Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Uwchgynhadledd Treftadaeth Gwydnwch Hinsawdd 27 Hydref 2021 — digwyddiad am ddim

Mae ein treftadaeth yn wydn drwy ddiffiniad ond mae amlder a dwyster cynyddol peryglon yr hinsawdd yn dechrau gofyn am gyllid ac adnoddau ychwanegol er mwyn deall a diogelu lleoedd ac asedau sylweddol rhag peryglon.

Mae cyrff ac elusennau'r sector cyhoeddus yn cydweithio i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y lleoedd sydd dan eu gofal. Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd academyddion ac ymarferwyr, rheoleiddwyr a chyrff elusennol i drafod a chyflwyno eu hymdrechion i archwilio amlygiad, natur fregus ac effeithiau peryglon yr hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol.

Yn ogystal â sgyrsiau ar risgiau, bydd y digwyddiad hwn yn arddangos y posibiliadau o weithio gyda data hinsawdd i ddatblygu offer y gellir gwneud asesiadau ar opsiynau ar gyfer ymaddasu a throthwyon ar gyfer newid.

Ymunwch â ni’n rhithwir i gymryd rhan, rhoi eich barn a rhannu eich profiad ar wydnwch treftadaeth a newid yn yr hinsawdd.

Byddwn yn defnyddio Slido drwy gydol y dydd i ganiatáu i fynychwyr gyfrannu meddyliau, teimladau a syniadau.

Manylion y digwyddiad:

Dyddiad: dydd Mercher 27 Hydref 2021

Amser: 10am

Tocynnau: tocynnau ar-lein am ddim ar gael o Eventbrite

Archebu tocynnau