Mae Cadw, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn casglu adborth ar brofiad a barn ymwelwyr yn barhaus. Nod yr ymarfer casglu data hwn yw:
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data. Bydd Cadw yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad ac ni fydd yn darparu data y gellir ei adnabod yn bersonol i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei rhannu'n fewnol o fewn Cadw (Llywodraeth Cymru) mewn fformat dienw.
Bydd data dienw hefyd yn cael ei rannu gyda thîm ymchwil bach sydd wedi’i leoli rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn sy'n gweithio ar FreeTxt, offeryn dadansoddi testun dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Ni fydd eich manylion personol (cyfeiriad e-bost) yn cael ei rannu fel rhan o'r prosiect.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Os hoffech gymryd rhan mewn raffl am aelodaeth Cadw, gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost. Bydd eich adborth o'r arolwg yn helpu Cadw i wella profiad yr ymwelydd ar y safle.
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.
Casglwyd eich cyfeiriad e-bost pan wnaethoch archebu ar-lein i ymweld â safle Cadw a defnyddir hwn i anfon dolen i’r ‘arolwg ar ôl ymweld’ atoch. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw fanylion personol wrth gwblhau'r arolwg ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu casglu wrth gwblhau’r arolwg. Felly, mae'r ymatebion i'r arolwg yn ddienw.
Fodd bynnag, gofynnir i chi am eich cyfeiriad e-bost os ydych am gymryd rhan yn y raffl am aelodaeth Cadw. Mae hyn yn gwbl wirfoddol, ac nid oes angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost os nad ydych yn dymuno cymryd rhan. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gasglu mewn set ddata wahanol, nad yw'n gysylltiedig â'ch ymatebion i'r arolwg.
Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn ein raffl ac wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, bydd Llywodraeth Cymru (Cadw) yn tynnu’r raffl ar y diwrnod gwaith cyntaf ym misoedd Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr, gan fod hwn yn arolwg parhaus. Cysylltir ag enillwyr y raffl a bydd gofyn iddynt hawlio eu gwobr o fewn pum diwrnod gwaith.
Ar bob dyddiad, byddwn yn dewis darpar enillwyr o'r raffl hyd at dair gwaith i ddod o hyd i enillydd ac os na chaiff y wobr ei hawlio ar ôl y cyfnod hwn, bydd y dynfa yn annilys ar gyfer y wobr benodol. Bydd y set ddata o gyfeiriadau e-bost y rhai sy’n cymryd rhan yn cael ei dileu heb fod yn hwyrach na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad tynnu'r wobr. Ar gyfer Telerau ac Amodau llawn y gystadleuaeth, ewch i https://cadw.llyw.cymru/telerau-ac-amodau
I’r enillwyr sy’n dewis derbyn y wobr, sef aelodaeth Cadw, bydd Cadw yn rhannu eich cyfeiriad e-bost gydag Golley Slater, asiantaeth trydydd parti, a fydd yn rheoli gweinyddiaeth gyffredinol eich aelodaeth Cadw; a Mediascene, a fydd yn gweinyddu dosbarthiad eich copi am ddim o gylchgrawn Treftadaeth yng Nghymru. Yna gofynnir i chi roi mwy o ddata er mwyn prosesu eich aelodaeth a bydd eich manylion, o'r pwynt hwn ymlaen, yn ddarostyngedig i'r Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer cynllun aelodaeth Cadw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n polisi preifatrwydd Polisi preifatrwydd | Cadw (llyw.cymru). Ar gyfer Telerau ac Amodau llawn eich aelodaeth, ewch i Telerau ac amodau (llyw.cymru).
Ar y diwrnod gwaith cyntaf ym misoedd Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr bydd holl ddata'r arolwg yn cael ei drosglwyddo o SmartSurvey i ffeiliau prosiect Llywodraeth Cymru. Dim ond y tîm ymchwil fydd â mynediad i’r ffolderi prosiect hyn. Ar y pwynt hwn, byddwn yn dileu unrhyw fanylion adnabyddadwy sy'n ymddangos mewn ymatebion i gwestiynau agored.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru (Cadw) gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Cadw yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o weithwyr Cadw all gael mynediad at y data, a byddant yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig.
Bydd eich ymatebion i'r arolwg a'ch cyfeiriad e-bost, os ydych am gymryd rhan yn y raffl, yn cael eu cadw mewn setiau data gwahanol.
Wrth gynnal arolygon, mae Cadw’n defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni’n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd. Caiff yr holl ddata ei brosesu yn y DU.
Bydd Cadw (Llywodraeth Cymru) hefyd yn rhannu data dienw gyda thîm ymchwil bach sydd wedi’i leoli rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn fel rhan o'r prosiect FreeTxt, gan ddefnyddio rhaglen i drosglwyddo ffeiliau'n ddiogel. Mae FreeTxt yn offeryn dadansoddi testun dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Ni fydd eich manylion personol (cyfeiriad e-bost) yn cael ei rannu fel rhan o'r prosiect.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd achos tybiedig o dorri rheolau diogelwch data, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu.
Bydd yr holl gyfeiriadau e-bost a gedwir gan Cadw (Llywodraeth Cymru) yn cael eu dileu ar ôl cwblhau tynnu’r raffl am gyfnod eich ymateb. Tynnir y raffl ar y diwrnod gwaith cyntaf ym misoedd Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Bydd gan enillwyr bum diwrnod gwaith i ymateb ac os byddant yn methu â gwneud hynny, bydd y raffl yn digwydd hyd at ddwywaith eto. O'r herwydd, y cyfnod hwyaf ar gyfer cadw cyfeiriadau e-bost fydd 15 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod gwaith cyntaf y tynnir y raffl yn dilyn eich ymateb i'r arolwg.
Bydd holl ddata'r arolwg yn ddienw cyn cael ei drosglwyddo i ffolderi prosiect Llywodraeth Cymru, megis nodi testun mewn cwestiynau agored.
Ar gyfer holl enillwyr y wobr, bydd y wybodaeth a gedwir gan Golley Slater i brosesu eich aelodaeth yn cael ei chadw yn unol â'n polisi preifatrwydd aelodaeth Polisi preifatrwydd | Cadw (llyw.cymru).
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddir gennych fel rhan o'r arolwg hwn; mae gennych yr hawl:
Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Information Commissioner’s Office
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru (Cadw), neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Ceri Thomas
E-bost: cadwmarketing@llyw.cymru
Ffôn: 0300 062 5147
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru