Castell Rhuddlan — Canllaw Mynediad
Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: RhuddlanCastle@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Mae maes parcio bach rhad ac am ddim yng Nghastell Rhuddlan sydd wedi'i leoli’r tu allan i'r ganolfan ymwelwyr. Golwg Google maps
Mae'r ardal yn wastad a graeanog.
Mae mynediad i'r ganolfan ymwelwyr bach yn fflat ac mae drysau’n ddigon llydan ar gyfer sgwteri symudedd mawr.
Mae'r maes parcio yn cynnwys un lle parcio hygyrch pwrpasol.
Mae'r ganolfan ymwelwyr yn fach ac wedi'i lleoli wrth ymyl y castell, y gellir ei gyrchu trwy daith gerdded fer iawn ar lwybr graeanog gwastad, sy'n cynnwys pont lydan anwastad.
Ar ochr castell y bont mae nifer fach o goblau wrth i chi fynd i mewn i'r tŵr agosaf - er mwyn osgoi'r rhain ewch i'r castell drwy'r porthdy pellaf.
Toiledau: mae un toiled ar y safle, sy'n gwbl hygyrch ac yn darparu cyfleusterau newid babanod.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig. Dŵr ar gael i gŵn.
Mae tiroedd Castell Rhuddlan yn wastad ac wedi'u gorchuddio â glaswellt wedi’i gynnal a’i gadw’n dda. Mae ardaloedd bychain o arwyneb graean.
Mae mynediad i lefelau is y tyrau yn bosibl ond yn aml yn anwastad a/neu'n cynnwys grisiau. Gellir cyrraedd lefelau uchaf ac isaf yr heneb drwy risiau troellog modern, metel. Mae arwynebau daear ar y lefelau uchaf yn anwastad mewn mannau. Mae mynediad i ardal y ffos yn bosib i lawr rhes fer o risiau llydan.
Mae nifer fechan o fyrddau a chadeiriau y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr, yn addas ar gyfer cael picnic neu ddiod boeth. Er nad Oes meinciau na meinciau picnic o fewn y safle mae digon o waliau isel i eistedd arnynt ac mae'r ffos neu'r clawdd yn darparu mannau hyfryd i gael picnic.
Taith sain | Nac oes |
Rhesel Feiciau |
Oes Nac oes Nac oes Oes Nac oes Nac oes Nac oes Oes Oes Nac oes |