Skip to main content

‘Pan welwch chi’r difrod sy’n cael ei wneud, mae’n rhaid gweithredu.’ Yn y diwedd, doedd dim dewis ond gwneud gwaith sylweddol ar un o safleoedd mwyaf poblogaidd Cadw.

Er fod hynny’n golygu gosod sgaffaldau o amgylch tŵr Castell Coch yn anterth tymor yr haf, roedd penderfyniad Neal O’Leary a’i dîm yn anorfod.

‘Rhaid i ni ystyried pam fod y castell mor bwysig,’ meddai Neal, pennaeth cadwraeth Cadw. ‘Sef cyfanrwydd gwaith dylunio William Burges y tu mewn.’

Mae dŵr wedi bod yn treiddio i mewn i un o’r ystafelloedd gwely gan ddifrodi yn o’r enghreifftiau gorau o gynlluniau llachar y pensaer. Mae Cadw wedi bod yn ceisio monitro’r broblem ac yn chwilio am ffyrdd llai ymwthiol i’w datrys. Ond, gan mai rhannol lwyddiannus oedd hynny, mae angen gwaith mwy sylweddol erbyn hyn.

Roedd arolygon wedi defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddangos gwendidau yn y simneiau anferth ar y gorthwr a’r porthdy — cafodd drônau eu hedfan yn agos iddyn nhw, gan dynnu lluniau manwl a oedd yn dangos mân graciau yn y cerrig a dirywiad yn y gwaith pwyntio.

Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau, aeth tîm Cadw o benseiri cadwraethol, peirianwyr adeiladu, ecolegwyr a thirfesurwyr ati i lunio manylebau, darluniau a rhaglenni gwaith fel y gallai contractwr cadwraethol arbenigol wneud y gwaith. Bydd y gwaith cadwraethol yn ymyrraeth sylweddol i’r heneb, ond bydd yn sicrhau bod Castell Coch yn dal dŵr am genedlaethau eto.

‘Yn amlwg, mae dŵr yn treiddio drwy’r cerrig ac yn peri i’r addurniadau moethus bilio oddi ar y waliau yn ystafell wely Arglwydd Bute,’ meddai Stephen Jones, rheolwr rhaglenni a chynllunio gwaith Cadw, a’r un sy’n arwain y prosiect cadwraethol unigryw hwn. ‘Yr unig ateb yw tynnu’r simneiau’n ddarnau a’u hailadeiladu, gan osod astell blwm ar y tu mewn i fynd â’r dŵr.’

Gwaith cymharol gyffredin yw trwsio simneiau fel rheol; yng Nghastell Coch, yn uchel yn y coed uwch dyffryn Taf, mae’n her anferthol.
Pumochrog yw’r mwyaf o’r ddwy simnai, tua 8 metr (26 troedfedd) o daldra ac yn pwyso tua 50 tunnell. Mae’n meinhau tua’r brig, felly mae pob carreg yn wahanol. Ar ben hynny, daeth y cerrig gwreiddiol o chwarel leol sydd bellach wedi ei chau a’i llenwi. 

Dyna un o’r heriau penodol sy’n rhan o’r prosiect; mae eraill yn ymwneud â maint yr adeilad ei hun. Dyna pam y bydd system sgaffaldiau arbenigol yn cael ei defnyddio – wedi’i gosod ar draean uchaf y castell, gan orffwys ar yr hyn sy’n cael eu galw’n ‘fracedi crocbren’, yn ymestyn allan o’r waliau.

Castell Coch

Ar adeilad haws ei gyrraedd, efallai y byddai wedi bod yn bosibl i godi’r simneiau’n gyfan a gosod yr astell blwm ynddyn nhw cyn eu gostwng i’w lle eto; mewn safle llai bregus a gwerthfawr, byddai modd cynnau tân i sychu’r simneiau ond, yng Nghastell Coch, mae’r peryg yn ormod.

‘Efallai fod datgymalu ac ailadeiladu’r simneiau’n ymddangos yn ateb eitha’ drastig,’ meddai Neal O’Leary. ‘Ond dyw’r gweithredu llai ymwthiol a wnaed dros y pymtheng mlynedd diwethaf, er ei fod yn gwbl unol ag Egwyddorion Cadwraeth Cadw, ddim wedi datrys problem y dŵr yn dod i mewn; yn amlwg, rhaid i ni wneud rhywbeth mwy arwyddocaol. Er fod y simneiau’n bwysig, yr elfen allweddol yng Nghastell Coch yw’r addurniadau mewnol.’

Pe bai’r cerrig yn well na’r disgwyl, byddai modd ailddefnyddio rhai ohonyn nhw. Beth bynnag sy’n digwydd, bydd rhaid i’r gwaith datgymalu fod yn ofalus iawn, a phob darn yn cael ei rifo a’i gofnodi i wneud yn siŵr bod yr ailadeiladu’n berffaith.

Mae’r angen yn fwy nag erioed i ddod o hyd i atebion cadwraethol addas ac mae’n fwy fwy amlwg fod effeithiau newid hinsawdd yn niweidio safleoedd Cadw, gan gynnwys Castell Coch. O ganlyniad, nu raid i dimau cadwraeth Cadw feddwl yn fwy creadigol am ffyrdd o gynnal a chadw’r safleoedd gwych yma – er mwynhad pobl heddiw, yn ogystal â rhai’r dyfodol.