Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Caerffili / Caerphilly Castle

Os hoffech wybod sut oedd un o gaerau cwbl wych Ewrop ganoloesol yn gweithio mewn gwirionedd, dewch i Gaerffili. Nid adfail darluniadwy yn unig mo hwn, ond hanes ar waith. 

Yma gallwch ryfeddu at y llynnoedd a ail-lenwyd a’r pedwar math o beiriant gwarchae, a’r dyblygiadau i gyd yn gweithio’n berffaith ac yn barod i danio. Gallwch gerdded ar hyd llwyfan yr argae lle byddai ymwanau a thwrnameintiau’n cael eu cynnal. Ac os ydych yn teimlo’n rhamantus dros ben, gallwch hyd yn oed briodi yn y neuadd fawr adferedig. 

Mae’n brofiad bythgofiadwy – ac mae’n parhau traddodiad o ailadeiladu dychmygus a sefydlwyd gan bedwerydd Ardalydd Bute, ac yntau’n graig o arian.    

O 1928 tan ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd, bu’n adfer holl rannau’r castell a oedd wedi dymchwel ers yr Oesoedd Canol. Hwn oedd y prosiect mwyaf o’i fath a gynhaliwyd erioed ym Mhrydain, a hynny o ran maint, manylder a dilysrwydd. 

Yn rhannol, roedd Bute yn ymroi i’w frwdfrydedd dros adeiladau canoloesol, a etifeddwyd gan ei dad, mae’n siŵr, a oedd wedi adfer ac ailaddurno Castell Caerdydd a Chastell Coch. Ond, gan mwyaf, ymdeimlad o gyfiawnder cymdeithasol oedd yn ei sbarduno.   

Ei fwriad oedd cefnogi economi Caerffili, a oedd yn simsan ar ôl Streic Gyffredinol 1926 a’r Dirwasgiad Mawr. Am 12 mlynedd, cyflogodd nid llai na 15 o seiri maen amser llawn ynghyd â llawer iawn o lafurwyr a chontractwyr. 

Erbyn 1936 roedd wedi gwario dros £100,000 o’i boced ei hun – sef nifer o filiynau ym mhrisiau heddiw. Roedd wedi clirio iorwg, carthu ffosydd ac adfer pontydd, tyrau a phorthdai’n drylwyr, a’r cyfan fesul carreg. Ef sy’n gyfrifol am hanner yr hyn a welwn heddiw yng Nghaerffili.  

Ond nid pawb oedd yn llawn edmygedd. Roedd dull radicalaidd Bute yn gwbl groes i ddoethineb y pryd sef ‘cadw fel y canfuwyd’. Cadwraeth, nid ail-greu, oedd arfer yr oes. 

Dywedodd ei frawd, yr Arglwydd Colum Crichton-Stuart, fod ei feirniaid yn ddirywiaethwyr a drysorai ddadfeiliad ac a fyddai’n atal y gwaith o adfer y gaer orau yng Nghymru. 

Mae athroniaeth Bute wedi teyrnasu yng Nghaerffili dros y 60 mlynedd ddiwethaf. Yn fwyaf rhyfeddol, mae’r argaeau enfawr wedi’u hatgyweirio a’r llynnoedd wedi’u hail-lenwi. Mae gan borthdy mewnol y dwyrain lawr a tho newydd. Adferwyd ffenestri coeth y neuadd fawr i’w gogoniant blaenorol.

Heddiw, mae cerfddelw bren o’r ardalydd fel petai’n gwneud ei orau glas i gadw’r Tŵr Cam enwog yn ei le. Dyma deyrnged huawdl i’r dyn a achubodd Gastell Caerffili rhag mynd â’i ben iddo.