Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Newidiadau o ran mynediad i rai safleoedd ac i aelodaeth Cadw ym mis Ebrill 2019

Cyflwyno tâl mynediad i safleoedd newydd Cadw

Fis Ebrill, bydd rhaid talu i gael mynediad i safleoedd Gwaith Haearn Blaenafon a Chaer a Baddonau Rhufeinig Caerllion. Bydd hyn yn dod i rym yng Nghaer a Baddonau Rhufeinig Caerllion* ddydd Llun, 01 Ebrill. Bydd yn dod i rym yng ngwaith Haearn Blaenafon ddydd Llun, 08 Ebrill, oherwydd bydd y safle hwn ar gau rhwng 31 Mawrth a 07 Ebrill gan fod rhaglen ddrama yn cael ei ffilmio yma ar gyfer y BBC.

Bydd y tâl mynediad newydd yn helpu i gwblhau unrhyw welliannau angenrheidiol sydd angen eu gwneud o ran dehongli, a gwelliannau i’r cyfleusterau yng Ngwaith Haearn Blaenafon ac yng Nghaer a Baddonau Rhufeinig Caerllion yn y dyfodol, yn ogystal â pharhau i helpu i ddiogelu safleoedd a henebion hanesyddol Cadw ledled Cymru.

Mae Gwaith Haearn Blaenafon eisoes wedi elwa o welliannau pwrpasol yn y Cast House — gan gynnwys arddangosfa clyweledol ddramatig sy'n egluro'r broses o wneud haearn ym Mlaenafon.

Yn y cyfamser, mae gweddillion Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion wedi dod yn fyw unwaith eto o ganlyniad i gymysgedd arloesol o dafluniadau digidol, goleuadau theatrig, cyflwyniadau clyweledol a chasgliadau helaeth.

*Dim ond yn y Baddonau Rhufeinig y codir y tâl mynediad newydd hwn ar safle treftadaeth Cadw yng Nghaerllion. Gellir parhau i ymweld â’r amffitheatr Rufeinig a'r barics am ddim.

Gwaith Haearn Blaenafon — tâl mynediad (Dydd Llun, 08 Ebrill 2019 ymlaen)
• Aelodau — mynediad am ddim
• Oedolion — £5.80
• Teuluoedd* — £16.80
• Pensiynwyr (65+) — £4.60
• Plant dan 16 oed — £3.50
• Plant dan 5 oed — mynediad am ddim
• Myfyrwyr — £3.50
• Lluoedd Arfog / cyn-filwyr — £3.50

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion — tâl mynediad (Dydd Llun, 01 Ebrill 2019 ymlaen)
• Aelodau — mynediad am ddim
• Oedolion — £4.20
• Teuluoedd* — £12.20
• Pensiynwyr (65+) — £3.40
• Plant dan 16 oed — £2.50
• Plant dan 5 oed — mynediad am ddim
• Myfyrwyr — £2.50
• Lluoedd Arfog / cyn-filwyr — £2.50
**mynediad i hyd at 3 phlentyn dan 16.

Diweddaru cynlluniau aelodaeth Cadw

Fel rhan o adolygiad blynyddol y cynllun aelodaeth, byddwn hefyd yn gwneud newidiadau i sawl categori aelodaeth Cadw.  

O 01 Ebrill 2019 ymlaen, bydd aelodaeth Pensiynwyr ar gael i bobl sy’n 65 oed neu’n hŷn, bydd aelodaeth Pobl Ifanc ar gael i bobl sydd rhwng 18 a 20 oed, a bydd aelodaeth Iau ar gael i blant a phobl ifanc sydd rhwng 5 ac 17 oed. Bydd pob categori aelodaeth arall yn aros yr un fath.

Bydd Cadw yn dal i dderbyn pob math o aelodaeth Pensiynwyr sy’n weithredol ar hyn o bryd, heb wneud unrhyw newidiadau i gytundebau aelodaeth presennol o ran oedran a chategori aelodaeth.

Prisiau a buddion newydd i aelodau Cadw

Bydd y rhestr brisiau newydd ar gyfer cynllun aelodaeth Cadw — sy'n parhau i gynnig cyfraddau ffafriol a buddion unigryw i aelodau — yn dod i rym ddydd Llun, 01 Ebrill 2019 ymlaen, a bydd cynigion ymuno gwych ar gael yn y safleoedd ac ar wefan Cadw.

Sylwer na fydd y costau isod yn effeithio ar aelodau sydd wedi prynu neu adnewyddu tanysgrifiad aelodaeth cyn 01 Ebrill 2019 tan eu dyddiad adnewyddu nesaf.

Prisiau aelodaeth Cadw (Dydd Llun, 01 Ebrill 2019 ymlaen)
• Aelodaeth un oedolyn — £48.00
• Aelodaeth ar y cyd i oedolion — £74.00
• Aelodaeth un pensiynwr (65+) — £32.00
• Aelodaeth ar y cyd i bensiynwyr (65+) — £53.00
• Aelodaeth i oedolyn a phensiynwr (65+) — £61.00
• Aelodaeth teulu (2 oedolyn) — £81.00
• Aelodaeth teulu (1 oedolyn) — £57.00
• Aelodaeth teulu i bensiynwyr (2 oedolyn 65+) — £63.00
• Aelodaeth teulu i bensiynwyr (1 oedolyn 65+) — £42.00
• Aelodaeth myfyriwr NUS — £26.00
• Aelodaeth person ifanc (18-20) — £26.00
• Aelodaeth Iau (5-17) — £20.00
• Aelodaeth oes — £785.00
• Aelodaeth oes ar y cyd — £1090.00
• Aelodaeth oes i bensiynwr (65+) — £525.00
• Aelodaeth oes ar y cyd i bensiynwyr (65+) — £695.00

Pam fod y newidiadau hyn yn digwydd?

Mae Cadw wedi ymrwymo i warchod hanes cyfoethog Cymru, ac mae'n edrych yn gyson ar ffyrdd newydd o wella profiad ymwelwyr ar ei safleoedd — trwy wella cyfleusterau i ymwelwyr, gosod gwaith dehongli diddorol, a gwneud gwaith cadwraethol i ddiogelu'r safleoedd er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu ymweld â nhw a'u mwynhau.

Gyda'i gilydd, mae cynlluniau aelodaeth Cadw a’r ffioedd mynediad yn helpu i gyflawni hyn — gyda gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i nifer o adeiladau a henebion hanesyddol Cymru dros y 12 mis diwethaf.

Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar, mae buddsoddiad gwerth £800k ar gyfer gwelliannau strwythurol yng nghastell enwog y tylwyth teg, Castell Coch — i warchod y safle Fictoraidd godidog rhag difrod dŵr i lawr y simneiau ar ei gorthwr a'i borthdy.

Hefyd, buddsoddwyd £850k i ariannu prosiect cadwraeth Safle Treftadaeth y Byd yng ngogledd Cymru — gyda gwaith cerrig sylweddol yn cael ei gwblhau yng Nghastell Conwy a Muriau’r Dref, ac yng Nghastell Biwmares a Chastell Harlech yn ystod tymor yr hydref 2018.

Bydd y newidiadau mewn ffioedd i ymwelwyr ac aelodau sydd ar y gweill eleni yn cynorthwyo ein hymdrechion i warchod ac amddiffyn safleoedd hanesyddol Cymru — gydag ystod o brosiectau wedi'u cynllunio ar gyfer 2019 a thu hwnt.