Skip to main content

Rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu cydnabod yn llefydd o Werth Cyffredinol Eithriadol yn unol â’r Confensiwn ynghylch Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd, UNESCO 1972. Mae gan bob Safle Treftadaeth y Byd Ddatganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol, sy’n esbonio pam mae’r safle wedi cael ei ddynodi. Dylai’r datganiad hwn fod yn sail i bob penderfyniad rheoli.

Mae ein ffordd o fynd ati i ddiogelu a rheoli Safleoedd Treftadaeth y Bydd mewn ffordd gynaliadwy yn seiliedig ar dair egwyddor.

1. Dynodi asedau hanesyddol penodol – henebion cofrestredig, adeiladau rhestredig, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, ac ardaloedd cadwraeth

- ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn ogystal â’r prosesau ar gyfer rheoli gwaith arnynt.

2. Llunio a gweithredu cynlluniau rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd ar y cyd sy’n cynnwys pob rhanddeiliad allweddol.

3. Defnyddio’r system cynllunio gofodol i lywio gwaith datblygu priodol

Mae gan awdurdodau cynllunio lleol yn benodol gyfraniad allweddol i’w wneud o ran rheoli newid. Er nad oes unrhyw reolaethau statudol ychwanegol yn deillio o ddynodiad Treftadaeth y Byd, dylai awdurdodau cynllunio lleol, os yw’n briodol, gynnwys polisïau lleol ar ddiogelu a gwneud defnydd cynaliadwy o Safle Treftadaeth y Byd yn y cynllun datblygu lleol. Dylai’r polisiau hyn fod yn berthnasol i’r safle ei hun a’i leoliad, gan gynnwys unrhyw glustogfa neu ardaloedd cyfatebol.

Mae newid yn anorfod, ond mae angen ei reoli’n ofalus. Nid yw hyn yn golygu atal newid; yn syml, caiff ei reoli er mwyn helpu i wneud defnydd cynaliadwy o’r dirwedd, ond gan gadw a gwarchod yr hyn sy’n bwysig o’r gorffennol a diogelu gwerth cyffredinol eithriadol y Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru yn cyflwyno’r egwyddorion cyffredinol ar gyfer deall a rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yma yng Nghymru, gan gynnwys sut maen nhw’n cael eu diogelu drwy’r system gynllunio. Hefyd, mae’n cynnwys rhestr eirfa i esbonio termau Safleoedd Treftadaeth y Byd fel clustogfa, cyfanrwydd, dilysrwydd.

Mae’r arweiniad arferion gorau hwn wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer y sawl sy’n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, ymgymerwyr statudol a darpar ddatblygwyr, er mwyn codi proffil Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru a’u helpu i reoli newid heb gael effaith andwyol ar eu Gwerth Cyffredinol Eithriadol. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i reolwyr a rhanddeiliaid Safleoedd Treftadaeth y Byd er mwyn llywio cynlluniau rheoli, law yn llaw ag Operational Guidelines for the Implementation of the World Heritage Convention UNESCO.

Mae Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru yn ategu adrannau perthnasol Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.

Mae Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn esbonio beth yw lleoliad, sut mae’n cyfrannu ar arwyddocâd ased hanesyddol a pham mae’n bwysig. Hefyd, mae’n nodi’r egwyddorion a ddefnyddir i asesu effaith bosibl cynigion datblygu neu gynigion ar gyfer rheoli tir o fewn lleoliadau Safleoedd Treftadaeth y Byd, henebion (cofrestredig ac anghofrestredig), adeiladau rhestredig, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth.