Skip to main content
Abaty Nedd
Wedi ei gyhoeddi

Ddydd Gwener 25 Mawrth estynnodd Cadw groeso i 13 o ddisgyblion o ysgol gymunedol leol, sef Ysgol Gymunedol Llangatwg, a ddaeth i fwynhau archwilio safle Abaty Nedd am rai oriau a dysgu sgiliau ffotograffiaeth ar yr un pryd, yn rhan o weithgarwch ehangach Cadw ar gyfer Gaeaf Llawn Lles.

Roedd aelodau’r grŵp yn llawn cyffro wrth iddynt gyrraedd yr Abaty ar eu bws mini. Cafodd yr Abaty ei sefydlu yn 1130 gan y marchog Normanaidd Syr Richard de Granville. Mae bron holl gynllun yr abaty a’i adeiladau i’w gweld hyd heddiw, sy’n cadarnhau maint yr anheddiad crefyddol llewyrchus hwn, a buan y dechreuodd y grŵp ymddiddori yn llawer o’r safle mewn ffyrdd artistig.

Rhoddodd y ffotograffydd lleol Andy Davies gyflwyniad i ffoto-graffiaeth, neu ddarlunio â golau, a’r modd yr ydym yn gweld y byd drwy ddelweddau. Galluogodd hynny’r grŵp i archwilio’r bwâu, y cerrig a’r gwahanol ardaloedd yn bwrpasol er mwyn ymarfer eu sgiliau ffotograffiaeth newydd; buodd rhai yn defnyddio ffonau symudol, buodd eraill yn defnyddio camerâu a dewisodd un disgybl ddefnyddio papur a phenseli i ddehongli’r dysgu a’r safle.

Roedd yn braf gweld sut y trodd y cyffro cychwynnol yn sylw tawel a chreadigol yn fuan wrth i’r bobl ifanc ymgyfarwyddo â’r lle agored, ymgolli yn y gweithgaredd a rhannu hanes a syniadau creadigol o amgylch y safle. Gwelwyd y dysgwyr, y mae mor hawdd defnyddio eu hanghenion dysgu unigol i’w labelu, yn creu celf yn ddychmygus ac yn fedrus ac yn cael hwyl yn ddiogel mewn lleoliad hanesyddol mewn modd a oedd yn canolbwyntio ar y disgybl. Bydd yn ddiddorol gweld sut y caiff y delweddau eu dehongli a’u dathlu yn ôl yn yr ysgol. Gobeithio y bydd rhai o’r disgyblion yn gallu defnyddio’r safle fel ystafell ddosbarth agored unwaith eto yn y dyfodol.

Mae’r gweithdy hwn ynghyd â gweithdai ffotograffiaeth eraill a gynhaliwyd yn ddiweddar yn helpu i greu adnodd ffotograffiaeth newydd a fydd, pan fydd wedi’i gwblhau, yn helpu eraill i archwilio ffotograffiaeth o amgylch safleoedd treftadaeth ac yn cysylltu â’n darpariaeth fel un o gefnogwyr Arts Award. Mae’r ymweliad hefyd yn cefnogi elfen allweddol o weledigaeth y sefydliad: sef Cymru lle mae pawb yn gofalu am ein mannau hanesyddol, yn eu deall ac yn eu rhannu. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi neu’ch grŵp gymryd rhan, cysylltwch â: Cadw.Education@gov.wales


Mae Ysgol Gymunedol Llangatwg yn ysgol eithaf bach sydd ag oddeutu 770 o ddisgyblion 11 - 16 oed. Mae’r ysgol yn gwasanaethu Cwm Nedd a Chwm Dulais yn ogystal â phentrefi Cil-ffriw a Thregatwg. Mae’r ysgol yn falch o’r cymorth y mae’n ei roi i’w dysgwyr, gan gynnwys y sawl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff y cymorth, yr arweiniad a’r ymyriadau a ddarperir eu teilwra er mwyn diwallu anghenion pob dysgwr unigol mewn modd sy’n canolbwyntio ar y disgybl.