Skip to main content

Henebion Cofrestredig

Canllawiau arfer gorau

Yn y canllaw hwn

1. Gofalu am Dreftadeath yr Arfordir

Mae arfordir ysblennydd Cymru wedi denu ymsefydlwyr ers miloedd o flynyddoedd. O’r helwyr cyn hanes i’r diwydianwyr Fictorianaidd,mae pobl wedi gadael eu hôl parhaol ar yr arfordir ac mae llawer o’r hyn a welwn heddiw wedi ei lunio gan eu gweithgareddau. Ond mae’r dystiolaeth yn aml yn fregus, ac unwaith y caiff ei cholli, mae wedi diflannu am byth.  Mae diogelu a chadw’r gymunrodd hanesyddol wych hon yn cael ei ysgwyddo gan nifer o sefydliadau – preifat a chyhoeddus, lleol a chenedlaethol – ac mae’n bwysig bod y modd yr ystyrir ein hamgylchedd hanesyddol yn cael ei adlewyrchu’n gywir ym mholisïau a gweithredoedd pob un ohonynt.

I gynorthwyo ein dealltwriaeth o’r sefyllfa, mae Cadw, gyda chymorth Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi ariannu’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru i gwblhau arolwg archaeolegol cyflym o arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd. Mae’r llyfryn hwn yn defnyddio eu gwaith ac mae’n dilyn rhai o’r prif ddatblygiadau hanesyddol a adlewyrchir yn yr henebion sy’n goroesi heddiw. Darperir cyngor hefyd ar sut i ofalu am ein treftadaeth arfordirol a gobeithir y bydd y wybodaeth hon o gymorth a diddordeb i bawb sy’n ymwneud â rheoli’r arfordir.

 

2. Gofalu am Fryngaerau a Ffermdai

Mae gan Gymru rai o’r bryngaerau mwyaf trawiadol o’r Oes Haearn ym Mhrydain, yn ogystal â nifer o aneddiadau amddiffynedig llai, ffermdai, grwpiau o dai crwn (gelwir y rhain yn glystyrau cytiau weithiau) a systemau caeau. Er y gall rhagfuriau bryngaer gynhanesyddol fod yn ddigon uchel i ddenu sylw ac ymwelwyr hyd yn oed heddiw, dros ddwy fil o flynyddoedd ar ôl eu codi, roedd tai’r trigolion yn aml yn llai sylweddol. Mae waliau clai a phostiau pren y tai crwn wedi hen ddadfeilio, ac yn aml nid oes fawr i’w weld ar y wyneb i awgrymu faint o nodweddion archeolegol sydd o dan y ddaear, ond yn aml ceir rhagor o wybodaeth bwysig o dan y ddaear.

Mae goroesiad neu ddinistriad safleoedd archeolegol yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y defnydd tir dros y blynyddoedd. Cafodd gwelliannau amaethyddol yn y gorffennol effaith sylweddol ar eu goroesiad: mae caeau, aredig a chlirio caeau oll wedi cyfrannu at ddymchwel henebion a safleoedd archeolegol. Gwnaed llawer o ddifrod hefyd yn sgîl plannu coedwigoedd mawr ar ucheldir yn y 1960au: cafodd rhai bryngaerau eu gorchuddio â choed conwydd. Fodd bynnag, mae llawer o safleoedd a henebion wedi goroesi, boed yn seiliau o garreg neu’n gloddwaith, ar lethrau pori, mewn coetir ac ar fryniau, neu fel nodweddion archeolegol wedi'u claddu o dan dir âr ein hiseldiroedd ffrwythlon.

Mae’r llyfryn hwn yn disgrifio rhai o henebion yr Oes Haearn a geir yng nghefn gwlad Cymru ac yn esbonio eu pwysigrwydd i’n dealltwriaeth o’r gorffennol. Mae hefyd yn ystyried y ffactorau sydd wedi effeithio ar eu goroesiad a’r pwysau a wynebir gan nifer o safleoedd heddiw. Mae’n disgrifio rhai o’r camau gweithredu syml a’r mesurau cadwraeth y gall perchnogion a rheolwyr tir eu cymryd i helpu i warchod bryngaerau a ffermdai ein hynafiaid o’r Oes Haearn.

 

3. Gofalu am Henebion ar y Fferm

Bu rheoli tir yn ffactor allweddol erioed o ran goroesiad nodweddion hanesyddol, a thirfeddianwyr a thenantiaid unigol sy’n gyfrifol am ofalu amdanynt o ddydd i ddydd o hyd.  Cydnabyddir hyn drwy nifer o gynlluniau grant a mentrau sy’n annog amaeth gynaliadwy sy’n gydnaws â chynefinoedd naturiol a’r amgylchedd hanesyddol.  Mae’r llyfryn hwn yn disgrifio rhai o’r henebion a geir yng nghefn gwlad Cymru ac yn esbonio eu pwysigrwydd i’n dealltwriaeth o’r gorffennol. Mae hefyd yn ystyried y  factorau sydd wedi effeithio ar eu goroesiad a’r pwysau a wynebir gan nifer o safleoedd heddiw. Mae’n disgrifio rhai o’r camau gweithredu syml sy’n gallu helpu ffermwyr a rheolwyr tir I warchod yr elfen bwysig hon o’r amgylchedd hanesyddol ehangach ar gyfer y dyfodol.

4. Gofalu am Ffermydd Coll

O fynyddoedd Eryri i wastatiroedd arfordirol Sir Fynwy mae cefn gwlad Cymru yn frith o dai a ffermydd anghyfannedd sy’n adlewyrchu llanw a thrai anheddu dros nifer fawr o ganrifoedd. Boed yn fythynnod gweithwyr amaethyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu’n dai ffermwyr o’r Oesoedd Canol, cartrefi coll y boblogaeth wledig yng Nghymru yw’r aneddiadau anghyfannedd hyn. Ynddynt y mae tystiolaeth a allai ddweud wrthym am y bobl a fu’n byw yno ar un adeg.

Bu ymchwiliadau yn y gorffennol yn aml yn canolbwyntio ar weddillion mawreddog, bryngaerydd yr Oes Haearn, a chestyll Normanaidd uchelwyr y gymdeithas. Ond nid yw treftadaeth Cymru yn ymwneud â chyfoeth a braint yn unig — beth am fywyd y ffermwr, y crefftwr, y bugail a’r labrwr?

Prin iawn yw’r cofnodion ysgrifenedig sy’n sôn am y werin. Os ydym yn dymuno dysgu mwy mae’n rhaid i ni droi at archeoleg.Wedi eu gwasgaru drwy’r dirwedd mae olion eu cartrefi, bythynnod adfeiliedig, sylfaeni adeiladau anghyfannedd a llwyfannau wedi eu creu i gynnal tai. Efallai mai prin yw’r olion ond gallant fod yn ffynhonnell annisgwyl o gyfoethog ar gyfer ymchwiliadau archeolegol.

Sefydlwyd yr Arolwg Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd er mwyn ymchwilio i’r tai a’r ffermydd coll hyn a’u cofnodi.  Mae’r llyfryn hwn yn rhoi braslun o ganfyddiadau’r astudiaeth honno. Ein gobaith yw y bydd yn tynnu sylw at y safleoedd hynod ddiddorol hyn, yn ennyn diddordeb ynddynt ac yn rhoi gwybodaeth i ni am y ffordd o ofalu am yr adnodd pwysig hwn ar gyfer astudio hanes y Gymru wledig.

 

5. Gofalu am Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif

Mae amddiffyn yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn archeoleg Cymru. Mae gan Gymru, sy’n haeddiannol enwog am ei bryngeyrydd trawiadol o’r Oes Haearn a’i chestyll canoloesol mawreddog, olion milwrol o bwys rhyngwladol hefyd sy’n gysylltiedig â brwydrau’r ugeinfed ganrif: yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–1918), yr Ail Ryfel Byd (1939–1945), a’r Rhyfel Oer (1946–1989).

Dymchwelwyd llawer o safleoedd drwy gynlluniau clirio swyddogol neu maent wedi diflannu o ganlyniad i welliannau amaethyddol, gweithgarwch plannu coedwigoedd a gweithgarwch datblygu. Fodd bynnag, mae llawer wedi goroesi, naill ai fel strwythurau sy’n dal i sefyll neu nodweddion archeolegol claddedig. Mae’r digwyddiadau a arweiniodd at eu creu wedi effeithio’n ddirfawr ar ein teuluoedd, ein cymunedau a’n tirwedd, ac mae diddordeb y cyhoedd yn yr olion hyn yn cynyddu. Mae p’un a fyddant yn goroesi neu’n cael eu dinistrio yn dibynnu ar y modd y cant eu rheoli yn y dyfodol.

