Skip to main content

Adeiladau Rhestredig

Addoli hanesyddol

Yn y canllaw hwn

1. Yr Esemptiad Eglwysig

O dan yr esemptiad eglwysig, nid oes yn rhaid i rai enwadau crefyddol gael cydsyniad adeilad rhestredig oddi wrth awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer gwaith ar eu haddoldai rhestredig. Mae'r enwadau hynny wedi dangos bod ganddynt systemau craffu a rheoli mewnol sydd o leiaf gystal â’r trefniadau cydsynio sydd gan yr awdurdodau cynllunio lleol.

Daeth Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018 i rym ar 1 Ionawr 2019 yng Nghymru. Fe wnaeth y Gorchymyn hwn — sydd i’w weld ar legislation.gov.uk — ddiweddaru’r drefn esemptiad eglwysig ac egluro agweddau ar ei gweithrediad.

O 1 Ionawr 2019 ymlaen, bydd yr enwadau isod yn esempt yng Nghymru:

  • Undebau Bedyddwyr Prydain Fawr a Chymru
  • yr Eglwys yng Nghymru
  • Eglwys Loegr
  • yr Eglwys Fethodistaidd
  • yr Eglwys Gatholig.

Dyma'r newidiadau pwysicaf a wnaed gan Orchymyn 2018 i'r ffordd y mae'r esemptiad yn cael ei ddefnyddio:

  • nid yw'r esemptiad eglwysig yn berthnasol bellach i gydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer dymchwel adeiladau heb eu rhestru mewn ardaloedd cadwraeth
  • mae adeiladau ac adeileddau, boed yn rhaid rhestredig neu beidio, sydd o fewn cwrtil adeilad eglwysig rhestredig yn dod o dan systemau rheoli'r enwadau erbyn hyn.  

I gael rhagor o wybodaeth am yr esemptiad eglwysig, lawrlwythwch y canllawiau newydd ar arferion gorau, Rheoli Newid i Fannau Addoli Rhestredig yng Nghymru: Esemptiad Eglwysig, sydd wedi cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â'r Gorchymyn newydd.  

Mae'r canllawiau yn nodi'r egwyddorion arweiniol i'w hystyried wrth fynd ati i gynllunio newidiadau i fannau addoli rhestredig sy'n dod o dan Orchymyn 2018. Maent hefyd yn cynnwys cod ymarfer ar gyfer gweithdrefnau cydsynio’r enwadau, sy'n egluro sut y dylid cynnwys yr egwyddorion hynny wrth wneud gwaith rheoli a gwneud penderfyniadau.

2. Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Addoldai Hanesyddol yng Nghymru

Mae i addoldai le pwysig yn amgylchedd hanesyddol Cymru. Maent yn adeiladau cain. Mae cymaint â 3,000 o addoldai wedi'u rhestru - gan gynnwys 214 gradd I - sy'n dangos eu harwyddocâd yn bensaernïol ac yn hanesyddol. Ond mae ansawdd eu pensaernïaeth a'u crefftwaith hefyd yn adlewyrchu eu pwysigrwydd ym mywyd diwylliannol Cymru ar hyd y canrifoedd.

Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd ein haddoldai hanesyddol ledled Cymru o dan fygythiad ar hyn o bryd am nifer o resymau, gan gynnwys cynulleidfaoedd yn mynd yn llai, amharodrwydd i ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol neu'r capasiti i'w symud yn eu blaen. Ar hyn o bryd, mae tua 10% o addoldai rhestredig dan fygythiad neu'n fregus. Heb ymyrraeth, mae'r ffigur hwn yn debygol o godi wrth i fwy o adeiladau beidio â chael eu defnyddio'n rheolaidd ac wrth i'r adnoddau sydd ar gael i ofalu amdanynt leihau.  

Nod y cynllun gweithredu hwn felly, yw darganfod ffyrdd y gall yr adeiladau hyn, y mae meddwl mawr ohonynt, gadw neu adennill eu gwerth wrth galon cymunedau Cymru, gan gynnal neu wella eu harwyddocâd. Dylai'r cynllun helpu i gefnogi'r gwaith o reoli newid er mwyn iddo fod yn ymatebol i'r gwerth amrywiol a allai fod i'r adeiladau a galluogi i ystod lawn o opsiynau gael eu hystyried wrth nodi trefniadau priodol er mwyn eu defnyddio a gofalu amdanynt yn y dyfodol. I'r perwyl hwn, mae'r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau yn defnyddio, yn mwynhau ac yn gofalu am ein haddoldai hanesyddol.

3. Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru