Henebion Cofrestredig
Ymchwiliadau archaeolegol
Yn y canllaw hwn
1. Ymchwilio i’ch heneb
Mae llawer o ffyrdd i ymchwilio i’ch heneb gofrestredig, o ymchwil hanesyddol i ymchwiliad archaeolegol. Bydd angen cydsyniad heneb gofrestredig i ddefnyddio technegau fydd yn aflonyddu’r pridd neu’r gwaith maen, ond mae digonedd o bethau y gallwch eu gwneud heb gydsyniad ffurfiol. Os nad chi yw perchennog y tir, dylech ofyn caniatd y perchennog os oes angen mynd ar y tir arnoch.
Os ydych chi’n ystyried cynnal ymchwiliad i’r heneb gofrestredig, byddai’n well cysylltu â Cadw i’ch helpu i gynllunio’r ffordd orau o wneud hynny.
2. Cynnal arolygon
Nid oes angen ichi ddweud wrth Cadw ymlaen llaw os ydych am gynnal arolwg arwynebol nad oes angen cydsyniad i’w gynnal. Mae arolygon o’r fath yn cynnwys arolygon topograffig, arolygon ffotograffig, arolygon lidar (laser) ac arolygon ffotograffig o’r awyr. Ond byddai’n ddefnyddiol i Cadw gael gwybod bod gwaith o’r fath yn cael ei wneud ac i weld copi o’r canlyniadau. Dylech anfon copi at eich cofnod amgylchedd hanesyddol lleol hefyd, sy’n cael ei reoli gan Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru ac at Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Er mwyn cynnal arolygon ymchwiliadol i chwilio am archaeoleg ac arteffactau dan ddaear a’u hadnabod, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig Cadw cyn dechrau. Mae hynny’n cynnwys arolygon geoffisegol (magnetometreg, gwrthedd, derbynnedd magnetig a radar sy’n treiddio’r ddaear) a samplu pridd. Mae’n drosedd defnyddio’r technegau hyn mewn safle cofrestredig heb gael pob caniatâd sydd ei angen. Bydd Cadw yn rhoi cydsyniad fel arfer i gynnal arolygon geoffisegol. Cydsyniad adran 60 yw enw’r cydsyniad hwn.
Pan fydd Cadw yn rhoi cydsyniad i gynnal ymchwiliad, rhaid gofalu bod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd eu gweld trwy roi copi o’r adroddiad terfynol i’ch cofnod amgylchedd hanesyddol lleol ac i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd hynny’n fodd i wneud yn siŵr fod pawb yn cael elwa ar yr wybodaeth newydd am yr heneb. Byddem hefyd yn annog yr ymchwilwyr i gyhoeddi’u canlyniadau mewn cyfnodolion a llyfrau addas.
Bydd angen cydsyniad adran 60 i gynnal arolwg geoffisegol.
3. Cloddio
Er mai cloddio yw’r ffordd orau yn aml i ddysgu am y gorffennol, mae’n weithred ddinistriol ac nid ar chwarae bach y mae dechrau arni. Unwaith y bydd rhywbeth wedi’i gloddio, ni fydd modd ei roi yn ôl yn ei le ac ni fydd cyfle i genedlaethau’r dyfodol fynd yn ôl i ailwneud y gwaith. Am y rheswm hwnnw, rhaid i geisiadau am gydsyniad i gloddio henebion cofrestredig ddangos bod y manteision o gael gwybodaeth newydd yn debygol o fod yn fwy na’r difrod a achosir gan y cloddio.
Rhaid sicrhau bod gan brosiectau cloddio y staff cymwys a’r adnoddau ariannol i weithio at y safonau uchaf. Rhaid i bob prosiect cloddio ar heneb gofrestredig gadw at y canllaw ar arferion gorau a baratowyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA). Rhaid i ddyluniad yr ymchwil esbonio pam mae angen cloddio’r heneb a cheisio cadw’r aflonyddu mor fach â phosibl, gan ddilyn cyngor yr Egwyddorion Cadwraeth.
Pan fydd Cadw yn rhoi cydsyniad i gynnal ymchwiliad, rhaid gofalu bod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd eu gweld trwy roi copi o’r adroddiad terfynol i’ch cofnod amgylchedd hanesyddol lleol ac i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd hynny’n fodd i wneud yn siŵr fod pawb yn cael elwa ar yr wybodaeth newydd am yr heneb. Byddem hefyd yn annog yr ymchwilwyr i gyhoeddi’u canlyniadau mewn cyfnodolion a llyfrau addas.
byddwch yn cynnal gwaith cloddio, bydd angen ichi drefnu bod yr archif archaeolegol yn cael ei rhoi i gadw’n ddiogel mewn amgueddfa gofrestredig yn unol â chanllawiau cenedlaethol fel ei bod ar gael i’w hastudio yn y dyfodol.
Bydd wastad angen gofyn am gydsyniad heneb gofrestredig i wneud gwaith cloddio.