yn sylfaen i safleoedd hanesyddol Cymru - gyda chefnogaeth y cymunedau hyn yn ein helpu i warchod, cynnal a gofalu am ein casgliad o 130 eiddo treftadaeth, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Felly, yn ystod yr amser hwn o argyfwng cenedlaethol, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl - ac rydym yn gobeithio ei fod yn gwneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach ydyw.

Mae rhoi’r holl stoc bwyd nad yw’n cael ei ddefnyddio yn fodd i Cadw ddiolch i’r cymunedau sy’n ein helpu bob dydd, ond hefyd ein poblogaeth o weithwyr allweddol, sy’n aberthu popeth i gefnogi Cymru yn ystod yr amser anodd hwn.”

Bydd Cadw yn parhau i roi bwyd moethus dros y penwythnos, gan ddosbarthu wyau siocled mewn pryd i deuluoedd sy'n gobeithio dathlu Gŵyl Banc y Pasg.