Skip to main content

Ardaloedd cadwraeth

Mae dros 500 o ardaloedd cadwraeth yng Nghymru wedi’u dynodi gan awdurdodau cynllunio lleol dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae is-ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer gweithredu’r Ddeddf yn fanwl.

Deddfwriaeth sylfaenol

Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (Saesneg yn unig)

Y Ddeddf hon, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, yw’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n darparu ar gyfer y canlynol:

  • dynodi ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardal gadwraeth gan awdurdod cynllunio lleol
  • llunio a chyhoeddi cynigion yn rheolaidd gan awdurdod er mwyn diogelu a gwella ei ardaloedd cadwraeth
  • rhoi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella nodweddion neu olwg ardal gadwraeth wrth arfer swyddogaethau cynllunio
  • y gofyniad i gael cydsyniad ardal gadwraeth gan yr awdurdod lleol i ddymchwel adeilad anrhestredig mewn ardal gadwraeth
  • gwaith brys ar adeilad mewn ardal gadwraeth.

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli amryw o faterion manwl sy’n ymwneud â chymhwyso Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, gan gynnwys y canlynol:

  • y gofynion o ran ceisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth
  • materion yn ymwneud â cheisiadau gan gynnwys hysbysebu a chyfathrebu electronig
  • apeliadau yn erbyn penderfyniadau awdurdodau cynllunio lleol
  • hawliadau am ddigollediad
  • dymchwel adeiladau anrhestredig mewn ardaloedd cadwraeth.

Mae Rheoliadau 2012 wedi’u diwygio gan y Rheoliadau canlynol.

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017

Roedd y Rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau sy’n rheoli’r broses o atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch a materion yn ymwneud ag apeliadau.

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017

Roedd y Rheoliadau hyn yn cyflwyno gofyniad i gael datganiad o’r effaith ar dreftadaeth i gefnogi ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth, gan gymryd lle datganiad dylunio a mynediad.

Mae datganiad o’r effaith ar dreftadaeth yn gynnyrch proses strwythuredig yr asesiad o’r effaith ar dreftadaeth. Mae hyn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i arwyddocâd yr ased hanesyddol wrth ddatblygu cynigion ynghylch newid. Mae’n rhan graidd o’r broses ddylunio sy’n profi a yw’r cynigion ynghylch newid yn briodol drwy asesu eu heffaith ar arwyddocâd. Bydd materion ynghylch mynediad yn dal i gael eu hystyried yn llawn oni bai bod y gwaith arfaethedig yn ymwneud â phreswylfa breifat.

Ewch i’r dudalen ynghylch asesiadau o’r effaith ar dreftadaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017

Mae’r Gorchymyn hwn yn cadarnhau y telir llog ar Gyfradd Sylfaenol Banc Lloegr, yn ogystal â 2%, ar unrhyw dreuliau a ddaw i ran awdurdod lleol yn ystod gwaith brys, hyd nes y cânt eu hadennill.

Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018

Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn esemptio’r holl ‘adeiladau eglwysig sy’n cael eu defnyddio am y tro at ddibenion eglwysig’ yng Nghymru a Lloegr rhag rheolaethau cydsyniad adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth. Roedd Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018 yn dileu cydsyniad ardal gadwraeth o gwmpas yr esemptiad eglwysig.