Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Mae grŵp o arbenigwyr wedi lansio Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector.

Mae rhai o safleoedd a thirweddau hanesyddol mwyaf eiconig Cymru dan fygythiad yn sgil tymereddau cynhesach, y ffaith bod lefel y môr yn codi, patrymau glawiad newidiol ac achosion mwy rheolaidd o dywydd eithafol.

Mae’r cynllun yn tynnu sylw at yr angen i bob sector gydweithio a chymryd camau gyda’i gilydd er mwyn gwella dealltwriaeth; meithrin capasiti a all addasu a chynyddu cydnerthedd yr amgylchedd hanesyddol – fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Mae Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol yn fforwm cenedlaethol a gaiff ei arwain gan Cadw sy’n cynnwys cyrff y sector cyhoeddus, cynrychiolwyr o sefydliadau’r sector gwirfoddol a pherchenogion safleoedd hanesyddol. Gofynnwyd i Is-Grŵp Newid Hinsawdd y Grŵp asesu ac adrodd wrth y Grŵp ar y modd y dylai sector yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru fynd i’r afael â her y newid yn yr hinsawdd. Ffrwyth eu gwaith nhw yw Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector. Mae’r Cynllun yn deillio o ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid ac mae’n cyd-fynd â chynllun addasu Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd, sef Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd.

Gwnaeth aelodau’r Grŵp gyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas 18 Chwefror er mwyn lansio’r cynllun. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae’n rhaid i ni ailystyried y ffordd rydym yn rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru er mwyn ymateb i fygythiadau’r newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â chymryd camau i gyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd mae’n hollbwysig ein bod hefyd yn addasu i’r newidiadau sydd eisoes yn digwydd yn sgil allyriadau hanesyddol ac allyriadau presennol.”

Dywedodd Cadeirydd Is-Grŵp Newid Hinsawdd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol, Jill Bullen:

“Mae nifer o’r bobl sy’n rheoli safleoedd a thirweddau hanesyddol a phwysig eisoes yn ystyried y newid yn yr hinsawdd a goblygiadau hyn i’w gwaith. Rydym wedi ceisio manteisio ar eu harbenigedd, gan rannu eu profiadau a’r gwersi y maent wedi’u dysgu.”

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi croesawu’r cynllun. Dywedodd:

“Yn ogystal â datgarboneiddio economi Cymru mae’n rhaid i ni hefyd ymateb i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Rydym eisoes yn gweld yr effeithiau hyn yn gynyddol aml.”

“Mae’r cynllun newydd hwn yn cyd-fynd â’r camau a nodir o fewn Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.”

“Rydym eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol mewn camau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd ac er mwyn paratoi at y dyfodol. Rydym wedi gwneud hyn drwy ystod eang o bolisïau, rhaglenni ac ymyriadau. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i anelu at gyflawni gwlad sy’n fwy ffyniannus, yn fwy cyfartal ac yn fwy gwyrdd.”

 Daeth y Dirprwy Weinidog i’r casgliad canlynol:

“Hoffwn ddiolch i Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol am arwain y ffordd â’r Cynllun hwn. Mae’n nodi’r peryglon a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y newid yn yr hinsawdd a’r addasiadau y mae gofyn i sector yr amgylchedd hanesyddol eu gwneud. Yn fwy na dim mae’n galw arnom i wynebu’r her a dechrau cymryd camau nawr.”

Mae ein cyhoeddiad Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru  sy'n rhoi cyngor ar ffyrdd o sefydlu perygl llifogydd a pharatoi ar gyfer llifogydd posibl drwy osod mesurau amddiffyn. Mae hefyd yn argymell camau i'w cymryd yn ystod llifogydd ac wedi hynny er mwyn lleihau difrod a risgiau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Addasu i Newid Hinsawdd.