Skip to main content

Er gwaethaf cyfres o rolau eiconig ar lwyfan a sgrin yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif, mae Paul Robeson, canwr, actor ac ymgyrchydd o America yn cael ei gofio'n well yng Nghymru nag yn ei wlad enedigol.

Sain cerddoriaeth

Yn ôl y sôn, roedd Robeson yn cerdded adref ar ôl perfformio yn y sioe gerdd Show Boat yn y West End yn Llundain ym 1928 pan glywodd gôr yn canu yn y stryd. Roedd y cantorion yn lowyr di-waith o Gymru a oedd wedi gorymdeithio i Lundain i brotestio yn erbyn tlodi ac amddifadedd yng nghymoedd y De. Ymunodd Robeson yn y canu yn y fan a'r lle, gan gyfrannu llais bas-bariton syfrdanol at eu rhengoedd. Dyna gychwyn cyfeillgarwch hir y dosbarth gweithiol Cymreig gyda seren du'r byd ffilm o New Jersey yn dod yn eiriolwr annhebygol.

Proud Valley film poster

The Proud Valley. © Everett Collection Inc / Alamy Stock Photo

Adleisiwyd yr olygfa hon yn The Proud Valley, a ryddhawyd ym 1940 ac a ffilmiwyd yn Llantrisant, Tonyrefail a Chwm Darran. Mae Robeson yn chwarae rhan morwr du Americanaidd (gyda'r enw trawiadol David Goliath) sy'n docio yng Nghaerdydd ac yn chwilio am waith yn y Cymoedd, lle mae'n cael ei fabwysiadu'n gyflym gan lowyr sy'n awyddus iddo ymuno â'u côr meibion. Yn y ffilm, mae cymeriad Robeson yn dod ar draws un achos yn unig o hiliaeth gan gyd-löwr, ac mae ei ffrindiau'n ei amddiffyn drwy ddweud 'Aren't we all black down that pit?’. Yn anffodus, mewn bywyd go iawn, ni fu pethau erioed mor hawdd â hynny i lowyr du Cymru.

Paul Robeson screen still from The Proud Valley

The Proud Valley, 1940. © South Wales Miners' LibraryCasgliad y Werin Cymru

Rhan o'r gymuned

Yn ogystal â pherfformio ledled Cymru yn y 1930au, rhoddodd Robeson yn hael i gymunedau lleol. Ar 22 Medi 1934, roedd yn perfformio ym Mhafiliwn Pier Llandudno pan dorrodd y newyddion am ffrwydrad ym Mhwll Glo Gresffordd ger Wrecsam. O glywed am y trychineb, gwnaeth Robeson gyfraniad hael iawn i deuluoedd y 266 o ddynion a gollodd eu bywydau.

Cyfrannodd Robeson at gartref ymadfer Tal-y-garn ger Llantrisant hefyd. Adeiladwyd y plasty mawreddog tua 1880 ar gyfer y diwydiannwr G. T. Clark cyn iddo gael ei werthu i Bwyllgor Lles Glowyr De Cymru ym 1922. Ynghyd â'r driniaeth a gafodd miloedd o lowyr a anafwyd yn y tŷ a'r gerddi, roeddent yn mwynhau perfformiadau preifat gan Robeson ei hun hefyd.

Mae safle pafiliwn y pier a chartref ymadfer Tal-y-garn yn cael eu gwarchod fel Adeiladau Rhestredig erbyn hyn.

Rhoi rhywbeth yn ôl

Yn y 1950au, cafodd y Cymry gyfle i ad-dalu rhywfaint o haelioni Robeson. Wrth i'r Rhyfel Oer ddatblygu rhwng yr UDA a'r Undeb Sofietaidd, cafodd ei ddal yng nghanol yr helfa baranoid am ysbiwyr Comiwnyddol. Gwaharddwyd Robeson rhag perfformio a chafodd ei basbort ei ganslo, ac felly nid oedd yn gallu gadael yr UDA. Fe wnaeth y cymunedau yng Nghymru yr oedd wedi'u helpu chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch ryngwladol 'Let Paul Robeson Sing!' gan gyflwyno deiseb i Oruchaf Lys yr UDA ar ei ran.

