Wedi’i guddio yn y pridd
Mae cloddio yn datgelu mewnwelediad newydd i safle hirgolledig yn nhirwedd Bryn Celli Ddu.
Dychwelodd archaeolegwyr i ddatgelu tirwedd ddefodol gynhanesyddol sy’n cynnwys carnedd o’r Oes Efydd, sydd â’r potensial i fod yn fwy na’i chymydog enwog, Bryn Celli Ddu. Mae’r garnedd yn feddrod cyntedd 5,000 o flynyddoedd oed ac mae wedi’i halinio â gwawr heuldro’r haf ar Ynys Môn.
Efallai nad yw’r beddrod cyntedd mor adnabyddus â Chôr y Cewri (Stonehenge), ond mae iddo aliniad tebyg, lle mae’r cerrig yn alinio gyda’r haul ar ddiwrnod hiraf yr haf. Drwy adeiladu cyntedd hir ym Mryn Celli Ddu, gall yr haul ymgripio i bellafoedd y siambr fewnol; eiliad atmosfferig nad ellir ei anghofio.
Mae’r cloddiad yn awgrymu bod gan y safle arwyddocâd i bobl gynhanesyddol a barodd am filenia ar ôl i’r domen bridd gael ei chodi dros siambr gyntedd gerrig.
Cloddiwyd safle Bryn Celli Ddu gyntaf yn 1865 ac yna cafodd ei ail-greu yn y 1920au. Mae cloddio yn ystod y pum haf diwethaf – gydag aelodau o’r cyhoedd yn ymuno â’r archaeolegwyr – wedi datgelu tirwedd gyfoethog o weddillion archaeolegol, sy’n cwmpasu mwy na 5,000 o flynyddoedd o weithgarwch dynol.
Datgelodd y cloddio 12 enghraifft o gerfiadau celfyddyd creigiau, i gyd yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu, ynghyd â phydew yn llawn crochenwaith ac offer cerrig.
Eleni, mae’r cloddiadau yn parhau i ddatgelu tystiolaeth o garnedd gladdu gynhanesyddol hirgolledig sydd ond ychydig fetrau yn unig i ffwrdd o Fryn Celli Ddu, wrth i archaeolegwyr glirio’r haenau i ddatgelu’r heneb. Mae dyddio radiocarbon wedi rhoi dyddiad o 1,900 CC, wedi iddynt ddarganfod offer fflint ac ymylfaen ddwbl o gerrig mawr, rhai ohonynt yn pwyso dros dunnell yr un.
Rhoddwyd mynediad arbennig i’r safle i ddisgyblion o’r ysgol gynradd leol Llanddaniel Fab a nifer o rai eraill ar draws Ynys Môn, er mwyn iddynt gael dysgu am fywyd yn eu hardal 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Trwy gyfres o sgyrsiau a gweithdai gan archaeolegwyr ar y safle, ynghyd â gweld arteffactau yn cael eu canfod am y tro cyntaf, gobeithio bydd y disgyblion yn elwa o’r profiad a chael gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’i hanes lleol o ganlyniad i’r prosiect.
Mae arlunwyr hefyd yn cymryd rhan ac yn ymateb i Fryn Celli Ddu mewn ffyrdd newydd. Artist Cymreig a gwneuthurwr print arobryn yw John Abell, ac mae’n gweithio i greu printiau torluniau pren newydd. Mae motifau nodedig Abell, sy’n cyfuno ffeithiau a chof chwedlonol, yn adrodd stori, gan ddod â’r gorffennol a’r presennol yn fyw drwy ddefnyddio iaith weledol hudolus.
Mae Cadw yn awyddus i roi cynnig i’r rheini sydd â diddordeb mewn hanes gael y cyfle i ddysgu mwy am archaeoleg yr ynys ac mae wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i gyd-daro â’r prosiect. Bydd y cloddiad yn rhedeg o 8 Mehefin i 7 Gorffennaf.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: “Yn ystod Blwyddyn Darganfod Cymru, rydym yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu pobl Cymru a thu hwnt gyda threftadaeth gyfoethog ein gwlad. Mae cynnal y cloddiad hwn a digwyddiadau eraill ym Mryn Celli Ddu yn ffordd ardderchog o hybu dealltwriaeth ddyfnach o un o safleoedd cynhanesyddol mwyaf nodedig Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd pobl leol ac ymwelwyr yn cael eu hysbrydoli i ymweld â Bryn Celli Ddu yr haf hwn, archwilio’r canlyniadau archaeolegol newydd, a mwynhau’r gweithgareddau a’r digwyddiadau am ddim sy’n digwydd ym Mehefin eleni.”
Arweinir prosiect tirwedd Bryn Celli Ddu gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Prifysgol Canol Sir Gaerhirfryn a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion, ynghyd ag aelodau o’r gymuned leol a myfyrwyr archaeoleg.
Rhestr o Ddigwyddiadau
22 Mehefin 11am – 4pm ym Mryn Celli Ddu
Bryn Celli Ddu, Llanddaniel Fab, LL61 6EQ
Diwrnod Agored ym Mryn Celli Ddu, gyda theithiau tywys ar y safle o gloddio a hanes byw cynhanesyddol
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Yn Oriel Môn
21 Mehefin 6.30pm yn Oriel Môn
Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ
Darlith gyhoeddus gan yr Athro Mike Parker Pearson: 'Stonehenge and Wales'
Am ddim, tocynnau ar gael o Oriel Môn ar 01248 724444
22 Mehefin, 11am – 4pm yn Oriel Môn
Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ
Diwrnod Agored yn Oriel Môn gydag arddangosiadau a gweithgareddau
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Ymlaen hyd at 23 Mehefin yn Oriel Môn
Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ
Arddangosfa Darganfyddiadau Archaeolegol
Mynediad am ddim, croeso i bawb