Adeiladau rhestredig sydd mewn perygl
Yn y canllaw hwn
1. Rheoli adeiladau rhestredig sydd mewn perygl
Mae adeiladau rhestredig yn rhan werthfawr o’n treftadaeth. Maen nhw’n rhan hanfodol o gymeriad ein tirweddau a’n trefluniau, ac yn creu cysylltiad pwysig rhyngom ni a’n gorffennol. Maen nhw hefyd yn amgylcheddau arbennig y gallwn fyw a gweithio ynddynt, ac ymweld â nhw a’u mwynhau.
Mae adeiladau rhestredig sy’n cael eu defnyddio yn cynrychioli buddsoddiad o ran egni, deunyddiau, sgiliau, llafur a gwybodaeth na ellir ei ddyblygu. Ond, er mwyn manteisio ar eu gwerth yn llawn, mae hefyd angen eu cadw mewn cyflwr da a’u cefnogi â mathau o berchnogaeth sy’n gallu eu cynnal yn yr hirdymor. Mae’r rhan fwyaf o’n hadeiladau rhestredig eisoes yn cael eu defnyddio’n briodol a’u cadw mewn cyflwr da gan eu perchnogion, ond mae rhai’n wag neu’n cael eu hesgeuluso. Ein nod yw sicrhau bod adeiladau rhestredig mewn cyflwr sefydlog, yn cael eu defnyddio mewn ffordd fuddiol ac o dan berchnogaeth briodol yn yr hirdymor.
Mae Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru yn nodi problemau a’u hachosion, a sut i’w rheoli drwy gymryd camau cadarnhaol lle y bo modd neu fesurau gorfodi lle y bo angen. Mae’n amlinellu’r berthynas allweddol rhwng y defnydd a wneir o adeilad, ei berchnogaeth a’i gyflwr, a sut y gellir rheoli’r cydbwysedd gofalus rhwng yr elfennau hyn er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru hefyd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau perchnogion, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae’n dangos sut y gall polisïau a rhaglenni ar gyfer rheoli adeiladau rhestredig sydd mewn perygl fod yn llwyddiannus, ond hefyd yn esbonio’r pwerau statudol y gellir eu defnyddio i warchod adeiladau rhestredig sydd mewn perygl lle y bo hynny’n briodol.
Mae Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru yn bennaf ar gyfer adrannau cadwraeth, cynllunio, tai, adfywio a datblygu awdurdodau lleol. Gall hefyd fod o ddiddordeb i berchnogion, deiliaid ac asiantau, yn ogystal â chymunedau lleol a sefydliadau’r trydydd sector sydd â rôl hollbwysig yn y gwaith o ofalu am adeiladau rhestredig sydd mewn perygl.
Mae Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru yn ategu Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.
2. Cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru
Un o elfennau allweddol gweithgarwch Cadw mewn adfywio’r dreftadaeth yw cymryd camau sy’n gysylltiedig ag asedau treftadaeth sy’n dirywio. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddod o hyd i niferoedd a mathau’r adeiladau rhestredig yng Nghymru sydd mewn perygl. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio gan yr awdurdodau lleol a Cadw i fwydo strategaethau yn y dyfodol, gan gynnwys rhoi grantiau.
Mae arolygon o gyflwr adeiladau rhestredig yn cael eu cyflawni yng Nghymru ers mwy na 15 mlynedd. Cyn 2012, roedd yr arolygon yn cael eu comisiynu’n uniongyrchol gan yr awdurdodau lleol gyda chyllid a oedd yn cael ei ddarparu gan Cadw. Ond, ar ddiwedd 2012, er mwyn sicrhau ymagwedd gyson ledled Cymru, penododd Cadw ymgynghorwyr, sef Partneriaeth Handley, i gynnal adolygiad ledled Cymru o gyflwr adeiladau rhestredig dros gyfnod treigl o bum mlynedd, gan arolygu tuag 20% o stoc yr adeiladau rhestredig yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd y rhaglen o arolygon yn sicrhau bod cyflwr y cyfan o’r 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei asesu gan ddefnyddio methodoleg gyson.
Caiff adroddiadau diweddaru rheolaidd eu llunio ac mae’r diweddaraf, ar gyfer 2015, ar gael isod. Mae’r adroddiad yn dangos bod y duedd ynglŷn ag adeiladau sydd mewn perygl yn symud yn y cyfeiriad cywir. Mae nifer yr adeiladau sydd mewn cyflwr ‘mewn perygl’ neu ‘agored i niwed' wedi gostwng ers y data tebyg diwethaf sydd ar gael (2013) ac mae canran yr adeiladau sydd mewn perygl wedi gostwng o 8.92% i 8.54%. Mae’r ffigur yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio data’r arolygon presennol a’r data diweddaraf sydd ar gael am yr 20% o’r stoc adeiladau sydd wedi’i ail-arolygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.