Ysgol y Castell yn ymweld â'r castell
Cafodd plant o Ysgol y Castell brofiad arbennig ychydig cyn y Nadolig wrth iddyn nhw ymweld â Chastell Caerffili i weld y gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud yn Neuadd Fawr y castell.
Dechreuodd Cam I y gwaith, sy'n cynnwys adnewyddu'r Neuadd Fawr ganoloesol, gosod llwybrau a rampiau mynediad i ymwelwyr, dehongli newydd cynhwysfawr, a chreu gardd flodau gwyllt, ar 7 Awst 2023 a bydd yn parhau tan yr haf y flwyddyn nesaf.
Bydd gwaith cadwraeth ac agor mynediad i ymwelwyr hefyd yn cael ei wneud ar y porth dŵr canoloesol, a oedd unwaith yn darparu mynediad o ymyl y dŵr i'r Neuadd Fawr. Nid yw'r fynedfa atmosfferig hon gyda'i thramwyfa hir dan orchudd wedi cael ei defnyddio ers y canol oesoedd.
Castell Caerffili wedi elwa o fuddsoddiad o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Cadw, i ddiogelu'r gaer ganoloesol a gosod cyfleusterau ymwelwyr newydd sy'n addas ar gyfer ymwelwyr yr 21ain ganrif. Bydd y rhain yn cynnwys canolfan groeso newydd i ymwelwyr gyda chaffi, toiledau, ac ystafell addysg fel y bydd llawer mwy o ysgolion yn gallu elwa o ymweld â'r castell yn y dyfodol i ddysgu am hanes Cymru a digwyddiadau sydd wedi siapio stori ein cenedl.
Dywedodd Mrs Callyn Bovington o Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell am yr ymweliad,
“Mae’r plant wedi mwynhau dysgu am y castell yn yr ysgol yn fawr, felly roedd yn wych gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ar y safle.”
“Roedden nhw wrth eu boddau’n gweld y gwahanol straeon o wahanol rannau’r castell, ond yr uchafbwynt yn bendant oedd gweld y gwaith yn cael ei wneud yn y Neuadd Fawr. Bydd yn edrych yn anhygoel pan fydd wedi gorffen.”
Dywedodd Joan Tamlyn, Rheolwr Datblygu Busnes yn John Weaver Contractors,
"Mae Cadw a John Weaver Contractors yn awyddus iawn i ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer y prosiect hwn, felly roedd yn bleser eu croesawu i'r castell a'u dangos o amgylch y Neuadd Fawr.
"Roedd y plant wedi ymddwyn yn arbennig o dda, ac roedd yn wych gweld y brwdfrydedd a'r diddordeb oedd ganddyn nhw yn y castell.”
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ac i ddilyn y stori, ewch i
https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-caerffili