Ym 1957, ac yntau'n dal i fethu â theithio, canodd dros y ffôn i bafiliwn gorlawn o 5,000 o bobl ym Mhorthcawl ar gyfer Eisteddfod y Glowyr. Erbyn hyn, mae gan y theatr restredig 'Ystafell Paul Robeson' er anrhydedd iddo, a'r Park and Dare Theatre, yn yr un modd, sef cartref Côr Meibion Treorci a berfformiodd yn yr Eisteddfod hefyd.

Paul Robeson standing at podium at National Eisteddfod, Ebbw Vale 1958

National Eisteddfod, Ebbw Vale 1958. © South Wales Miners' Library. Casgliad y Werin Cymru.

Ar y rheng flaen

Yng nghyngerdd Porthcawl, cyflwynwyd Robeson gan Will Paynter, Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru a chyn-filwr Rhyfel Cartref Sbaen. Pan arweiniodd cadfridogion ffasgaidd chwyldro yn erbyn llywodraeth etholedig Sbaen, ymladdodd cannoedd o wirfoddolwyr o Gymru i amddiffyn democratiaeth Sbaen. Ym 1938, canodd Paul Robeson i'r milwyr hyn ar y rheng flaen. Yn ddiweddarach, yng Nghyfarfod Coffa Cenedlaethol Cymru i'r 33 o Gymry a laddwyd yn y rhyfel, dywedodd 'These fellows fought not only for Spain, but for me and the whole world.' Cynhaliwyd y cyfarfod coffa ym Mhafiliwn Aberpennar, a gafodd ei ddymchwel yn 2007.

Spanish civil war memorial - close up of plaque

Cofeb rhyfel cartref Sbaen. © Hawlfraint y Goron 2022.

Cysylltiadau teuluol

Roedd Robeson yn ymweld â'i ewythr, Aaron Mossell, yn aml, a oedd yn byw yn Tiger Bay Caerdydd am 20 mlynedd a mwy. Yn y 1930au, ymgyrchodd Mossell yn erbyn cynghorwyr hiliol yng Nghaerdydd ac am dâl tecach i forwyr du. Mae dociau Bae Caerdydd wedi'u rhestru, ond ychydig sy'n weddill o gartrefi'r morwyr a gweithwyr y porthladd. Cafodd cartref Mossell yn Sgwâr Loudon ei ddymchwel yn y 1960au ac adeiladwyd tyrau fflatiau Loudon a Nelson yn ei le.

Paul Robeson walking with banner at anti-segregation march 1948

Robeson on an anti-segregation march 1948. © South Wales Miners' Library. Casgliad y Werin Cymru.

Mae'r Gymru yr oedd Paul Robeson yn gyfarwydd â hi ac a oedd mor annwyl iddo, gyda'i phyllau glo, neuaddau cerddoriaeth a Tiger Bay, wedi diflannu i bob pwrpas. Ond pe bai'n ymweld â Chymru heddiw, byddai'n dal i adnabod llefydd fel Tal-y-garn, dociau Caerdydd, Pafiliwn Porthcawl a rhai o greiriau rhestredig y diwydiant glo.

Gallwch archwilio pa dreftadaeth sy'n cael ei gwarchod yn eich ardal eich hun drwy ymweld â map rhyngweithiol, ar-lein Cadw, Cof Cymru sy'n cynnwys gwybodaeth am yr henebion hanesyddol sy'n gysylltiedig â phobl dduon dylanwadol eraill o orffennol Cymru.

(Dyma fersiwn wedi'i olygu o erthygl a ymddangosodd yn flaenorol yng nghylchgrawn Etifeddiaeth y Cymry aelodau Cadw).

Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

Dyma rai ffigurau enwog eraill yn hanes Cymru a'r henebion rhestredig sy'n gysylltiedig â nhw.

Cymru a'i Threftadaeth Ddu