Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yr wythnos hon mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Fuzhou, Tsieina, cymeradwyodd Pwyllgor Treftadaeth y Byd arysgrif Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ar Restr Treftadaeth y Byd, gan ddod â nifer y Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru i bedwar.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn ymuno â Chestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Mae Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi yn dathlu’r cyfraniad a wnaed gan gymunedau chwareli Gwynedd i drawsnewidiad diwydiannol cymdeithas. Yn ei anterth yn ystod y 19eg ganrif, cafodd llechi o chwareli gogledd Cymru eu cario o amgylch y byd a gellir dod o hyd iddynt yn gorchuddio toeau adeiladau ar bron pob cyfandir. Gellir gwir ddweud bod “Cymru wedi toi’r byd”

Dan arweiniad Cyngor Gwynedd, mae’r arysgrif yn benllanw ar 15 mlynedd o waith caled gan bartneriaid, gan gynnwys Cadw, i gofnodi, diogelu a chydnabod etifeddiaeth fyw tirwedd llechi Gwynedd. 

Mae’r Safle Treftadaeth y Byd newydd yn eiddo cyfresol mewn chwe rhan, gan gynnwys tirweddau chwareli ysblennydd fel y Penrhyn, Dinorwig, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog. Mae hefyd yn cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Castell Penrhyn a Rheilffyrdd enwog Ffestiniog a Thal-y-llyn, a adeiladwyd i gludo'r llechi o’r chwareli i farchnadoedd ledled y byd. Trawsnewidiwyd y ddau yn ddiweddarach, diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr, yn rheilffyrdd treftadaeth. 

Gellir gweld manylion llawn y Safle Treftadaeth y Byd newydd ar ei wefan bwrpasol www.llechi.cymru