Skip to main content

Tirweddau hanesyddol cofrestredig

Mae tirwedd Cymru yn adnodd hanfodol ar gyfer lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hefyd yn hanesyddol — wedi'i ffurfio gan weithgarwch dynol ac yn llawn tystiolaeth o'r gorffennol. Er mwyn cydnabod gwerth tirweddau hanesyddol a chodi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd mae Cadw wedi llunio Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru. Mewn dwy gyfrol, mae'n nodi 58 o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol eithriadol neu arbennig, yr ystyrir mai hwy yw'r enghreifftiau gorau o'r gwahanol fathau o dirweddau hanesyddol yng Nghymru.

Mae'r Gofrestr yn rhoi gwybodaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rheolwyr tirwedd, i helpu i sicrhau y cynhelir cymeriad hanesyddol y dirwedd ac, os ystyrir newid y dirwedd, fod hynny'n seiliedig ar wybodaeth.

Mae canllaw arfer da yn esbonio sut y dylid defnyddio'r Gofrestr o dirweddau yn y broses Cynllunio a Datblygu i asesu effaith datblygiadau mawr ar y dirwedd hanesyddol.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae'r broses hon yn edrych yn fanylach ar y dirwedd hanesyddol drwy ddangos y prosesau sydd wedi ffurfio'r dirwedd dros ganrifoedd o weithgarwch dynol, gan gyfrannu at ei chymeriad presennol. Mae astudiaethau manwl i ddisgrifio nodweddion y dirwedd hanesyddol wedi'u cynnal gan y pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru ar gyfer pob un o'r 58 o ardaloedd ar y Gofrestr. Mae'r astudiaethau hyn ar gael ar wefannau Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru. Maent yn ffynhonnell dda o wybodaeth am hanes y dirwedd ac fe'u defnyddir gan lywodraeth leol a datblygwyr i helpu i asesu effaith cynigion datblygu ar y dirwedd hanesyddol.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Mae Gofalu am Dirweddau Hanesyddol Cymru yn egluro pwysigrwydd cyffredinol a gwerth tirweddau hanesyddol yng Nghymru ac yn rhoi cyflwyniad da i’r sawl sydd am ddysgu rhagor am yr agwedd hon ar ein gorffennol cyfoethog ac amrywiol.