Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Shane Williams MBE, sgoriwr cais mwyaf Cymru a chyn Chwaraewr y Flwyddyn IRB, wedi beicio 736.71 milltir, dringo 47,491 troedfedd (mwy nag un a hanner gwaith uchder Everest) ac ymweld â 50 o gestyll o amgylch Cymru mewn ymgais i ennill teitl y Guinness World Records™ am ymweld â’r mwyaf o gestyll mewn wythnos, ar gefn beic.

Dechreuodd Shane ei daith epig  ar Chwefror 22 yng Ngharreg Cennen, Sir Gaerfyrddin. Daeth y daith i ben wythnos yn ddiweddarach wrth gyrraedd Castell Dinefwr ar Ddydd Gŵyl Dewi, Mawrth 1. Ar y ffordd, galwodd mewn ar gestyll ar hyd a lled Cymru, o Fiwmares yn y gogledd i Gaerdydd yn y de, ac o Hwlffordd i Gas-gwent yn y dwyrain. Oherwydd y pandemig, roedd y cestyll i gyd wedi’u cau i'r cyhoedd.

Bydd rhaid aros am raglen arbennig sy’n cael ei ddarlledu ar S4C ar Fawrth 31, a gynhyrchwyd yng Nghaerdydd gan gwmni Orchard, i weld os oedd ymgais Shane yn llwyddiannus. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys nifer o ymdrechion eraill, o dynnu awyren i dorri coed i gôr rhithiol yn canu o un i un.

Wrth siarad am yr her, dywedodd Shane: “Am wythnos wych ond llafurus! Cefais antur ar drywydd hanes Cymru i geisio gosod record byd newydd. Roedd y gefnogaeth gan Guinness World Records, tîm Orchard, Cadw a pherchnogion eraill y cestyll yn aruthrol. Roeddwn ar feic ffordd Agilis, model mor newydd nid oeddwn i wedi ei reidio o'r blaen. Un dydd clociais i 125 milltir - record bersonol i mi mewn un diwrnod; dathlais fy mhen-blwydd yn 44 gyda chacen y tu allan i Gastell Harlech; bu’n rhaid i mi ail-wneud graddiannau o 40% pan anghofiais ddechrau fy Ngharmin; mi wnes i fwyta cymaint o Mint Aeros dros yr wythnos, rhaid fy mod wedi torri record y byd am hynny; cwrddais â'r Maer yn Arberth; ac yng Ngwbert cawsom wylio ail hanner y gêm rygbi pan gipiodd Cymru y Goron Driphlyg.

“Yn bennaf oll, cefais fy atgoffa o harddwch syfrdanol y wlad hon. Ond pam o pam mae’n rhaid i ni roi ein cestyll ar ben bryniau mor serth?!”.

Unwaith eto, dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi gyda nifer o ymdrechion Cymreig unigryw i dorri recordiau a gydnabuwyd gan ddyfarnwyr Guinness World Records fel ‘rhyfeddol’. Mae’r bartneriaeth rhwng S4C a Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard wedi dod â Chymru a’r Gymraeg i gynulleidfa o filiynau ledled y byd trwy amryw o lwyfannau cymdeithasol gan gynnwys TikTok ac Instagram.

Bydd rhaglen sy’n cynnwys yr holl ymdrechion yn cael ei ddarlledu ar Fawrth 31, yna bydd rhaglen arbennig, Shane: Torri Record Byd Guinness, ar S4C nos Iau, 15 Ebrill am 9.00. Bydd y rhai sydd wedi torri recordiau yn ennill lle yn rhifyn 2022 o’r llyfr Guinness World Records, fydd ar werth ym mis Medi.

Dywedodd Rob Light, Cynhyrchydd Gweithredol Orchard: “Fe wnaeth Shane roi popeth mewn i’r cais record byd hwn, felly rydyn ni'n wir obeithio y bydd o’n llwyddo - gallwch ddarganfod ei ffawd ar S4C ar Fawrth 31. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda S4C a Guinness World Records eto i amlygu brand Cymru ar draws y byd. Rydym yn ddyledus iawn i’r tîm yn Cadw am ein helpu gyda thaith epig Shane, er gwaethaf y ffaith bod y cestyll yn parhau ar gau.”

Dywedodd Gwydion Griffiths, Pennaeth Marchnata a Thwristiaeth Cadw: “Hoffem longyfarch Shane a thîm Orchard ar yr ymgais wych hon i greu record byd. Mae Cadw yn gyfrifol am 130 o safleoedd hanesyddol anhygoel ledled Cymru ac mae ceisio teithio i 50 o gestyll yng Nghymru, ar gefn beic, o fewn wythnos yn ymdrech anhygoel. Gobeithio y bydd yn ysbrydoli eraill i ymweld â'r safleoedd pan fyddwn ni'n ail-agor i'r cyhoedd."

Dechreuodd y Guinness World Records yn 1955 gydag un llyfr a gyhoeddwyd o ystafell uwchben campfa. Mae wedi tyfu i fod yn frand amlgyfrwng byd-eang, gyda swyddfeydd yn Llundain, Efrog Newydd, Miami, Beijing, Tokyo a Dubai. Bellach cyflwynir cynnwys trwy lyfrau, sioeau teledu, cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau byw.

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: “Llongyfarchiadau i Shane Williams am ymdrech hollol syfrdanol. Mae S4C yn llawn edmygedd ac yn falch o fod wedi gweithio gyda Shane, Cadw, Guinness World Records â Orchard ar yr ymgais wirioneddol arbennig hon i dorri record. Mae'n dod â Chymru, a phopeth sydd gan ein gwlad hardd i'w gynnig - gan gynnwys ein cestyll anhygoel - i gynulleidfaoedd ledled y byd.”

Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Freeview 4, Sky 104, Virgin TV 166 a Freesat 104. Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166.