Skip to main content

Cynllun ar gyfer Teuluoedd Maeth

Mynediad am ddim i safleoedd Cadw i deuluoedd maeth

Mae Cadw yn cynnig ymweliadau hunan-dywys yn rhad ac am ddim, mewn lleoliadau treftadaeth Cadw sydd wedi’u staffio, er mwyn cefnogi teuluoedd maeth.

Gweithredu dros Blant 

Mae partneriaeth rhwng Cadw a Gweithredu dros Blant yn galluogi plant maeth a'r teuluoedd sy'n gofalu amdanyn nhw i ymweld â phob un o henebion Cadw yn rhad ac am ddim i’r rhai hynny sydd â Llythyr Awdurdodi Cynllun Mynediad Cadw i deuluoedd maeth cyfredol, sydd ar gael trwy Asiantaethau Faethu sydd wedi cofrestru i’r cynllun gyda Gweithredu dros Blant. 

Dylai’r rheiny gyda Llythyr Awdurdodi dilys gysylltu â’u safle Cadw dewisol er mwyn gwirio argaeledd a thrafod trefniadau ar gyfer yr ymweliad rhad ac am ddim.

Yna cwblhau’r ffurflen ar-lein yma, a fydd yn cael ei anfon ymlaen at ofalwr a fydd yn cadarnhau eich archeb. Rhowch 3 diwrnod o rybudd i deuluoedd, 5 diwrnod o rybudd i grwpiau, er y byddwn yn gwneud ein gorau i brosesu eich archeb o fewn cyfnod byrrach na hyn, ond ni allwn sicrhau ymweliad am ddim.  

Os nad oes llythyr gennych - cysylltwch â’ch Asiantaeth Faethu. Mae’r cynllun Gweithredu dros Blant ar agor i bob asiantaeth faethu . Gall asiantaethau wneud un cais a fydd yn cwmpasu pob teulu maeth y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Nid oes tâl er mwyn bod yn aelod o'r cynllun. Gall asiantaethau maethu sydd am ymuno â'r cynllun gysylltu â Gweithredu dros Blant Maethu Cymru ar 01633 01633 270422 i ofyn am ragor o wybodaeth a chyfarwyddyd ynglŷn â chael pas ar gyfer eu teuluoedd maeth. Yn anffodus ni allwn dderbyn ceisiadau gan deuluoedd maeth unigol.  

Maxcard

Mae teuluoedd maeth a theuluoedd sydd â phlant ag anghenion ychwanegol sydd â Max Card hefyd yn gallu ymweld â’r holl henebion sydd yng ngofal Cadw yn rhad ac am ddim, drwy ddangos cerdyn dilys.  

Nodwch, os gwelwch yn dda — ar gyfer y ddau gynllun:

  • ni fydd mynediad am ddim yn cael ei roi i ofalwyr heb fod y bobl hynny y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw gyda nhw.  ·
  • nid yw’r cynnig yn gymwys yn y safleoedd Cadw sy’n cael eu cyd-reoli, sef Carreg Cennen, Dolwyddelan, Cerrig Margam neu Gastell Weble.