Skip to main content

Mae celf comig yn ddisgyblaeth greadigol sy’n defnyddio dilyniant o ddelweddau digidol neu wedi’u harlunio, gyda thestun o bosibl, i gyfleu stori.

Cyfeirir yn aml at y math hwn o ymarfer creadigol fel celfyddyd ddilyniannol ac mae wedi cael ei ddefnyddio fel math o gyfathrebu ers miloedd o flynyddoedd. Mae’n caniatáu i stori hir neu gymhleth gael ei dal mewn ffordd gryno, hawdd ei threulio. Mae celf comig yn ffordd hynod hygyrch a hyblyg o ennyn diddordeb dysgwyr ac mae’n gweithio gydag amrywiaeth o wahanol ddulliau dysgu.

Fel ffurf gelfyddydol, mae’n croesi llawer o ddisgyblaethau, gan ddefnyddio delweddau gweledol ac iaith i adrodd stori ac i archwilio ystod eang o bynciau. Mae hyn yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer gwaith trawsgwricwlaidd. Wrth gwrs, mae gan lyfrau comig a nofelau graffig eu lle eu hunain yn y byd llenyddiaeth gyhoeddedig.

Gall unrhyw un o unrhyw oedran roi cynnig arni a mwynhau — beth amdanoch chi?