Cadw yn ymuno ag Awr Ddaear WWF 2019
Mae Cadw wedi cyhoeddi ei gefnogaeth unwaith eto i Awr Ddaear — y dathliad byd-eang blynyddol o’r blaned.
Am 8.30pm ar nos Sadwrn 30 Mawrth 2019, bydd Cadw yn ymuno ag adeiladau a strwythurau amlwg ledled y byd fel y Senedd ym Mae Caerdydd, Pont Harbwr Sydney a Times Square yn Efrog Newydd, trwy ddiffodd y goleuadau yn ei bencadlys.
Yn 2019, rydym yn nodi deuddeg mlynedd ers i Awr Ddaear ddechrau, a thrwy gymryd rhan mae Cadw yn dangos ei ymrwymiad i weithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae’r sefydliad yn gwneud i’w Awr Ddaear gyfrif trwy diffodd y goleuadau yn Castell Coch, Castell Caernarfon, Castell Conwy, Castell Harlech a Castell Caerffili.
Mae oddeutu hanner miliwn o bobl yng Nghymru’n cymryd rhan yn Awr Ddaear bob blwyddyn, a thrwy gymryd rhan, maen nhw’n dangos eu bod eisiau gweld gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn awr.
Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod [sefydliad] yn cefnogi Awr Ddaear WWF eto eleni. Bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Felly mae’n wych bod sefydliadau Cymreig cefnogi’r alwad am weithredu i fynd i’r afael ag ef.
“Gall pawb — o unigolion a grwpiau cymunedol i ysgolion a busnesau — gofrestru ar gyfer Awr Ddaear trwy fynd i www.wwf.org.uk/awrddaear ac yna diffodd eu goleuadau am 8.30pm ar nos Sadwrn 30 Mawrth 2019.”