Mae’r llyfryn hwn yn cyflwyno’r amrywiaeth o safleoedd milwrol o’r ugeinfed ganrif sydd i’w gweld yng Nghymru ac yn esbonio eu pwysigrwydd i’n dealltwriaeth o’r gorffennol diweddar. Mae’n disgrifio’r ffactorau sy’n effeithio ar eu goroesiad. Gan dynnu ar brofiad Cadw a’i bartneriaid, mae’n disgrifio rhai camau syml y gall perchenogion a rheolwyr tir eu cymryd i helpu i ofalu am ein treftadaeth filwrol ddiweddar.

6. Gofalu am Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Beth rydym yn ei olygu gan henebion angladdol a defodol cynhanesyddol a pham y dylem eu hystyried yn bwysig?  Mae meini hirion, cylchoedd cerrig, beddrodau siambr a charneddau yn enghreifftiau o henebion a adeiladwyd gan ein hynafiaid cynhanesyddol at ddibenion defodol ac er mwyn cofio am y meirw a chadw eu gweddillion. Yn ogystal â bod yn nodweddion pwysig yn y dirwedd, mae’r safleoedd archeolegol hyn yn cynnwys gwybodaeth werthfawr ar gyfer amrywiaeth eang o astudiaethau, o gosmoleg a chrefydd i ddeiet ac iechyd ac i boblogaeth a chymdeithas. Gan nad oes unrhyw gofnodion ysgrifenedig o’r cyfnod hwn yn hanes dynolryw, erys safleoedd o’r fath yn hollbwysig i’n helpu i ddeall bywyd a chymdeithas yn y cyfnod cynhanesyddol yn well.

Yn gysylltiedig â’r olion y gellir eu gweld efallai y bydd dyddodion archeolegol wedi’u claddu. Gall y rhain gynnwys cyfoeth o wybodaeth bwysig na sylwir arni yn aml ac nas cofnodir byth os cânt eu difrodi. Er enghraifft, gall golosg o danau ac aelwydydd hynafol roi dyddiadau radiocarbon; mae crochenwaith, offer fflint a gwaith metel yn gallu taflu goleuni ar ddiwylliant a chymdeithas; a gall paill, hadau a malwod hynafol helpu’r archeolegwr i ddisgrifio’r amgylchfyd cynhanesyddol. 

Mae pobl wedi byw yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn Ewrop ers miloedd o flynyddoedd, ond mae’r dystiolaeth archeolegol am hynny yn adnodd bregus a gwerthfawr cyfyngedig.  Dim ond drwy wyliadwriaeth a gofal parhaus y bydd olion bregus ein gorffennol yn goroesi. Mae’r llyfryn hwn yn disgrifio ac yn esbonio’r henebion eu hunain ac yn rhoi cyngor ar sut i ofalu amdanynt a’u rheoli.

7. Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru

Mae Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru yn rhestru’r egwyddorion cyffredinol y dylid cadw atyn nhw wrth reoli a gwneud newidiadau i henebion cofrestredig. Mae’n esbonio sut i wneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r perchennog a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Prif gynulleidfa’r canllaw hwn o’r arferion gorau yw perchenogion, meddianwyr a rheolwyr henebion cofrestredig. Mae’n esbonio’r hyn y mae bod yn berchen ar heneb yn ei olygu, sut mae gofalu amdani a ble i fynd am help.

8. Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru

Mae Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn egluro beth yw lleoliad, a sut y mae'n cyfrannu at bwysigrwydd ased hanesyddol a pham bod hyn yn bwysig. Mae'n rhoi amlinelliad o'r egwyddorion sy'n cael eu defnyddio i asesu effaith bosibl datblygiad neu gynigion i reoli tir o fewn lleoliadau Safleoedd Treftadaeth y Byd, henebion (rhestredig a heb eu rhestru), adeiladau rhestredig, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu at ddatblygwyr, perchnogion ac asiantwyr, a ddylai ei ddefnyddio i lywio cynlluniau rheoli a chynigion ar gyfer newid a allai gael effaith ar bwysigrwydd ased hanesyddol a'i leoliad.